Mae Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi creu Bwrdd newydd, gan benodi tîm o arweinwyr busnes gweledigaethol o bob cwr o’r rhanbarth, gyda phob un yn dod â chraffter, egni ac angerdd o’r newydd i helpu i gyfarwyddo, hysbysu a llunio dyfodol busnesau yn Ne-ddwyrain Caerdydd.
Dywedodd Nigel Griffiths, Cadeirydd y Cyngor Busnes,
“Rwyf yn falch iawn o groesawu’r Bwrdd newydd ar adeg mor dyngedfennol i gymuned fusnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac rwyf wrth fy modd â phenodiad pob un aelod o’r Bwrdd newydd hwn. Mae gan y Cyngor Busnes rôl allweddol mewn gweithio â Chabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y Bartneriaeth Sgiliau a sefydliadau eraill a chanddynt amlygrwydd uchel, er mwyn sicrhau y caiff llais busnesau ei glywed yn eglur, gan fod â rôl annatod mewn cyfrannu tuag at dwf a llewyrch Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae hwn yn dîm newydd ac amrywiol o “feddylwyr a gwneuthurwyr” a ddaw â hygrededd, gallu ac angerdd dros fusnes sy’n angenrheidiol i ni ailosod, ailddiffinio a chyflenwi’r hyn y mae modd ei gyflawni yn ein rhanbarth.”
Mae’r tîm newydd yn cynnwys dau aelod o’r Bwrdd o’r gorffennol – Rob Basini (Rheolwr Datblygu yn y Ffederasiwn Busnesau Bach) a Paul Webber (Cyfarwyddwr Arup) – ac yn ymuno â Rob a Paul y mae: Rakesh Aggarwal (Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Escentual), Peter Cashin (Rheolwr Gyfarwyddwr Huntleigh Healthcare Cyf), Andrew Evans (Uwch-gyfarwyddwr yn SPTS Technologies a KLA), Victoria Mann (Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol NearMeNow), Karen McGuire (Prif Swyddog Ariannol Confused.com), Andrew Morris (Partner yn Geldards LLP), Damon Rands (Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Wolfberry), Matthew Tossell (Prif Swyddog Gweithredol Hugh James Involegal), ac Angharad Neagle, (Prif Swyddog Gweithredol Freshwater Cyf).
Gan edrych ymlaen at sut y bydd y Bwrdd newydd hwn yn helpu i wireddu potensial y gymuned fusnes ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Nigel yn pwysleisio,
“Yn awr yn fwy nag erioed, mae’n amser torchi’n llewys a chyflawni pethau. Ein gwaith ni yw gafael yn yr awenau o ran hyrwyddo ymgysylltu â busnesau rhanbarthol, gan gyfrannu syniadau deallus a hwyluso cyfraniadau ystyrlon gan fusnesau ledled y rhanbarth – felly mae hi’n hanfodol bod gennym y meddyliau busnes gorau o bob cwr o’r sectorau masnachol niferus yn ein rhanbarth. Rwyf yn hynod hyderus bod gennym yn awr gymysgedd amrywiol digonol o gefndiroedd, a’r arbenigedd, y profiad a’r rhagolygon amlsector sydd eu hangen, wedi’u hymgynnull i’n galluogi i fod â rôl allweddol i ailgodi’n gryfach ac i fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfleoedd busnes anferth sydd o’n blaenau yn y byd ôl-bandemig.”
DIWEDD.