Mae gwobr Cyllid ar gyfer Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig i CS Connected yn cynrychioli hwb enfawr i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

Categorïau:
Prosiectau'r Fargen Ddinesig
Sectorau

Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig £25.4 miliwn mewn cyllid i CSConnected, sef prosiect mawr o fewn Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Mae’r cyllid hwn yn cynrychioli hwb enfawr i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n atgyfnerthu’i ffocws strategol ar led-ddargludyddion cyfansawdd.

Daw’r cyllid drwy Gronfa ‘Strength in Places’ Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n gwneud cyfanswm sy’n fwy na hanner cost y prosiect o £43.7 miliwn.  Daw cyllidau eraill oddi wrth Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, IQE, SPTS, NWF, Microsemi, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a’r Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd (CS) wrth graidd strategaeth Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o adeiladu economi rhanbarthol mwy cystadleuol, cysylltiedig a chadarnach, sydd wedi’i adeiladu ar ddiwydiannau arloesol y dyfodol ac sy’n creu’r cyfoeth i danategu cyd-lewyrch a thwf yn y dyfodol.

Mae’r prosiect CSConnected wedi’i seilio ar integreiddio rhagoriaeth ymchwil o brifysgolion y rhanbarth â chadwyni cyflenwi unigryw’r rhanbarth mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion datblygedig.

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn elfennau hanfodol ledled ystod eang o dechnolegau newydd, a phrif nod prosiect CSConnected yw datblygu mantais gystadleuol mewn technolegau galluogi allweddol, fydd yn caniatáu i’r Deyrnas Unedig gynyddu masnach yn fyd-eang mewn sectorau hanfodol, megis cyfathrebiadau, 5G, cerbydau awtonomaidd a thrydan, a dyfeisiadau meddygol.

Bydd CSConnected hefyd yn darparu rhagor o dwf ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi, gweithgareddau dechrau busnes a deillio, ac uwchsgilio sylfaen gweithgynhyrchu Cymru yn gyffredinol.

Mewn termau effeithiau economaidd, fe ddisgwylir iddo ddarparu cynnydd ychwanegol sylweddol i Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol dros ragolygon twf organig, gan gyflenwi mwy na 1,000 o swyddi gwerth uchel ychwanegol yn y gadwyn gyflenwi ranbarthol o 2025 ymlaen.

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn buddsoddi £37.9 miliwn i gaffael a chyfarparu’r Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd, sydd wedi’i phrydlesu i IQE.  Bydd hyn yn helpu i drosoli hyd at £400 miliwn o fuddsoddiad preifat dros oes y prosiect, i gymell ehangu ac angori’r sector yn y rhanbarth.

Mae’r buddsoddiad yn y Ffowndri yn dod ochr yn ochr â £270 miliwn o fuddsoddiadau ac asedau strategol arwyddocaol lled-ddargludyddion cyfansawdd sydd eisoes wedi’u gwneud yn y rhanbarth, sy’n cynnwys:

  • Y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – sy’n canolbwyntio ar Ymchwil a Datblygu yn y cyfnod cynnar, ac mae’n bartneriaeth rhwng IQE, Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd;
  • Canolfan Ragoriaeth y Clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – sy’n canolbwyntio ar brototeipio a phartneriaeth ag IQE a Phrifysgol Caerdydd;
  • Canolfan Gatapwlt sydd wedi’i seilio ar gymwysiadau – dan arweiniad Innovate UK ac sydd wedi’i lleoli yn ffowndri fawr IQE yng Nghasnewydd;
  • Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol – ffowndri ddeunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Bydd ein buddsoddiad gwerth £44 miliwn yn y prosiect dan arweiniad Prifysgol Caerdydd yn rhoi hwb i’r ymchwil anhygoel sydd eisoes yn digwydd yn y maes hwn ledled de-ddwyrain Cymru.

“Bydd buddsoddi yn y dechnoleg hon sy’n datblygu yn ein galluogi i greu gwaddol parhaol mewn peirianneg a gweithgynhyrchu yng Nghymru, gan greu swyddi sgiliau uchel a thwf economaidd wrth inni ddod allan o argyfwng y coronafeirws.”

