MAE Cabinet Rhanbarthol Cysgod Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn croesawu’r penderfyniad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i roi’i ymrwymiad i raglen Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae’r Cabinet Rhanbarthol Cysgod yn aros am benderfyniad pob un o’r deg awdurdod lleol fydd yn cyfarfod rhwng hyn a’r 9fed o Chwefror, 2017. Byddai’u hymrwymiad yn gweld y Cabinet Rhanbarthol yn newid o fod yn Gysgod o’r 1af o Fawrth, 2017.
Mae’n rhaid i bob awdurdod o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hefyd gymeradwyo ymrwymiad gan y deg awdurdod i gael benthyg cyfanswm cyfunol o £120 miliwn fel rhan o Gronfa Buddsoddi Ehangach Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae Cynghorau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Caerdydd, Sir Fynwy, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen eisoes wedi cytuno i ymrwymo i’r Fargen Ddinesig. Cyngor Bro Morgannwg fydd yr olaf o’r deg awdurdod i bleidleisio, ar y 9fed o Chwefror.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Cysgod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Dyma ran bwysig o broses y Fargen Ddinesig. Mae’r deg awdurdod wedi gweithio’n eithriadol agos dros yr 16 mis diwethaf i gael y Fargen Ddinesig i’r safle hwn, ond mae cefnogaeth i’r Fargen Ddinesig gan aelodau’r awdurdodau hynny’n hanfodol os ydym i fwrw ymlaen gyda’n gilydd â’r Fargen hynod gyffrous hon.
“Gyda’i gilydd, gall yr awdurdodau lleol sy’n bartneriaid greu newid economaidd a chymdeithasol sylfaenol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, drwy well trafnidiaeth, cefnogi arloesedd, gwell rhwydwaith digidol, datblygu sgiliau, cefnogi menter a thwf busnes, a thrwy ddatblygiad tai ac adfywio.”
Yn amodol ar y pleidleisiau gan bob awdurdod, byddai Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dechrau ar gyfnod pontio. Bydd Cynllun Pontio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (i’w gyhoeddi) yn rhoi manylion gweithgareddau allweddol sydd i’w cynnal, yn cynnwys sefydlu Swyddfa Ranbarthol i gymell y gwaith o gyflawni rhaglen waith (i’w chyhoeddi) y Cabinet Rhanbarthol, gan ragweld derbyn cynigion ddiwedd eleni.
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Rwyf yn wirioneddol falch bod aelodau wedi pleidleisio dros gefnogi Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Mae hyn yn rhywbeth sy’n creu cyfleoedd enfawr mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, a gallai wella perfformiad economaidd y rhanbarth cyfan gan gryfhau apêl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel lle i fyw, i weithio, ac i fuddsoddi mewn cyfleoedd busnes newydd.
“Rwyf yn edrych ymlaen at weithio’n agos â chyd-arweinwyr awdurdodau lleol i wneud y fargen yn llwyddiant mawr.”
Y deg awdurdod lleol yw: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, a Bro Morgannwg.