Mae gennym lai na 9 mlynedd i osgoi methiant yr hinsawdd!

Categorïau:
Ymgyrchoedd

Newid yn yr Hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf tyngedfennol y mae’r ddynolryw erioed wedi eu hwynebu. Pan rybuddiodd Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig yn 2018 fod gennym lai na 12 mlynedd (9 bellach) i osgoi methiant yr hinsawdd, nid mater o or-ddweud na chwyddo’r stori i ddenu darllenwyr oedd hi. Barn arbenigwyr byd-enwog wedi dwys ystyried oedd ein bod mewn perygl o greu dyfodol anghynaliadwy i’r cenedlaethau a ddaw.

Dangosodd Adroddiad Risgiau Byd-eang Fforwm Economaidd y Byd 2020 yn fanwl y risg hirdymor sy’n ein hwynebu ni i gyd os na newidiwn yn sylfaenol y ffordd yr ydym yn pweru ein diwydiant a’n trafnidiaeth, yn cynhesu ein cartrefi, yn tyfu ein bwyd, yn mynd i’r gwaith, yn dosbarthu ein nwyddau ac yn defnyddio’r cynhyrchion a’r gwasanaethau mae arnom eu hangen i fyw’n waraidd.

“Yr Her a’r Cyfle sy’n trawstorri ein bywydau i gyd”

Yng nghyd-destun y cefndir sobreiddiol hwn, mae’n werth nodi bod Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran symudiad y DU tuag at ddatgarboneiddio a chynaliadwyedd. Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyllidebau carbon ar gyfer Cymru a lleihau allyriadau gan o leiaf 80% erbyn 2050. Os yw’r ffigur hwn yn codi braw arnoch, gallem eich maddau am edrych i ffwrdd nawr… gan ei bod yn debyg y caiff y targed hwn ei gynyddu i 95% yn seiliedig ar ragfynegiadau gan Bwyllgor y DU ar yr Hinsawdd.

Ni ddylai unrhyw berson cyfrifol, wrth gwrs, edrych i ffwrdd na wfftio anferthwch y cyfan. Y ffaith syml yw nad yw’r cynnydd hyd yma wedi bod yn ddigon cyflym, sy’n golygu bod angen i ni leihau ein hallyriadau’n ddramatig yn y degawd hwn i gyrraedd y targed o ostyngiad gan 45% erbyn 2030. Does neb ar fai. Dyma’r sefyllfa, sy’n deillio i raddau helaeth ar waddol diwydiant Cymru (cynhyrchir 50% o’r allyriadau gan nifer fach o safleoedd diwydiannol) a’r ffaith bod gennym un o stociau tai mwyaf ynni aneffeithlon yn y DU.

“Mae angen i lawer newid, a newid am byth, yn syth bin.” 

Mae angen i lawer newid, a newid am byth, ac yn syth bin. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth y gall Llywodraeth ei wneud: gwneud ymrwymiad polisi i wneud y sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030, alinio eu cylchoedd cyllideb ariannol â chyllidebau carbon er mwyn rhoi mwy o ffocws ar fuddsoddi mewn penderfyniadau sy’n cyflawni targedau lleihau carbon (yr unig lywodraeth yn y DU i wneud hynny) – a galw ar arweinwyr y byd i weithredu’n fwy er cyfiawnder yr hinsawdd. Ond nid dim ond ‘y Llywodraeth’ yn gwneud penderfyniadau neu’n dewis ble dylai wario arian sy’n bwysig. Mae hynny ymhell o’r gwirionedd. Nid dim ond mater i ‘eraill’ yw hi. Mae hi’n fater i ‘ni’. Mae’n fater o bawb yn gwneud y penderfyniadau cywir o ddydd i ddydd i greu byd wedi’i ddatgarboneiddio. Byd lle gall cenedlaethau’r dyfodol fyw a ffynnu – neu beidio.

Y newyddion cadarnhaol (fel y mae’r gyfres hon gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi dangos) yw bod y rhod yn dechrau troi go iawn. Rydym bellach yn deall ein hallyriadau ac ym mha feysydd y mae angen i ni flaenoriaethu’r gweithredu. Rydym yn sylweddoli bod mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac argyfwng natur yn galw am ddull cyfannol o lunio atebion cyfunol. Rydym yn sylweddoli bod angen trosglwyddo cyfiawn, yn gyflym ac eang, sy’n sicrhau manteision lluosog. Rydym yn cymryd cyfrifoldeb Ac fel y mae ein cyfres wedi dangos, rydym yn dechrau cymryd camau hefyd…

“Dwyn ‘Tîm Cymru Sero-Net’ at ei gilydd”

