Ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae gennym rai o’r lleoedd sy’n tyfu gyflymaf ac sy’n fwyaf cystadleuol yn y Deyrnas Unedig, ochr yn ochr â rhai o’r lleoedd lleiaf cystadleuol a mwyaf amddifadus. Nid dim ond mater o’r gwahaniaeth rhwng Caerdydd a Blaenau Gwent ydyw, ond y gwahaniaeth rhwng gogledd Caerdydd a rhai rhannau o dde Caerdydd.
O’r 300 o ardaloedd awdurdodau lleol ar Fynegai Cystadleugarwch y DU, ac ar ôl 25 mlynedd o dderbyn cyllid Ewropeaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae Blaenau Gwent yn dal yn un o’r lleoedd tlotaf yn y Deyrnas Unedig. Ac fe ddengys y dystiolaeth na fydd hyn yn newid yn fuan.
Dyna pam ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, nid ydym ond yn ymwneud â thwf economaidd ar ei ben ei hun, oherwydd ni allwn ennill yr un ras â phawb arall. Mae’n rhaid inni ddatblygu cadernid i’n heconomi, ac mae hynny’n golygu elfen o arallgyfeirio. Mae’n golygu edrych i gyfeiriad diwydiannau allweddol y dyfodol a deall lle y gallwn gael mantais gymharol wirioneddol.
Mae ein harweinwyr gwleidyddol yn deall mai os yw pobl yn gweithio ac rydym ninnau’n eu galluogi nhw i symud i fyny’r gadwyn werthoedd, mae ganddynt fwy o arian yn eu pocedi a mwy o opsiynau a dewisiadau. Maent nid yn unig yn cynhyrchu incwm o drethi i dalu am wasanaethau cyhoeddus, maent yn dod yn llai dibynnol ar y gwasanaethau hynny, ac felly fe all yr arian sydd gennym yn y pair fynd i’r rheiny na fyddant byth yn cael yr opsiynau a dewisiadau.
Rwyf yn angerddol dros wneud gwahaniaeth go iawn, parhaol i gymunedau drwy Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyd. I mi, mae’r Fargen Ddinesig nid yn unig yn ymwneud â chael adenillion da ar fuddsoddiad, yn bwysicach na hynny, mae’n ymwneud ag adeiladu cymunedau cadarn, cynaliadwy, mae’n ymwneud â chynhwysiant economaidd a lledaenu’r llewyrch rydym yn gobeithio’i greu mor eang â phosibl drwy’r Brifddinas-Ranbarth gyfan i gyd.
Fe allwn bennu targedau i’n hunain ar gyfer buddsoddi a thwf, ac fe allwn gyrraedd y targedau hynny a methu’r pwynt. Oherwydd y pwynt yw nid cael y ffigurau cywir ar fantolen, y pwynt yw creu cymunedau cynaliadwy, cadarn fel ymhen 20 mlynedd, nid yw’n pobl yn dal i ymlafnio ger gwaelod tabl cystadleugarwch y Deyrnas Unedig.
Dengys ein dadansoddiad o’r sector blaenoriaethol ymhle mae’r rhanbarth yn neilltuol o gryf yn sectorau allweddol o’r economi. Mewn gweithgynhyrchu uwch, er enghraifft, mae gan Dde-ddwyrain Cymru bresenoldeb sy’n arwain yn fyd-eang mewn gwneud lled-ddargludyddion cyfansawdd, sef elfen allweddol yn y diwydiant ffonau clyfar byd-eang.
Mewn gwyddorau bywyd, rydym yn gryf mewn diagnosteg a dyfeisiadau, ac felly mae ein cynllun busnes Prifddinas-Ranbarth yn canolbwyntio arnynt. Yn y diwydiannau creadigol, mae gan Dde Cymru ragoriaethau cydnabyddedig mewn cynyrchiadau teledu a ffilmiau.
Mae pobl yn siarad am faes chwarae gwastad, ond yr hyn y mae arnom ei angen ac eisiau ei wneud yw gogwyddo’r maes chwarae fel ein bod yn cael yr effaith fwyaf yn yr ardaloedd hynny lle mae arnom ei hangen fwyaf. Yn y Brifddinas-Ranbarth, rydym yn datblygu cyfres o offer i’n helpu i ogwyddo’r maes chwarae tuag at fusnesau yn yr ardaloedd hynny lle y credwn y gallwn helpu fwyaf. Mae gennym gronfeydd arian y gallwn eu defnyddio, yn cynnwys Cronfa Her i helpu busnesau bychain a busnesau sy’n dechrau egino yn yr economi sylfaenol.
Mae Metro a Mwy yn gyfle i awdurdodau lleol gyflwyno’u cynlluniau trafnidiaeth eu hunain fydd yn helpu i gyflawni nod y Metro o’i gwneud hi’n haws i bobl deithio o amgylch y rhanbarth ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae ein Cronfa Dai yn ffordd arall y gallwn helpu i fagu cadernid yn ein cymunedau. Fe’i hanelir at fynd i’r afael â methiannau’r farchnad yn ein sector tai, gan helpu i ddarparu cartrefi sy’n addas ar gyfer y dyfodol mewn lleoedd lle na fyddent fel arall yn cael eu hadeiladu.
Cadernid, cynaliadwyedd, cynhwysiant – dyma’r syniadau allweddol fydd yn profi p’un a yw’n Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn llwyddiant. Os gwnawn eu cyflawni, fe fyddwn wedi cael y pwynt