Agorodd y Cynllun Benthyciad Tarfu ar Fusnes yn sgîl Coronafeirws (CBILS) ar gyfer ceisiadau ddoe, ac mae’n cynorthwyo ystod eang o gynnyrch cyllid busnes, yn cynnwys cyfleusterau benthyciadau am gyfnod, gorddrafftiau, cyllid anfonebau a chyllid asedau, ac fe all ddarparu cyfleusterau o hyd at £5 miliwn i fusnesau bach ledled y Deyrnas Unedig sy’n profi refeniwiau a gollwyd neu sy’n ohiriedig, sy’n arwain at darfu ar eu llif arian.
Gwefan CBILS yw’r ffynhonnell orau o’r wybodaeth ddiweddaraf.
CBILS: NODWEDDION ALLWEDDOL
Cyfleuster hyd at £5 miliwn:
Gwerth uchaf cyfleuster a ddarperir o dan y cynllun fydd £5 miliwn, sydd ar gael ar delerau ad-dalu o hyd at chwe blynedd.
Gwarant 80%:
Mae’r cynllun yn darparu gwarant rhannol (80%) a ategir gan y llywodraeth i’r echwynnwr yn erbyn balans y cyfleuster sy’n ddyledus, yn ddarostyngedig i gap cyffredinol i bob echwynnwr.
Dim ffi warantedig i fusnesau bach a chanolig i ddefnyddio’r cynllun:
Dim ffi i fusnesau bach. Bydd echwynwyr yn talu ffi i ddefnyddio’r cynllun.
Y Llywodraeth yn talu llog a ffioedd am 12 mis:
Bydd y Llywodraeth yn gwneud Taliad Tarfu ar Fusnes i dalu’r 12 mis cyntaf o daliadau llog ac unrhyw ffioedd a godir ar echwynwyr [1], fel y bydd busnesau llai yn elwa o ddim costau i’w talu ymlaen llaw ac ad-daliadau cychwynnol is.[2]
Telerau cyllid:
Mae telerau cyllid am hyd at chwe blynedd ar gyfer benthyciadau dros gyfnod a chyfleusterau cyllid asedau. O ran gorddrafftiau a chyfleusterau cyllid anfonebau, fe fydd y cyfnodau am hyd at dair blynedd.
Sicrwydd:
Yn ôl disgresiwn yr echwynnwr, fe ellir defnyddio’r cynllun ar gyfer benthyca ansicredig ar gyfer cyfleusterau o £250,000 a llai. Ar gyfer cyfleusterau sydd dros £250,000, mae’n rhaid i’r echwynnwr sefydlu diffyg neu absenoldeb sicrwydd cyn i fusnesau ddefnyddio CBILS. Os gall yr echwynnwr gynnig cyllid ar delerau masnachol arferol heb yr angen i ddefnyddio’r cynllun, fe fyddant yn gwneud hynny.
Mae’r benthyciwr bob amser yn parhau i fod yn 100% atebol am y ddyled.
Cwestiynau Cyffredin i Fusnesau Bach a Chanolig
RHESTR WIRIO GYFLYM AR GYFER CYMHWYSEDD I FUSNESAU BACH A CHANOLIG
SUT MAE BUSNES BACH YN GWNEUD CAIS AM GYFLEUSTER A GEFNOGIR GAN CBILS?