Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar drothwy trawsnewidiad ynni hanfodol.
Mae’r ras i sero’n cyflwyno llu o gyfleoedd i adeiladu dyfodol ynni glanach, gwyrddach a chynaliadwy i bob cymuned yn Ne-ddwyrain Cymru – gyda’r darogan y bydd Hydrogen wrth graidd y trawsnewidiad hwnnw.
Mae’r nwy carbon isel glân hwn yn addo bod â rôl flaenllaw yn y ffordd rydym yn pweru’n diwydiant, yn rhoi tanwydd yn ein trafnidiaeth ac yn gwresogi’n cartrefi – ac felly roedd tîm Sgiliau a Doniau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn llawn cyffro o ymuno â darparwyr sgiliau arbenigol eraill yn y Gweithdy Sgiliau Hydrogen a drefnwyd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar y 4ydd o Orffennaf.
Gyda thîm Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gynhenid gysylltiedig â helpu i ddiwallu’r galw am sgiliau – a’r ddarpariaeth set sgiliau sero net sydd wedi’u gwreiddio yn ymyriadau ein Cronfa Ffyniant Cyffredin – profodd y Gweithdy’n anhygoel o fuddiol i oleuo’r llwybr sgiliau hydrogen fydd yn cynhyrchu swyddi newydd sylweddol i’n rhanbarth …
Y sgiliau a nodwyd i adeiladu ecosystem hydrogen
Cynhaliodd CR Plus o Glwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) sesiwn gwefreiddiol yn datgelu’r sgiliau a nodwyd (hyd yn hyn) fydd yn helpu i weithredu Cynllun ar gyfer Twf Glân gyda hydrogen wrth ei graidd.
Mae’n gynllun fydd yn cadw gafael ar 113,000 o swyddi, yn creu rolau newydd dirifedi, yn tyfu’r £6 biliwn o Werth Ychwanegol Gros a gyflawnir eisoes gan ddiwydiant De Cymru – ac yn ddichonol yn datgloi’r swm syfrdanol gwerth £30 biliwn o gyfleoedd buddsoddi yn ein rhanbarth.
Mae’r sgiliau sydd eu hangen yn cynnwys ‘doniau ardrawslin’ megis meddylfryd systemau, cyfathrebu, arweinyddiaeth, digidol, ymwybyddiaeth amgylcheddol, ymgysylltu â pholisi amgylcheddol ac economi cylchol – yn ogystal â sgiliau â seiliau technoleg megis hydrogen, dal carbon, cynhyrchu pŵer adnewyddadwy a dylunio cylchol: cymysgedd cyfoethog o sgiliau fydd yn creu llawer o rolau newydd, yn ogystal â bod â rhan hanfodol wrth ‘wyrddio’ galwedigaethau cyfredol megis trydanwyr, peirianwyr, ffitwyr pibelli a weldwyr.
Nifer o sgiliau roedd ar deuluoedd eu hangen i ddatgloi gwerth £30 biliwn o gyfleoedd buddsoddi
Dangosodd y darparwr sgiliau ac addysg hydrogen, Gwynt Glas, sut mae gweithlu medrus yn hollol hanfodol i greu cadwyn gyflenwi sy’n barod am Hydrogen – a sut mae gan ddiwydiant, colegau addysg bellach, cwricwlwm mwy cyffredinol ysgolion a rhaglenni datblygu gyrfaoedd oll ran anhepgor mewn meithrin yr wybodaeth y mae arnom ei hangen i fachu ar, a chyflawni’r cyfle ynni adnewyddadwy … tra bod Hynamics, cynhyrchwyr hydrogen a rhan o’r fenter edf anferth, wedi peintio’r darlun mawr o sut y caiff gweithfeydd pŵer hydrogen gwyrdd creu ledled Ewrop (yn cynnwys yn ein rhanbarth ni yn Y Barri) trwy bartneriaethau penodedig â diwydiannau a rhanddeiliaid lleol – gan nodi pedwar o deuluoedd sgiliau sy’n llunio’r llwybr hydrogen:
- Y Sgiliau Dadansoddol i ddadansoddi gwahanol elfennau prosiect – yn cynnwys materion technegol, economaidd, cyfreithiol a chyfundrefnol.
- Y Creadigrwydd i gynhyrchu syniadau newydd ar ôl ystyried y cyfleoedd a’r bygythiadau, fel ei gilydd.
- Yr Entrepreneuriaeth i nodi’r ‘dewisiadau masnachol cywir’ mewn sector sy’n torri tir newydd drwy’r adeg.
- Y Dysg-adwyedd i esblygu mewn diwydiant sy’n newid yn gyflym sydd eisoes wedi’i nodi am ei lif cyson o feddwl hollol newydd, datblygiadau sy’n trawsnewid yn llwyr, deddfwriaeth newydd ac ymagweddau newydd tuag at fusnes.
