Mae Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Cefnogi Rhagor o Fuddsoddi mewn Ystod o Brosiectau’r Fargen Ddinesig
Mae Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) heddiw (15fed o Fehefin) wedi cymeradwyo rhagor o fuddsoddi ar gyfer prosiectau allweddol y Fargen Ddinesig.
Y buddsoddiadau a gymeradwywyd yw:
Cyllid sbarduno gwerth £250,000 ar gyfer Fintech Cymru – corff dielw sy’n cynrychioli busnesau Technoleg Ariannol a Gwasanaethau Ariannol yng Nghymru.
Cynlluniwyd y cynigiad ar gyfer cyllid sbarduno i gynorthwyo twf clwstwr allweddol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac i sefydlu ecosystem arloesol ffyniannus yn y rhanbarth. Bwriad y dyraniad o gyllid sbarduno yw caniatáu rhaglen naw mis o wneud gwaith hanfodol i sefydlu ac i roi tystiolaeth o’r meini adeiladu sydd eu hangen i dyfu cynaliadwyedd y sector Technoleg Ariannol yn y rhanbarth ac yn ngweddill Cymru. Bydd y gwaith hwn, a fydd yn ymddangos mewn cyfres o astudiaethau ac adroddiadau, yn cynnwys asesiadau dichonoldeb i adeiladau canolfannau strategol yng Nghaerdydd, Pen-y-bont, a Chwmbran.
£40,000 i wneud cynnydd ar fuddsoddiad dichonol gwerth £4 miliwn ar gyfer cwmni data am ofal iechyd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae hwn yn ddatblygiad arloesol yn y maes gwyddor data sy’n gysylltiedig â gofal iechyd ar gyfer sefydliad sy’n darparu tystiolaeth annibynnol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd a’r diwydiant fferyllol.
Mae’r cynigiad ar gyfer buddsoddiad i gwblhau’r datblygu, a’r masnacheiddio dilynol, cynnyrch meddalwedd dadansoddol newydd sydd â’r potensial i gwtogi’r amser i ddadansoddi data o fisoedd i ddyddiau. Mae hyn yn neilltuol o berthnasol o’i ystyried yn amgylchedd cyfredol yr haint Covid-19.
Cytunwyd ar £40,000 o wariant o Gronfa Datblygu Rhaglenni’r Fargen Ddinesig er mwyn mynd â’r cynigiad hwn rhagddo drwy ddiwydrwydd dyladwy / a chreu achos busnes llawn.
Mae’r buddsoddiad hwn yn enghreifftio amcanion a deilliannau’r Fargen Ddinesig. Yn benodol, nod y cwmni yw cyflogi nifer fawr o raddedigion ac ôl-raddedigion lleol mewn swyddi sgiliau uchel a chyflog uchel sy’n swyddi diogel ymhell i’r dyfodol.
£125,000 i wneud cynnydd i gamau nesaf “Cronfa Fytholwyrdd” ar gyfer Adeiladau Strategol
Mae hwn yn fuddsoddiad gwerth dros £50 miliwn a fwriedir i gynorthwyo prosiectau datblygu diwydiannol sydd fel arall yn hyfyw, lle mae yna dystiolaeth o fethiant yn y farchnad sy’n effeithio ar hyfywedd ariannol. Bydd yna bwyslais neilltuol ar brosiectau sy’n cynorthwyo arloesi a chreu swyddi ac sy’n gwneud defnydd o safleoedd tir llwyd i greu lleoedd Gradd A neu gyfwerth.
Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i hyrwyddo datblygiad cynlluniau a allai fel arall ei chael hi’n anodd datblygu heb y math hwn o gymorth strategol oherwydd na allant gael yr holl gyllid y mae arnynt ei angen yn yr amgylchedd cyfredol.
Mae’r fenter hon yn gweld Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn symud ymaith oddi wrth fuddsoddiadau “busnes fel arfer”, ac mae’n ei galluogi i gynorthwyo mentrau fydd yn creu ymagweddau gwahaniaethol, ymagweddau fydd yn cynorthwyo gweithio gartref a lleol ac a fydd yn eu tro yn helpu i greu dyfodol newydd cadarnhaol.
Y cam nesaf yw penodi rheolwr cronfa a chynhyrchu achos busnes llawn dros fisoedd yr haf.
£120,000 i wneud cynnydd ar gynigiad i ddatblygu Parc Arloesedd Gwyddorau Bywyd yn Coryton, Caerdydd.
