Lansiwyd Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi (‘IIC’ neu’r ‘gronfa’), cronfa newydd sy’n canolbwyntio ar ddarparu cyfalaf cyfnod hir i fusnesau arloesol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mewn digwyddiad yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Mynychodd dros 150 o bobl y digwyddiad i glywed ystod o siaradwyr, yn cynnwys David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn trafod pwysigrwydd arloesi i dwf economi Cymru yn y dyfodol, a sut y gall y gronfa newydd hon gynorthwyo busnesau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Cynlluniwyd Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi i gynyddu argaeledd cyfalaf cyfnod hir yn Ne-ddwyrain Cymru drwy annog twf economaidd drwy fuddsoddiadau mewn busnesau arloesol ac y mae modd eu helaethu – gyda’r swm cychwynnol o £50 miliwn yn cael ei ddarparu gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a chyllid ychwanegol a ddisgwylir gan un neu fwy o bartneriaid sy’n cyd-fuddsoddi i gynyddu rhagor ar faint cyffredinol y gronfa.
Mae Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi yn canolbwyntio ar gatalyddu ‘twf da’ a helpu i roi sylw i faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu ehangach yn y Rhanbarth, drwy gysoni arloesedd busnesau â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – gan sicrhau bod y busnesau sy’n gymwys ar gyfer cyllid yn cryfhau’u cymwysterau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu.
I gael eu hystyried am fuddsoddiad, mae’n rhaid i fusnesau fod wedi’u lleoli yn (neu’n adleoli i) un o ddeg awdurdod unedol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n ymestyn o Ben-y-bont ar Ogwr i Sir Fynwy ac i mewn i gymoedd De Cymru – ardal sy’n cynrychioli dros hanner poblogaeth ac allbwn economaidd Cymru.
Bydd buddsoddiadau’n amrywio o ran maint, ond yn gyffredinol byddant rhwng £2 filiwn a £7 miliwn, gyda’r gronfa at ei gilydd yn ceisio cyngwystl ecwiti sy’n fwy na 10%.
Dewiswyd PwC i reoli’r gorchwyl o ganfod a rheoli prosiectau cyfleoedd buddsoddi newydd, a Rheolwyr Cronfa Capricorn yw Rheolwr Cronfa Buddsoddi Amgen y gronfa.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:
“Rwyf wrth fy modd bod £50 miliwn o gyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei ddefnyddio i roi hwb i ddechrau a thyfu busnesau entrepreneuraidd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Canolbwyntiwn ar annog buddsoddi yng Nghymru, tyfu’r economi a chreu swyddi â chyflogau da.
“Bydd y gronfa newydd hon yn helpu i gyflawni’n blaenoriaethau. Dymunaf bob llwyddiant iddynt ac edrychaf ymlaen at weld y canlyniadau.”
Dywedodd John-Paul Barker, Arweinydd Marchnata Rhanbarthol PwC yng Nghymru a’r Gorllewin:
“Bydd Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi yn newid y dirwedd ar gyfer busnesau entrepreneuraidd, y mae modd eu helaethu yn Ne Cymru, ac mae PwC yn falch iawn o fod yn gallu cymryd rhan yn ei lwyddiant. Mae’r rhanbarth yn gartref i gymuned gyfoethog o arloeswyr; bydd y gronfa hon yn darparu’r cymorth a’r buddsoddiad angenrheidiol i atgyfnerthu’u twf a’u troi i fod yn weithredwyr cenedlaethol neu ryngwladol.”
Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Datblygwyd Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi fel ymateb i’r angen llethol am dwf a arweinir gan arloesi ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r ymrwymiad gwerth £50 miliwn hwn i feithrin arloesi yn destament i’n dymuniad i hyrwyddo’r mentrau a ddaw â mantais gymharol gref i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd – gan amlygu’n penderfyniad taer i gysylltu gallu drwy ddarparu modd o gael at y cyfalaf cyfnod hir sydd mor allweddol i dyfu a helaethu ecosystem arloesi sy’n perfformio’n dda.
“Rydym wrth ein bodd o fod wedi dethol PwC a Rheolwyr Cronfa Capricorn i gyflawni Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi, ac edrychwn ymlaen at gydweithio i helpu’n busnesau bach a chanolig i gyflawni’u huchelgais twf.”