Y Pynciau i’w Hystyried a’r Gwersi hyd yn hyn …
Dangosodd y Gweithdy’n eglur bod partneriaethau rhwng gwahanol ddiwydiannau, amrywiol ddarparwyr sgiliau a busnesau eang eu hystod yn hanfodol i lwyddiant.
Atgyfnerthodd Protium, y cynhyrchydd hydrogen mwyaf yng Nghymru, y neges bod angen amrywiaeth o sgiliau i gynnal dyfodol gwyrddach – gyda’u sefydliad eu hunain yn cynnal doniau mor ‘wahanol’ â pheirianneg, digidol, rheoli prosiectau – tra rhoddodd DP Energy safbwynt datblygwr ynni o’r llewyrch cynaliadwy y gellid ei gyflawni drwy greu swyddi a chyfleoedd allforio dichonol, fel ei gilydd.
Y gwersi allweddol hyd yn hyn?
Rhoddodd y Gweithdy lawer o fewnwelediadau dwfn, gydag amryw o themâu eglur sydd eisoes yn amlwg:
- Y Dyfodol ac Yn Awr: mae arnom angen datblygu sgiliau a chymwyseddau ein pobl ar fyrder – a’u datblygu mewn mwy o niferoedd nag erioed o’r blaen.
- Yr Angen am Gyflymder: mae arnom angen y sgiliau hynny a rhoi’r adnoddau i bobl ar hyn o bryd, ar gyfer y prosiectau sydd eisoes yn cael eu datblygu.
- Mae cydweithredu yn hanfodol: cydweithio yw’r unig ffordd y gallwn nodi a chyflawni i fodloni’r gofynion.
- Mae Hyblygrwydd a Chadernid yn hanfodol: mae’r dirwedd sero net yn dal i esblygu, a bydd yr esblygiad hwnnw’n parhau am amser maith.
Cynyddu’r cyfle i greu sgiliau a swyddi yn ein rhanbarth
Nododd Clare Allen, Rheolwr Prosiect Sgiliau dros Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, sut roedd y Gweithdy yn bwriadu adeiladu ar etifeddiaeth hanesyddol drawiadol – a llawer arloesedd diwydiant cyfredol – yn ein rhanbarth:
“Gall ein rhan o’r byd hawlio lle arbennig yn yr economi hydrogen, gyda’r gell tanwydd hydrogen yn cael ei dyfeisio gan William Grove, Cymro balch o’r De, yn 1842.
“Petai’n fyw heddiw, byddai Syr William wedi’i wefreiddio o weld sut mae’r tanwydd eithriadol hwn yn awr yn ein helpu i leihau allyriadau nwy tŷ gwydr, ac yn hysbysu llawer o’n mentrau ynni adnewyddadwy – o Ganolfan Ymchwil Tyrbinau Nwy Prifysgol Caerdydd a rhaglen Gwaith Trin Gwastraff Caerdydd gan Dŵr Cymru, i brosiect arloesol Tarmac yng Ngwaith Sment Aberddawan a’r gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud ledled Clwstwr Diwydiannol De Cymru a Phorth y Gorllewin.
“Mae’r Gweithdy hwn yn cynrychioli rhywbeth o drobwynt mewn tynnu ynghyd rhanddeiliaid â sgiliau hydrogen allweddol – gyda’r wybodaeth a’r gwersi a rannwyd yn diweddaru pawb ar y daith sy’n symud ar gyflymder aruthrol weithiau.”
Eglurodd Rowena O’Sullivan, Rheolwr Sgiliau a Doniau i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, sut y gall y ddarpariaeth sgiliau hydrogen helpu i gyflawni’r weledigaeth a eglurir mewn dogfen gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sef Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol:
“Fel tanwydd allweddol i ostwng allyriadau nwy tŷ gwydr – a cholofn o Gynllun Cyflawni Carbon Isel Llywodraeth Cymru – mae hydrogen yn llunio dyfodol fydd yn creu miloedd lawer o swyddi medrau uchel, sy’n talu’n dda a chynaliadwy i bobl a chadwyni cyflenwi drwy’n rhanbarth i gyd.
“Dangosodd y Gweithdy hwn y potensial i adeiladu sylfaen sgiliau cydnerth – a phiblinell ddoniau sy’n gallu pweru’r gorchwyl o helaethu a defnyddio mentrau’n fasnachol a all sefydlu Cymru fel arweinydd cynnar yn y farchnad, mewn popeth o ôl-osod domestig a chynhyrchu hydrogen ar raddfa fawr, i gyflwyno fesul cam bysiau, trenau a cheir celloedd tanwydd.
“Bydd darparu sgiliau ac Ymchwil a Datblygu yn ganolog i hynny i gyd, gan gynorthwyo’r prosiectau lleol a’r ymagweddau yn seiliedig ar fannau fydd yn sbarduno’n datgarboneiddio diwydiannol – gan ein galluogi i fod yn fwy cysylltiedig, yn fwy cystadleuol ac yn gadarnach, ym mhob ystyr.”