Caerdydd, yr 20fed o Ionawr, 2022 – Mae’r Gronfa Tir ac Adeiladau Strategol newydd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi’i lansio’n swyddogol, ac mae’n agored ar gyfer ceisiadau am fenthyciadau newydd. Crëwyd y Gronfa £50 miliwn i gynorthwyo i ddatblygu prosiectau eiddo diriaethol masnachol, ledled amrywiaeth o wahanol sectorau, yn Ne Cymru.
Mae’n rhaid i bob cynllun datblygu dichonol ddarparu buddion economaidd-gymdeithasol i’r ardal leol, gyda’r amcanion craidd o adfywio rhanbarthol, creu swyddi a chyflymu cyflenwi tir cyflogaeth. Rheolir y Gronfa gan dîm Cynghori ar Fuddsoddiad CBRE, sy’n rhan o Gynghorwyr Cyfalaf CBRE, sy’n rheoli nifer o Gronfeydd datblygu eraill ledled y Deyrnas Unedig, yn cynnwys Cronfa Fytholwyrdd y Gogledd Orllewin, Cronfa Bensiynau De Swydd Efrog a Chronfa Fuddsoddi Gogledd Iwerddon.
Bwriodd George Richards, Uwch-gyfarwyddwr, Cynghori ar Fuddsoddiad, CBRE, y sylw: “Rydym wrth ein bodd o fod yn cynorthwyo Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i reoli’r Gronfa newydd hon, catalydd gwir ei angen ar gyfer cyflenwi cynlluniau sydd wedi’i chael hi’n anodd yn flaenorol gael cyllid drwy ddulliau traddodiadol. Ar ôl y pandemig, mae hi’n fwy hanfodol nag erioed bod mannau cyflogaeth hollol arloesol yn parhau i gael eu datblygu i greu swyddi newydd gwerthfawr ar gyfer yr ardal leol a chanolfannau cymunedol llawn bywyd a dynamig. Caiff yr holl enillion eu hail-fuddsoddi yn y Gronfa er mwyn helpu i gyflwyno cynifer o gynlluniau newydd ag y bo modd dros y 10 mlynedd nesaf.”
Dywedodd Andrew Morgan, Aelod o Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae’r Gronfa Tir ac Adeiladau Strategol yn ddefnydd arloesol o arian cyhoeddus i gyflymu twf drwy gynorthwyo i gyflenwi tir ac adeiladau masnachol newydd ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Bydd y Gronfa’n buddsoddi mewn cynlluniau blaenoriaethol fydd yn datgloi mannau cyflogaeth newydd, gan gyfrannu tuag at lwyddiant y rhanbarth yn y dyfodol.”
Dywedodd Rob O’Dwyer, Pennaeth Seilwaith ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Mae lansio Cronfa Tir ac Adeiladau Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hwb i’w groesawu i’r rhanbarth, fydd yn cynyddu cyfleoedd i ddarparu cyfleusterau a thir ac adeiladau i ddiwydiannau sy’n tyfu, gan greu cyfleoedd gwaith a thwf economaidd ledled y rhanbarth. Mae’n enghraifft wych o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gweithio’n agos â’r sector preifat i gymell prosiectau datblygu economaidd ac i gynorthwyo arloesi, twf busnes ac adfywio.”
GORFFEN
Ynglŷn â CBRE Group, Inc.
CBRE Group, Inc. (NYSE: CBRE), cwmni Fortune 500 ac S&P 500 sydd â’i bencadlys yn Dallas, yw cwmni buddsoddi a gwasanaethau eiddo diriaethol masnachol mwyaf y byd (yn seiliedig ar refeniw 2020). Mae gan y cwmni fwy na 100,000 o weithwyr sy’n gwasanaethu cleientiaid mewn mwy na 100 o wledydd. Mae CBRE yn gwasanaethu ystod o gleientiaid gyda chyfres integredig o wasanaethau, yn cynnwys cyfleusterau, trafodion a rheoli prosiectau; rheoli eiddo; rheoli buddsoddiadau; arfarnu a phrisio; prydlesu eiddo; ymgynghori strategol; gwerthu eiddo; gwasanaethau morgeisi a gwasanaethau datblygu. Ewch i’n gwefan yn www.cbre.com , os gwelwch yn dda.
Ynglŷn â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn cynrychioli’r 10 Awdurdod Lleol sy’n ffurfio De-ddwyrain Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, a Thorfaen.
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) yn rhaglen £1.3 miliwn y cytunwyd arni yn 2016 rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a’r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru i greu twf economaidd sylweddol yn y rhanbarth drwy fuddsoddi, uwchsgilio, a gwell cysylltedd ffisegol a digidol. Yr uchelgais hirdymor yw cynyddu Gwerth Ychwanegol Gros, creu 25,000 o swyddi sgiliau cywrain a throsoli £4 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol.