Mae FinTech Cymru wedi sicrhau buddsoddiad gwerth £1.6 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Categorïau:
Datganiad i'r Wasg – Cabinet

Mae FinTech Cymru wedi sicrhau buddsoddiad gwerth £1.6 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Cyhoeddodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) heddiw fuddsoddiad pum mlynedd gwerth £1.6 miliwn yn FinTech Cymru, y gymdeithas aelodaeth nid-er-elw annibynnol a hyrwyddwr y diwydiant Technoleg Ariannol a Gwasanaethau Ariannol yng Nghymru.

Bydd y buddsoddiad, fydd yn cael ei ledaenu dros bartneriaeth pum mlynedd rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a FinTech Cymru, yn gweld y ddau sefydliad yn gweithio’n agos i gyflenwi uchelgais Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i helpu i sefydlu Cymru fel sector Technoleg Ariannol blaenllaw yn y Deyrnas Unedig.

Fel rhan o’i strategaeth gyffredinol, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi amlinellu o’r blaen ei nod “Clystyrau Cystadleuol”, sy’n canolbwyntio ar fuddsoddi i ddatblygu ecosystemau cystadleuol, a arweinir gan arloesi mewn clystyrau blaenoriaethol.  Technoleg Ariannol yw un o 5 clwstwr allweddol Prifddinas-Ranbarth Cymru, sydd hefyd yn cynnwys Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Diwydiannau Creadigol, Technoleg Feddygol, a Seiber.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David TC Davies:

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi buddsoddi £375 miliwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd i dyfu economi bywiog a modern ac i roi hwb i sgiliau a swyddi â chyflogau da.  Bydd y buddsoddiad neilltuol hwn yn helpu i sicrhau bod y rhanbarth yn dod yn ganolfan ragoriaeth yn y sector Technoleg Ariannol sy’n cyflym dyfu, gyda’r nod o greu 500 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf.

Dyma beth mae ffyniant bro yn ei olygu yn ymarferol – creu swyddi a chyfleoedd, lledaenu llewyrch, a chael effaith sylweddol ar fywydau pobl.”

Dywedodd Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredu, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

“Uchelgais hirdymor Prifddinas-Ranbarth Cymru yw adeiladu ar y sylfeini cadarn sy’n bodoli eisoes gennym, a chreu clwstwr Technoleg Ariannol dan arweiniad y DU, yn ogystal â sefydlu Prifddinas-Ranbarth Cymru fel arweinydd byd-eang yn y farchnadle yswiriant digidol.

FinTech Cymru yw’r union bartner cywir i helpu i gyflenwi’r uchelgais hwn, a bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn galluogi’r sefydliad i ymateb i’r cyfleoedd yn y farchnad hon sy’n cyflym esblygu, yn ogystal â helpu’r clwstwr Technoleg Ariannol cyffredinol yng Nghymru i ddatblygu rhagor ar ei gyfeiriad strategol ei hun.

Gobeithiwn hefyd y bydd hyn yn cyfrannu rhywfaint tuag at greu cronfa ddoniau benodedig, a gwella llwybrau sgiliau er mwyn sicrhau y gall busnesau Technoleg Ariannol recriwtio’r sgiliau a’r doniau y mae arnynt eu hangen i dyfu, yn ogystal â denu mewnfuddsoddiad i’r rhanbarth.”

Dywedodd Sarah Williams-Gardener, Prif Swyddog Gweithredol, FinTech Cymru:

“Mae’r sector Technoleg Ariannol yn symud yn anhygoel o gyflym, ac mae yna nifer o ranbarthau eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd yn bwriadu cyflymu twf eu clystyrau Technoleg Ariannol, ac felly ni allwn orffwys ar ein rhwyfau.

Mae’r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i adeiladu ar y sylfeini rydym wedi’u gosod dros y 12 mis diwethaf, gan gyfnerthu Cymru fel Y lle i ddechrau, cynyddu a chyflymu busnesau Technoleg Ariannol arloesol, ac ychwanegu gwerth at economi Cymru.

Mae cefnu ar y pandemig, a baich ychwanegol cost byw, creu swyddi o ansawdd uchel i Gymru a denu busnesau newydd i’r rhanbarth, wrth graidd ein strategaeth.

Nododd argymhellion Adolygiad Strategol FinTech (FSR)  gan Ron Kalifa, a gyhoeddwyd yn 2021, Gymru fel un o’r deg clwstwr Technoleg Ariannol uchaf yn y Deyrnas Unedig – sy’n gyflawniad enfawr ynddo’i hun – ond mae’n rhaid inni beidio â bod yn hunanfodlon tra bod cwmnïau mawr eraill ym maes Technoleg Ariannol yn  cryfhau.”  Parhaodd, “Bydd y buddsoddiad hwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ein galluogi i ddatblygu rhagor ar ein strategaeth i ategu arloesedd, i greu swyddi a thwf economaidd.”

Ac yntau wedi’i sefydlu ym mis Gorffennaf 2019, mae FinTech Cymru eisoes wedi meithrin a chefnogi busnesau yng Nghymru, yn ogystal â sefydlu cynllun i sefydlu Cymru fel grym allweddol yn y gymuned Technoleg Ariannol yn fyd-eang.

Yn ei blwyddyn gyntaf, sefydlodd y gymdeithas Fwrdd Cynghori o 20 o bobl, yn cynnwys cynrychiolaeth gan gwmnïau Cymreig sy’n cynnwys Confused.com, Admiral, Y Principality, Capital Law ac Acquis Insurance.

Gellir canfod mwy o wybodaeth am FinTech Cymru yn www.fintechwales.org

Mae llwyddiannau diweddar yn cynnwys denu buddsoddiad, gan greu swyddi drwy’r Ffowndri

Ffowndri carfan 1

Ffowndri carfan 2

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), y tîm sydd wedi ymrwymo i ailfywiogi ac ail-lunio de-ddwyrain Cymru, yn symud i ganolfan arloesi sbarc|spark Prifysgol Caerdydd. Mae cenhadaeth CCR i gysylltu pobl, cyfleoedd a buddsoddiadau â’i gilydd yn rhannu uchelgais sbarc|spark i greu partneriaethau fydd yn arwain at fanteision parhaol i Gymru. Canolfan bwrpasol lle mae cydweithio arloesol yn digwydd yw sbarc|spark. Mae sbarc|spark, sef canolfan cwmnïau deillio a busnesau newydd y Brifysgol, sydd hefyd yn gartref i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC) a Cardiff Innovations@sbarc|sbark yn darparu’r seilwaith er mwyn i brosiectau cydweithio lwyddo.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.