Mae cynlluniau ynni gwyrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer Gorsaf Bŵer Aberddawan am greu miloedd o swyddi

Categorïau:

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi prynu Gorsaf Bŵer Aberddawan, un o dirnodau mwyaf adnabyddus De Cymru, i’w datblygu a’i hadsefydlu fel enghraifft batrymol ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd yn y rhanbarth.

Mae wedi caffael y safle 489 erw, sy’n cynnwys yr orsaf bŵer sy’n rhedeg ar lo a ddatgomisiynwyd ar arfordir Bro Morgannwg, oddi wrth y perchnogion cyfredol, RWE, gyda’r potensial i greu miloedd o swyddi.

Ar ôl cymeradwyaeth i brynu a roddwyd gan Gabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn bwriadu unioni, ailddatblygu ac adsefydlu’r safle, gan wneud y mwyaf o’i botensial ar gyfer ei ddatblygu dros yr hirdymor i gymell twf economaidd cynaliadwy a glân ledled rhanbarth De-ddwyrain Cymru.

Ymrwymodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd £36.4 miliwn i’r prosiect, gyda phris pryniant y safle yn £8 miliwn, a’r swm sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwalu, unioni, ac ailddatblygu.

Bydd y Cynllun Meistr arfaethedig ar gyfer ailddatblygu safle Aberddawan, a fydd, rydym yn cydnabod, yn cymryd amryw o flynyddoedd i ddwyn ffrwyth, o ystyried natur a chymhlethdodau cysylltiedig y broses bontio, yn amcanu at:

  • Cynorthwyo i gynhyrchu prosiectau ynni adnewyddadwy a gwyrdd.
  • Darparu cyfleuster storio batris cysylltiedig i gefnogi’r prosiectau ynni gwyrdd.
  • Cynhyrchu clwstwr gweithgynhyrchu di-garbon fydd yn cynnwys cyfleusterau cynhyrchu hydrogen gwyrdd.
  • Darparu canolfan arloesi ynni gwyrdd i hyrwyddo arloesedd, twf, gwybodaeth a rhyngweithio cymunedol gyda’r dyfodol di-garbon yng Nghymru.
  • Bod yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw parc ecoleg bioamrywiol fydd yn cynnwys canolfan ymwelwyr, gan ddarparu amwynderau i’r gymuned leol.
  • Creu’r amodau cywir i gynorthwyo datgarboneiddio diwydiannol a chyfleusterau gweithfeydd giga y dyfodol.

 

Mae’r Cynllun Meistr yn gyson ag amcanion Cynllun Economaidd a Diwydiannol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Strategaeth Ynni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a bydd yn cyfrannu tuag at amcanion targedau sero net 2050 Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru.  Bydd hefyd yn darparu swyddi sgiliau cywrain i’r rhanbarth – gyda’r potensial i greu miloedd o swyddi uniongyrchol, anuniongyrchol ac a sbardunwyd, ynghyd â chadwyn gyflenwi leol a buddion uwchsgilio.

Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnal ymrwymiad cryf i ymgysylltu â, a chynnwys, rhanddeiliaid y gymuned leol er mwyn datblygu moeseg agored, gynhwysol a chyfranogol cyn gynted ag y mae’r ystyriaethau sy’n fasnachol sensitif wedi cael sylw.

Mae yna fannau o’r safle sydd angen gwarchodaeth barhaus, o ran natur, bioamrywiaeth a rheoli ecoleg gyffredinol y safle, a gyflawnir orau mewn partneriaeth â’r gymuned.

Bydd cynllun ailddatblygu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymrwymo i ddiogelu a datblygu’r Warchodfa Natur, gan weithio â chydweithwyr yng Nghyngor Bro Morgannwg i sicrhau y rhoddir cynlluniau effeithiol ar waith.  Yn y cyfamser, tra bod cynlluniau’n cael eu hystyried a’u mesur a’u pwyso, rhoddir ymrwymiad i sicrhau bod yr elfen ecolegol werthfawr hon o’r safle yn cael ei diogelu a, lle bynnag y bo’n bosibl, yn cael ei gwella a’i helaethu’n rhagor.

Mae lleoliad y safle yn caniatáu cysylltiadau strategol cryfion ag asedau mawrion eraill, yn cynnwys Parc Busnes Bro Tathan, Maes Awyr Caerdydd, ac Ardal Fenter drosfwaol Sain Tathan – un o’r ychydig safleoedd yn y Deyrnas Unedig sy’n alluog i gynnal cynhyrchu batris ïon lithiwm graddfa fawr.

Bydd y prosiect hwn yn gwella ac yn cryfhau Bro Morgannwg a’r rhanbarth, fel canolfan fenter ranbarthol fawr.  Drwy wneud hynny, bydd yn cyflenwi buddion lluosog i gymunedau De-ddwyrain Cymru, ac mae’n cynnig y potensial i lunio a chreu marchnadoedd newydd mewn sectorau diwydiannol allweddol y dyfodol.

 

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig: 

“Mae hwn yn brosiect bendigedig, ac yn brosiect pwysig wrth inni bontio i amgylchedd gwyrddach, glanach ac economi sero net.  Bydd buddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyflenwi miloedd o swyddi yn Aberddawan ac yn helpu i roi Cymru ar y llwybr iawn ar gyfer adferiad economaidd o’r pandemig.”

 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Aelod o’r Senedd:

“Rydym yn falch o weld Prifddinas-Ranbarth Caerdydd â rôl flaenllaw mewn prosiect a gynlluniwyd i gyflenwi swyddi newydd mewn economi rhanbarthol cryfach, gwyrddach. 

