Mae tai da yn un o’r ffactorau allweddol sy’n creu ansawdd bywyd, ac eto, i lawer ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae cartref modern, o ansawdd da yn angen nad yw’n cael ei ddiwallu.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gymeradwyo cronfa buddsoddi tai gwerth £45 miliwn i helpu i ysgogi’r farchnad dai mewn ardaloedd lle mae yna ond ychydig o ddatblygiadau tai newydd wedi bod. A hithau’n cael ei galw’n “Cartrefi ar gyfer y Rhanbarth i gyd”, y bwriad wrth wraidd y gronfa yw darparu 2,800 o gartrefi newydd ledled pob un o’r 10 ardal awdurdod lleol yn y rhanbarth. Rhannir y gronfa yn ddwy is-gronfa: Cronfa Bwlch Hyfywedd Tai gwerth £35 miliwn, a Chronfa Cyllid Busnesau Bach a Chanolig gwerth £10 miliwn.
Datgloi Potensial
Bydd y Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai yn ceisio datgloi’r safleoedd segur hyn. Bydd hefyd yn rhoi hwb o’r newydd i adeiladu ac i greu swyddi, fe fydd yn gwella rhagolygon twf a chystadleugarwch hirdymor y rhanbarth, ac fe fydd yn rhoi sylw i’r dosbarthiad anghyson o dai a adeiladir ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Sicrhau gwell dosbarthiad o adeiladu tai ledled y rhanbarth
Mae’r ystadegau ar gyfer adeiladu tai yn portreadu darlun digon llwm. Gostyngodd nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd yn arw ar ôl yr argyfwng ariannol yn 2007, ac erbyn 2018 nid oedd eto wedi cyrraedd lefelau cyn yr argyfwng. Mae adferiad yn digwydd ac mae rhai bwrdeistrefi’n ffynnu, ond mae adferiad yn anghyson, ac wedi’i waethygu mewn llawer o ardaloedd gan bresenoldeb mwy o safleoedd segur.
Caiff prinder adeiladu tai newydd effaith fawr ar unigolion a busnesau. Mae’n cyfrannu at broblemau o ran fforddiadwyedd gan fod prisiau tai’n cynyddu o’u cymharu ag incwm. Ledled y rhanbarth, roedd prisiau tai canolrifol yn 2018 yn fwy na phum gwaith incymau blynyddol canolrifol.
Mae effeithiau negyddol eraill nifer isel o dai’n cael eu hadeiladu yn cynnwys diffyg symudedd llafur; costau uwch i fusnesau oherwydd cyflenwadau llafur lleol cyfyngedig; cadw gafael ar stoc dai o ansawdd gwael sy’n anodd eu gwresogi’n effeithlon; ac ansawdd bywyd gwael i breswylwyr.
Nod y Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai fydd rhoi sylw i rai o’r materion hyn drwy ddull gweithredu wedi’i dargedu tuag at ei asesiad o hyfywedd. Wrth wneud hynny, fe fydd ganddo rôl allweddol mewn helpu i sicrhau bod gennym ddosbarthiad mwy cyfannol o adeiladu tai ledled y rhanbarth cyfan.
Sut y bydd y Gronfa’n gweithio?
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid, mae’n rhaid i brosiectau ddarparu o leiaf 40 o gartrefi newydd, cael cefnogaeth yr awdurdod lleol, cael caniatâd cynllunio ar waith neu lwybr dirwystr i’w gyflawni, bod yn gallu cwblhau diwydrwydd dyladwy, yn cynnwys tystiolaeth o fwlch hyfywedd, a bod yn gallu gorffen erbyn y terfyn amser ar gyfer defnyddio cronfeydd arian yn llawn.
Bydd y Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai yn agor ar gyfer ceisiadau o fewn yr ychydig wythnosau nesaf, ac mae’n debygol y bydd yn parhau’n agored tan ddiwedd y flwyddyn galendr.
I gael mwy o fanylion, gweler: https://www.cardiffcapitalregion.wales/wp-content/uploads/2020/07/home-for-the-region-fact-sheet-2020.pdf
Dywedodd Nicola Somerville, Pennaeth Twf Cynhwysol a Datblygu Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
I gael rhagor o wybodaeth am flaenoriaethau Bargen Ddinesig a meysydd ffocws ar ôl Covid sydd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gweler: https://www.cardiffcapitalregion.wales/wp-content/uploads/2020/05/10-priorities-powerpoint-web.pptx