Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi gwneud buddsoddiad mân-ecwiti gwerth £2 filiwn yn Pharmatelligence, sef arbenigwr data gofal iechyd a leolir yng Nghaerdydd.
Mae gan Pharmatelligence eisoes enw da fel cwmni sy’n arwain y byd mewn dadansoddi data byd real o ran sefydliadau gofal iechyd a chwmnïau fferyllol mawrion. Yn awr, nod ei gynnyrch meddalwedd newydd, Livingstone, yw cyfuno’r arbenigedd hwnnw â thechnolegau data hollol arloesol.
Mae’r buddsoddiad diweddaraf hwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn unol â’u strategaeth o gefnogi cwmnïau lleol arloesol mewn sectorau a diwydiannau blaenoriaethol y dyfodol er mwyn hyrwyddo twf a chreu swyddi cynaliadwy o werth uchel yn y rhanbarth.
Y bwriad wrth wraidd meddalwedd Livingstone, sydd wedi’i datblygu o amgylch data’r GIG, a wneir yn ddienw yn ofalus yn ei darddiad er mwyn diogelu cleifion rhag cael eu hadnabod, yw bod y cyntaf o’i math drwy’r byd i gyd, gan awtomeiddio’r gwaith o ddadansoddi cyfaint enfawr o ddata i gynhyrchu adroddiadau o ansawdd gwyddonol mewn amser real ar gyfer defnyddwyr y GIG a’r diwydiant fferyllol. Mae hyn o arwyddocâd neilltuol yng nghyd-destun y pandemig cyfredol o’r haint COVID-19 a materion iechyd byd-eang y dyfodol.
Caiff Livingstone, fydd yn ddarostyngedig i gynllun cyflwyno fesul cam, ei thrwyddedu fel ‘meddalwedd fel gwasanaeth’ (SaaS) i ddefnyddwyr yn y diwydiant o dan fodel tanysgrifio.
Dywedodd Peter Fox, Is-gadeirydd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Sir Fynwy:
“Ystyrir Pharmatelligence yn gyffredinol fel arweinydd syniadau yn eu disgyblaeth wyddonol, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu buddsoddi yn y busnes arloesol hwn a chefnogi’u huchelgais i fasnacheiddio’r feddalwedd chwyldroadol hon.
“Mae’r prosiect hwn yn llwyr gyson â’n hamcanion a’n deilliannau buddsoddi, yn fwyaf nodedig yn y gorchwyl arfaethedig o gyflogi a hyfforddi’n barhaus nifer sylweddol o raddedigion ac ôl-raddedigion mewn swyddi tra medrus sy’n talu cyflogau uchel sy’n swyddi diogel ymhell i’r dyfodol. Mae’r buddion i’r economi ehangach hefyd yn sylweddol, gyda’r tebygolrwydd y bydd Pharmatelligence yn denu presenoldeb cwmnïau fferyllol byd-eang yn Ne Cymru, gyda’r holl fuddion ychwanegol a ganlyn y bydd hyn yn eu creu, fydd yn treiglo i lawr i’r economi lleol.
“Mae gennym bob hyder yng ngallu Pharmatelligence i gyflawni, ac y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i fod â rhan sylweddol yng ngwireddu’n huchelgais strategol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd o ddod yn ganolfan ragoriaeth ranbarthol mewn diagnosteg feddygol.”
Dywedodd yr Athro Craig Currie, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gwyddonol Pharmatelligence:
“Rydym wrth ein bodd o fod wedi cytuno i’r buddsoddiad hwn, sy’n dangos yn eglur werth dichonol Livingstone.
“Ein huchelgais yw cyflogi llawer o’r graddedigion gorau o brifysgolion lleol i esblygu llwyfan feddalwedd hollol newydd, fydd heb ei hail. Bydd Livingstone yn caniatáu inni gynnal astudiaethau gwyddonol cymhleth mewn ychydig oriau, o’i gymharu â’r misoedd y mae yn aml yn ei gymryd inni ar hyn o bryd.
“Bydd ein cynlluniau yn y dyfodol yn cadw Livingstone bob amser ym mlaen y gad o ran dadansoddi data gofal iechyd byd real.”