“Mae’r cynllun arfaethedig ar gyfer Aberddawan yn newyddion cadarnhaol sy’n cydweddu’n dda â’n hymrwymiad i ddatblygu prosiectau môr-lynnoedd ac i gefnogi syniadau a all helpu Cymru i ddod yn ganolfan byd ar gyfer technolegau llanw datblygol.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Fargeinion Dinesig yn anhepgor i’n gweledigaeth i ddatblygu rhanbarthau economaidd cryfach mewn adferiad Tîm Cymru.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ac aelod o’r Cabinet Rhanbarthol:

“Gwnaeth y Cyngor addewid cadarn i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy hyrwyddo mentrau gwyrdd.

“Nod ein hymrwymiad Prosiect Sero yw lleihau’n sylweddol allbwn carbon y Cyngor erbyn 2030, ac mae’r cynllun hwn yn cyd-fynd yn berffaith â’r agenda honno.

“Bydd yn trawsnewid Gorsaf Bŵer Aberddawan, sydd yn awr yn ddiangen, i fod yn safle carbon niwtral, fydd nid yn unig o fudd i’r amgylchedd ond bydd hefyd yn hyrwyddo twf economaidd.  Rhagwelwn y gellir creu miloedd lawer o swyddi fel rhan o’r prosiect cyffrous, blaengar hwn.

“Edrychwn ymlaen at weithio â’n partneriaid ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ar y prosiect hwn, prosiect y credwn fydd â chanlyniadau cadarnhaol pellgyrhaeddol ar gyfer y rhan hon o Dde Cymru a’r tu hwnt.”

 

Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:  

“Mae caffael safle Gorsaf Bŵer Aberddawan yn gyfle sylweddol i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gymryd perchnogaeth o safle strategol mawr, fydd yn cynorthwyo twf economaidd gwyrdd a glân, yn arloesi, ac yn creu swyddi o fewn diwydiant allweddol y dyfodol – gan ddangos cydnawsedd amcanion hinsoddol ac economaidd.

“Mae graddfa ac uchelgais y cynigion yn arwydd o fwriad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i wneud cynnydd o ddifri’ ar ei thargedau a’i hamcanion yn ymwneud â datgarboneiddio diwydiannol a chynhyrchu ynni adnewyddadwy – fel a amlinellir yn ein Strategaeth Ynni.  Mae arnom eisiau datblygu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel canolfan arloesol ar gyfer technoleg a datrysiadau ynni gwyrdd ac adnewyddadwy a thyfu’n sylfeini cyflogaeth a sgiliau a doniau, yn unol â hynny.

“Credwn fod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel partneriaeth sefydledig o ddeg o Awdurdodau Lleol De-ddwyrain Cymru mewn sefyllfa unigryw i arwain y ffordd mewn ymdrech feiddgar o’r fath fel buddsoddwr amyneddgar a hirdymor yn y safle, gan gymryd ymagwedd gyfrifol tuag at ei ailddatblygu.  I ni, mae hyn yn golygu rhoi hwb i’n henw da am dwf glân, a datblygu cadernid a chyfleoedd y gellir eu rhannu ledled pob rhan o’r rhanbarth.  Rydym wedi’n hymrwymo i ddiogelu ac i wella bioamrywiaeth bwysig y safle ac i gynorthwyo cymunedau cyfagos i ddatblygu ymagweddau lleol, ac felly fel y caiff cynigion ar gyfer y safle eu cyflenwi, mae adfer ecoleg leol yn adlewyrchu syniadau a dyheadau pobl leol.”

 

Dywedodd Tom Glover, Cadeirydd Gwlad y DU, RWE:  

“Bu safle Gorsaf Bŵer Aberddawan wrth graidd diwydiannol Cymru ers dros 50 mlynedd.  Roedd ganddi rôl werthfawr mewn helpu i ddiogelu cyflenwadau ynni  ledled system drydan y Deyrnas Unedig, ac rydym yn falch iawn o bawb a weithiodd ar y safle, a hoffem ddiolch iddynt ac i’r gymuned leol am eu holl gefnogaeth.

“Rydym yn anhygoel o falch bod gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd weledigaeth ar gyfer y dyfodol o drawsnewid y safle i fod yn wyrdd ac yn adnewyddadwy, sy’n adlewyrchu’n fawr iawn drawsnewidiad RWE i fod yn gynhyrchydd adnewyddadwy mwyaf Cymru a’n huchelgais ar gyfer fflyd sy’n cynhyrchu sero net.  Mae arnom eisiau dymuno pob llwyddiant i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y prosiect arloesol hwn.”

 

Ynglŷn â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn cynrychioli’r 10 Awdurdod Lleol sy’n ffurfio De-ddwyrain Cymru.  Mae’r rhain yn cynnwys Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, a Thorfaen.

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) yn rhaglen gwerth £1.2 biliwn y cytunwyd arni yn 2016 rhwng, ac wedi’i hariannu gan, Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru a’r deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru  i greu twf economaidd sylweddol yn y rhanbarth drwy fuddsoddi, uwchsgilio, a gwella cysylltedd ffisegol a digidol.  Yr uchelgais hirdymor yw cynyddu Gwerth Ychwanegol Gros, creu 25,000 o swyddi sgiliau cywrain a throsoli £4 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol.

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Heddiw, cyhoeddodd Partneriaeth Gyfyngedig Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd fuddsoddiad yn Coaches’ Voice, y platfform addysg a hyfforddi pêl-droed digidol sy'n tyfu'n gyflym.

Subscribe for updates

Skip to content