Rydym wedi gweld sut mae ein rhanbarth yn helpu i ddwyn “Tîm Sero-Net Cymru” at ei gilydd yng Nghlwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC), gan drawsnewid ail allyrrydd mwyaf nwyon tŷ gwydr diwydiannol y DU (rydym yn cynhyrchu 16 miliwn tunnell o garbon deuocsid) yn ganolfan ddiwydiannol wedi ei datgarboneiddio drwy’r ‘Cynllun ar gyfer Twf Glân’ sy’n seiliedig ar  effeithlonrwydd ynni, newid tanwydd, defnyddio dal carbon a chanolfannau ynni lleol. Mae’n ras, ac mae llwyddiant yn ein dwylo ni, neu fel y dywedodd David Jukes, Cyfarwyddwr Datblygu Rhaglenni Costain, mor fywiog: “Rydym naill ai’n dilyn y duedd ddatgarboneiddio ac yn mwynhau buddsoddiad o £2bn-£4bn bob blwyddyn am 29 mlynedd – neu rydym yn colli cyfle.”

Rydym wedi archwilio sut y gallwn wneud ein stoc dai yn ‘ynni addas’ ar gyfer y dyfodol a thrawsnewid y sefyllfa bresennol lle mae 750,000 o gartrefi yn gyfrifol am 27% o’r holl ynni a ddefnyddir ar draws P-RC. Mae ar fin dod yn bosibl ôl-osod pympiau tanwydd a boeleri hydrogen i fodloni’r safonau ‘diogelu’r hinsawdd’, sef bod yn garbon-isel, a dŵr ac ynni effeithlon ym mhob eiddo. Yn wir, mae gennym y potensial i gael sgôr ynni band A drwy gyfuniad o drydan a hydrogen a gynhyrchir gan ynni solar, gwynt ar y môr, ynni’r llanw, ynni dŵr, ynni geothermol ac ynni ymasiad erbyn 2035, gan greu miloedd o swyddi newydd a biliynau o bunnoedd o GYC ychwanegol yn y broses.

“Creu miloedd o swyddi newydd a biliynau o bunnoedd o GYC ychwanegol yn y broses ”   

Rydym wedi darganfod bod ein rhanbarth yn geffyl blaen o ran cynhyrchu a defnyddio Hydrogen (piler allweddol yng Nghynllun Cyflawni Carbon Isel Llywodraeth Cymru, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2021) a bydd P-RC yn chwarae rhan ganolog wrth ddefnyddio bysiau, trenau a cherbydau masnachol cell danwydd yn ogystal â bod yn gartref i Riversimple Movement Ltd, dylunydd a gwneuthurwr ceir trydan cell danwydd hydrogen.

Rydym wedi tynnu sylw at y ffaith fod P-RC yn gartref i ecosystem BBaCh sy’n croesawu’n gynyddol y cyfleoedd masnachol enfawr a ddaw yn sgil datgarboneiddio – o fferm fertigol a threfol Micro Acres Cymru, i ddillad plant organig a chynaliadwy Easterkin yng Nghwm Rhondda a’r chwyldro “Atgyweirio Diwydiannol” sy’n cael ei arwain gan Kontroltek ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.

Rydyn ni’n gwneud llawer – ac nawr mae angen i ni wneud mwy. Ydy’r sgiliau a’r doniau y mae’n eu cymryd i wireddu ein huchelgais gennym? Ydyn, yn ôl Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol P-RC, Leigh Hughes, a ddangosodd yn ei erthygl fod ‘Sgiliau Gwyrdd’ a ‘Swyddi Gwyrdd’ yno i ni eu datblygu os defnyddiwn y cryfderau y mae’n amlwg sydd gennym fel rhanbarth i arloesi a chydweithio.

Mae’n galonogol clywed yr ategodd UK Green Jobs Taskforce farn Leigh yr wythnos ddiwethaf.

Mae hefyd yn galonogol gwybod bod gennym yr holl gynhwysion i greu ffyniant datgarboneiddio, cynaliadwy a chynhwysol ar draws pob un o’n deng awdurdod lleol.

Ac nawr – gyda’r Farwnes Brown (Cadeirydd Pwyllgor Addasu CCC) yn rhybuddio “na fydd y newid yn yr hinsawdd yn aros i ni ystyried ein hopsiynau” – mae’n gwbl hanfodol i ni ac i’r cenedlaethau sy’n ein dilyn ein bod ni i gyd yn gwneud y pethau iawn, ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Rhannu:

Share on facebook
Share on twitter
Share on linkedin

Newyddion Cysylltiedig

Ym mis Rhagfyr, lansiodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyfres o erthyglau, cyfweliadau a thrafodaethau digidol i dynnu sylw at bwysigrwydd economaidd a chyfleoedd amrywiol y Diwydiannau Creadigol yng nghyffiniau prifddinas Cymru.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi’r profiad gorau ichi fel defnyddiwr. Os dewiswch barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis.