Enillodd Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesi (IIC) gwerth £50 miliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wobr fasnachol fawr yng Nghymru, sy’n golygu mai dyma’r ail waith mewn pedwar mis y mae cronfa sy’n gysylltiedig â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi ennill gwobr o’r fath. Cynhaliwyd Gwobrau Gwneuthurwyr Cytundebau Insider Wales 2025 yn Tŷ Holland yng Nghaerdydd ddiwedd mis Medi. Roedd yr enwebiad am gyllid IIC ar gyfer Transcend Packaging, y cwmni gweithgynhyrchu pecynwaith adwerthu a leolir yng Nghaerffili sydd yn awr yn arloesi ac yn cyflwyno cwpanau a chaeadau papur compostadwy ailgylchadwy a chartref ar gyfer Starbucks ledled Ewrop.
Y dosbarth oedd y ‘Cytundeb Bychan y Flwyddyn’, a welodd IIC yn cystadlu yn erbyn banciau datblygu mawrion, cynghorwyr ariannol a chwmnïau cyfraith a chyfrifyddiaeth. Y cyd-enwebeion yn y wobr hon oedd Browne Jacobson, Capricorn Fund Managers a PwC.
Mae’r fuddugoliaeth ddiweddaraf hon yn dilyn buddugoliaeth gwobr mis Mehefin 2025 i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a CBRE yng Ngwobrau Eiddo Insider Wales fel ‘Cyllidwr y Flwyddyn’.
Dywed Channing Nuss, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol a Chynaliadwyedd a Chyd-sylfaenydd yn Transcend Packaging: “Yn Transcend Packaging, rydym eisoes yn derbyn gwobrau diwydiant ledled y Deyrnas Unedig am ein hymdrechion i helpu brandiau byd-eang i gyflawni’u nodau cynaliadwyedd, ac felly mae’n fendigedig yn awr gweld cydnabyddiaeth am y cyllid a wna’r arloesi hyn yn bosibl.
“Mae’r tîm buddsoddi o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi bod yn gyfryngol i’n helpu i ddod â’r cynnyrch newydd hwn i’r farchnad ledled Ewrop o’n canolfan weithgynhyrchu a’n pencadlys yng Nghaerffili. Mae’r wobr hon yn cydnabod nid yn unig Ymchwil a Datblygu arloesol a thimau rheoli a gweithredol profiadol Transcend, ond hefyd ymdrechion cydweithredol yr holl bartneriaid cyllido oedd yn gysylltiedig. Da iawn i bawb a helpodd i wneud y buddsoddiad hwn yn bosibl, gan y bydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer rhagor o arloesi a thwf.”
Mae Prif Weithredwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Kellie Beirne, wrth ei bodd â’r fuddugoliaeth hon:
“Mae’r wobr hon yn dangos yr effaith y mae cyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ei chael ar arloesi a thwf swyddi yn ein rhanbarth. Mae llesiant economaidd wrth graidd ein hamcanion, yn cynorthwyo entrepreneuriaid a busnesau sy’n helaethu fel Transcend i dyfu.”
Picture Credit: Huw John