Mae Cyfalaf Buddsoddi Mewn Arloesi Yn Cyhoeddi Buddsoddiad Cyntaf Yn AMPLYFI

Categorïau:
Datganiad i'r Wasg – Arall

Mae Partneriaeth Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi Cyfyngedig  (‘IIC’), y gronfa a gefnogir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (‘CCR’), yn cyhoeddi heddiw ei buddsoddiad cyntaf, ac a wneir i AMPLYFI, y busnes deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol tarfol a leolir yng Nghaerdydd.

Daw’r buddsoddiad yn AMPLYFI yn sgîl buddsoddiad byd-eang enfawr mewn deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, ac mae’n pwysleisio’r cyfle yn y man hwn.  Dros wyth mlynedd, adeiladodd AMPLYFI lwyfan gwybodaeth am y farchnad a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial sy’n arwain y farchnad i helpu cleientiaid byd-eang i nodi ac i ymateb yn well i newidiadau mewn marchnata.  Mae’u llwyfan perchnogol yn monitro ac yn dadansoddi meintiau anferth o gynnwys ysgrifenedig o’r we, gan grynhoi datblygiadau allweddol a chynhyrchu mewn mewnwelediadau unigryw, sy’n galluogi defnyddwyr i ddatgelu tueddiadau, cyfleoedd a datgelu cysylltiadau oedd cynt yn guddiedig.  Nod y buddsoddiad hwn yw galluogi’r cwmni i drosoli deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i symleiddio rhagor ar ymchwil a dadansoddi, yn ychwanegol at ehangu’r tîm yng Nghymru i sicrhau y gall barhau i ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n arwain y farchnad i gwsmeriaid ar lefel fyd-eang.

Seiliwyd penderfyniad IIC i fuddsoddi ar amryw o ffactorau allweddol, yn cynnwys:

  • Tîm rheoli cryf sydd wedi adeiladu llwyfan technoleg ddatblygedig yn ymwneud â gwybodaeth am y farchnad.
  • Darn o’r farchnad sy’n gyffrous ac yn tyfu’n gyflym sy’n chwilio’n gynyddol am atebion technoleg.
  • Cynlluniau tyfu uchelgeisiol gyda’u piblinell o gwsmeriaid a datblygu cynhyrchion o’r radd flaenaf.
  • Gallu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac IIC i gynorthwyo ac i ychwanegu gwerth at y busnes i gyflymu twf.

Lansiodd IIC ym mis Tachwedd 2022 gyda’r swm cychwynnol o £50 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a gorchwyl i fuddsoddi cyfalaf cyfnod hir mewn cyfleoedd twf cynaliadwy ledled y deg awdurdod unedol sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Partner Cyffredinol y gronfa yw Rheolwyr Cronfa Capricorn / Capricorn Fund Managers (CFM), sy’n gyfrifol am reoli’r gronfa a’r portffolio cyffredinol a rheoli risg, gyda PwC yn cynorthwyo CFM mewn materion ymgynghorol, gan gynnwys ymchwil buddsoddi a chyrchu.

Ers ei lansio, derbyniodd IIC dros 140 o geisiadau am gyllid gan gwmnïau dichonol i dderbyn buddsoddiad yn Ne-ddwyrain Cymru, o Ben-y-bont ar Ogwr i Gas-gwent.  Er mai Technoleg Feddygol a Thechnoleg Ariannol oedd y sectorau pennaf i fod wedi cysylltu â’r gronfa, cafwyd hefyd geisiadau gan gwmnïau defnyddwyr, ynni a’r amgylchedd, adeiladu a fydd yn helpu i gatalyddu twf rhanbarthol drwy gyfleoedd gwaith newydd a datblygiad economaidd wedi’i gyflymu.

“Ein cenhadaeth ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yw ail-egnioli rhanbarth De-ddwyrain Cymru cyfan,” meddai Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  “Mae buddsoddiad AMPLYFI yn gyson â’r gorchwyl hwn o gefnogi busnesau arloesol mewn llawer o wahanol sectorau, gan annog y swyddi newydd a’r twf da sydd wrth wraidd ein Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol.  Disgwyliwn ragor o fuddsoddiadau gan IIC yn fuan iawn, ymhell y tu hwnt i’r sector technoleg a dinas Caerdydd.  Dyma gyfnod cyffrous.”

Ychwanegodd Paul Teather, Prif Swyddog Gweithredol AMPLYFI:  “Rydym wrth ein bodd â’r buddsoddiad newydd hwn,  fydd yn caniatáu inni barhau i ehangu gweithrediadau AMPLYFI yng Nghymru ac i ddatblygu’n llwyfan gwybodaeth am y farchnad a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial yn fyd-eang.  Rydym yn llawn cyffro bod IIC wedi’u denu at AMPLYFI, ac edrychwn ymlaen at ehangu’n tîm ac at roi’n technoleg yn nwylo llawer mwy o ddefnyddwyr.”

Dywedodd Rob Asplin, Partner PwC: “Wrth inni gynorthwyo CFM, yr hyn oedd yn amlygu’i hun drwy gydol ein trafodaethau a’r broses gydag AMPLYFI oedd nerth y tîm rheoli, y farchnad deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol sy’n tyfu’n gyflym a chwsmeriaid o’r radd flaenaf presennol AMPLYFI.  Edrychwn ymlaen at weld llawer mwy o gwmnïau dichonol sy’n derbyn buddsoddiad yn cysylltu â’r gronfa yn y dyfodol agos.”

“Yr hyn sydd wedi bod yn amlwg drwy gydol y broses hon oedd y nifer eithriadol o fusnesau bach a chanolig o ansawdd uchel ledled y rhanbarth,” ymgasglodd Lynda Stoelker, Prif Swyddog Gweithredu Rheolwyr Cronfa Capricorn / Capricorn Fund Managers a Chadeirydd Pwyllgor Buddsoddi IIC.  “Rydym mewn sefyllfa wych, gyda phiblinell iach o fuddsoddiadau dichonol mewn gwahanol sectorau.  Mae AMPLYFI, fel buddsoddiad cyntaf IIC, yn gosod safon uchel iawn, ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’u taith.”

Darparwyd cyngor cyfreithiol, ariannol, trethi a thechnegol, gyda chyngor cyfreithiol gan Harrison Clark Rickerbys, cyngor ariannol gan Barford Owen Davies, cyngor trethi gan Bishop Fleming a chyngor technegol gan Squirrel Squared, yn ôl eu trefn.

Am ragor o wybodaeth am y Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Mae her bwyd cynaliadwy, sy'n chwilio am atebion arloesol a allai gynyddu cynhyrchiant bwyd a dyfir yn lleol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi agor ar gyfer ceisiadau.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.