Mae hwn yn gynigiad i gyd-fuddsoddi â datblygwr a leolir yng Nghaerdydd i sefydlu’r safle fel canolfan strategol ar gyfer bwydo twf technoleg feddygol ranbarthol.
Mae cynigiad y prosiect yn ceisio darparu hyd at 225,000 troedfedd sgwâr o le swyddfa / Ymchwil a Datblygu Gradd A a lle a gwasanaethau ar gyfer oddeutu 2,000 o swyddi â gwerth uchel iddynt.
Mae’r prosiect hwn o arwyddocâd strategol i’r rhanbarth ac fe fydd yn helpu i hwyluso datblygiad y nodweddion sy’n gysylltiedig â sectorau mwy aeddfed, megis Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Cytundeb mewn egwyddor i Gronfa Her gwerth £10 miliwn.
Ailadeiladu cyfoeth lleol ar lefel sylfaenol yw un o’r 10 blaenoriaeth gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ar ôl Covid-19, a gyhoeddwyd ym mis Mai.
Mae’r rhaglen newydd arfaethedig gwerth £10 miliwn yn canolbwyntio ar ailadeiladu economïau lleol drwy ddatrys heriau cymdeithasol sydd ag effeithiau economaidd a chyfleoedd dichonol ar raddfa fasnachol.
Yn ymarferol, fe fydd hyn yn gweithio drwy ddewis dau i dri o heriau i ffurfio’r ffocws i gronfeydd her unigol, a’r syniad yw y cyfrannir at syniadau, datrysiadau a phrosiectau newydd sy’n cyfrannu at y momentwm newydd a ‘realiti newydd’ y byd ar ôl yr haint Covid-19.
Cymeradwywyd yr holl brosiectau, sydd wedi’u cyflwyno drwy Fframwaith Buddsoddi ac Ymyrryd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a lansiwyd yr haf diwethaf, ar ôl argymhelliad Panel Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys arweinwyr y 10 awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, sy’n ffurfio’r Cabinet:
“Mae’r pecyn hwn o fuddsoddiadau a gymeradwywyd yn dod at ei gilydd i wneud rhaglen uchelgeisiol o gymorth ar gyfer arloesi, cadernid a chysylltedd yn y Brifddinas-Ranbarth, ac fe ddaw yng nghanol cydnabyddiaeth bod yn rhaid i’r rhanbarth, mewn cyfnod o argyfwng, wneud beth bynnag y gall i helpu’i bobl, ei fusnesau a’i gymunedau, nid yn unig i oroesi’r argyfwng ond i ailymddangos yn gryfach ac wedi’i gyfarparu’n well i ffynnu yn y byd newydd.
“Rwyf yn hyderus bod y prosiectau rydym yn eu datblygu yn cynrychioli’r buddsoddiadau cywir. Bydd ein Cronfa Her, yn neilltuol, drwy ganfod ffyrdd newydd o ddatrys problemau dyrys, yn helpu i sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n hymdrechion cyfunol ar y pethau a gaiff yr effaith fwyaf.”
Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Nod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd erioed oedd gwneud y rhanbarth yn fwy cysylltiedig, yn fwy cystadleuol, ac yn gadarnach, a rhoi sylw i’r anghydraddoldebau cymdeithasol a daearyddol ynddo. Wrth i’r rhanbarth ailymddangos o’r cyfyngiadau symud a dechrau ymadfer, mae’r nod hwn wedi dod yn bwysicach nag erioed.
“Roedd y 10 blaenoriaeth y gwnaethom eu hailddatgan ym mis Mai yn cynrychioli lle y credwn y gallwn gynorthwyo’n busnesau a’n cymunedau’n fwyaf buddiol, ac fe wnaethom ail-gadarnhau mai’r sectorau blaenoriaethol roeddem wedi’u nodi i gael cymorth yw’r rhai hynny fydd yn helpu’n rhanbarth orau i ffynnu yn y dirwedd economaidd newydd. Mae’r penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet Rhanbarthol i ddatblygu’r gyfres ddiweddaraf hon o fuddsoddiadau yn cynrychioli cam mawr ymlaen i wireddu’r uchelgais a amlinellir yn ein blaenoriaethau, ac fe edrychaf ymlaen at gydweithredu â chydweithwyr ledled y sectorau, Llywodraeth Cymru a’r 10 awdurdod lleol i wneud cynnydd tuag at weithrediad.”