Lansiodd Infuse yr Infuse Collision Space i dynnu ynghyd y meddyliau disgleiriaf o bob cwr o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf a wynebwn ar hyn o bryd.
Ac yntau’n cael ei ariannu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda chymorth gan academyddion, gwyddonwyr data ac arbenigwyr mewn arloesi, data a chaffael, mae Infuse yn magu arbenigedd mewn arloesi yng Nghymru ledled sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat, ac mae’n cefnogi modelau newydd o ddarparu gwasanaethau.
Beth yw’r Infuse Collision Space?
Nod yr Infuse Collision Space yw rhoi’r sgiliau a’r offer i bobl a sefydliadau y mae arnynt eu hangen i roi sylw i dargedau datgarboneiddio pwysig ynghanol yr argyfwng hinsawdd byd-eang.
Bydd y rhaglen arloesi’n dod â chyfranogwyr a ddewiswyd ynghyd i ffurfio timau traws-sector fydd yn archwilio her, yn nodi datrysiadau posibl, yn profi syniadau, ac yn cael y cyfle i apelio am gyllid i gefnogi syniadau addawol.
Yr Her: Sut y gallwn gynorthwyo pontio teg i sero net o fewn cludiant y sector cyhoeddus ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd?


Bydd cyflawni pontio teg yn golygu nad ydym yn cefnu ar neb wrth inni wneud cynnydd tuag at Gymru lanach, gryfach a thecach. Gan mai trafnidiaeth yw’r sector sy’n allyrru’r cyfaint mwyaf o nwyon tŷ gwydr, mae gan yr Her botensial i gyflawni effeithiau sylweddol trwy weithredu arloesi gwyrdd gan uchafu’r buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd i’r Rhanbarth.
Gall canolbwyntio ar gludiant y sector cyhoeddus olygu ystyried unrhyw faes trafnidiaeth yn y Rhanbarth sy’n ymwneud â’r sector cyhoeddus, megis cynyddu nifer y teithiau a wneir gan gerbydau gwyrdd neu leihau allyriadau sy’n gysylltiedig â cherbydau fflyd.
Y Rhaglen
Dros bedwar mis, bydd cyfranogwyr yn gwneud cynnydd trwy bedwar cam: Archwilio, Adeiladu, Profi, a Gwerthuso. Gall unigolion ddisgwyl:
- Magu sgiliau methodoleg arloesi, arweinyddiaeth a chyflwyno.
- Cael defnyddio rhwydwaith o arbenigwyr pynciau traws-sector.
- Cael y cyfle i apelio am gyllid.
Gwahoddir ceisiadau o hyd tan y 24ain o Fedi i bob unigolyn sydd ag angerdd dros gydweithredu, arloesi ac arwain newid.
I ddysgu mwy am y rhaglen ac am sut i gymryd rhan, ewch i: Infuse Collision Space – Cardiff Capital Region