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

“Rydym yn adeiladu’r un cyntaf yn y byd yma – clwstwr byd-eang yn y sector lled-ddargludyddion cyfansawdd.  Mae hwn yn ddiwydiant y dyfodol ac mae’n arwyddocaol i gefnogi twf mewn telegyfathrebu, 5G, cyfathrebu, systemau ynni’r dyfodol, cerbydau a thechnoleg feddygol y dyfodol.

“Rydym hefyd yn datblygu gallu technolegol sofran yma yn ein mysg.  Yn sgîl yr haint Covid-19, rydym wedi bod yn trafod pwysigrwydd cadwyni cyflenwi lleoledig.  Bydd hyn yn ein gweld yn ail-leoli’r gadwyn gyflenwi gwerth uchel sylweddol hon ac yn cynnal y buddion yn y rhanbarth, yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.

“Ac yn hanfodol, mae hyn yn arwyddocaol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyfan.  Er y gall fod yna ffocws ar Gaerdydd, Casnewydd ac Abertawe fel canolfannau’r clwstwr a chartref i’r prifysgolion, fe ddaw’r cadwyni cyflenwi, y gweithwyr hynod fedrus a’r Graddau PhD o bob cwr o’r rhanbarth.”

Dywedodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

“Dyma gyflawniad eithriadol yn erbyn cefndir o her economaidd sylweddol – mae’n symbol o obaith yn y cyfle sydd o’n blaenau.  Cynigiad CSConnected oedd un o 23 i’w dethol yn y cyfnod cychwynnol ym mis Mawrth, 2019.  Ar ôl buddsoddiad ased hadau ar gyfer y dyfodol gan Research England ac Innovate UK, fe wnaethom gyflwyno cynllun busnes, ac yn awr rydym yn gwybod ein bod yn un o saith o gynigion llwyddiannus ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae’n glod gwirioneddol i’r Cabinet Rhanbarthol am gefnogi’r dull clwstwr diwydiannol o weithredu, sy’n gydnabyddiaeth o sectorau busnes allweddol a phwysigrwydd lle.

“Bydd yna bob amser anawsterau allanol a gwynt croes mewn unrhyw fuddsoddiad masnachol – rydym wedi cael rhai ac fe allwn ddisgwyl mwy, o ystyried y cyfnod rydym ynddo.  Ond mae’r Cabinet Rhanbarthol wedi cefnogi hyn, mae wedi sefyll yn gadarn ac nid yw erioed wedi gwyro.  Mae’r ymdeimlad o bwrpas a’r dyfalbarhad hyn, pan fyddai wedi bod yn haws ceisio boddhau pawb, i’w ganmol.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:

“Rwyf yn aruthrol falch bod Casnewydd yn gartref i’r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cenhedlaeth nesaf o gwmnïau technoleg arloesol sy’n arwain y ffordd yn y maes pwysig hwn.

“Rwyf yn croesawu’r buddsoddiad sylweddol hwn fel cymeradwyaeth atseiniol o’u gwaith arloesol.  Yn y gorffennol, fe adeiladwyd economi Casnewydd ar y chwyldro diwydiannol, ac felly mae’n addas bod ei phresennol a’i dyfodol yn cael ei naddu gan chwyldro technolegol wrth inni barhau i ddatblygu’r ddinas fel canolfan ddigidol.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Ganol mis Ebrill lansiwyd rhaglenni sgiliau a swyddi newydd mawr - dadorchuddiodd CIPD Wales ei ymgyrch arloesol Hidden In Plain Sight i helpu miloedd o bobl ddifreintiedig i gael gwaith, addawodd Llywodraeth Cymru £13 miliwn i undebau llafur i roi cymorth dysgu ac uwchsgilio a chyflwynodd Daikin a Robert Price gwrs hyfforddi sgiliau undydd arloesol ar y gosodiadau pwmp gwres sy'n helpu i yrru ein chwyldro gwresogi gwyrdd.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.