Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Connected Places Catapult yn cydweithio ar arloesi a thwf

Categorïau:

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) newydd groesawu a chynnal tîm Twf Rhanbarthol Connected Places Catapult yn ei swyddfeydd Sbarc yng Nghaerdydd, gan gryfhau’i phartneriaeth strategol gyda sbardunwr arloesi’r Deyrnas Unedig ar gyfer trafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig, dinasoedd a thwf lleol.

Cynhaliwyd trafodaeth am arweinyddiaeth yn Sbarc i archwilio sut y gall y bartneriaeth strategol gyflawni’r effaith fwyaf, gan ddod â gwybodaeth ranbarthol a phrofiad ac uchelgais buddsoddi lleol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ynghyd ag arbenigedd a rhwydweithiau cenedlaethol Connected Places Catapult.

Mae’r ffocws yn awr ar gryfhau cysylltiadau rhwng busnesau, ymchwil, heriau’r sector cyhoeddus a buddsoddi, gan greu llwybrau mwy eglur ar gyfer arloesi i gyrraedd cwsmeriaid, denu buddsoddiad ac uwchraddio.

Un o elfennau allweddol y berthynas newydd hon yw penodiad Owen Wilce, Uwch-reolwr Arloesi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i rôl newydd 18 mis a ariannir gan ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Connected Places Catapult.  Mae’r rôl newydd hon, Pennaeth Partneriaethau Arloesi Rhanbarthol, yn canolbwyntio ar ddarparu adnoddau er mwyn i’r bartneriaeth gyflawni effaith a sicrhau gweithredu cyfunol.

Dywed Owen am ei benodiad newydd: “Rwyf wrth fy modd o fod yn ymuno â Connected Places Catapult mewn cyfnod cyffrous o’r fath.  Mae’r Catapwlt yn buddsoddi mewn rolau sydd wedi’u gwreiddio fel fy rôl i ledled y Deyrnas Unedig, ac mae’r bartneriaeth strategol hon gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dangos ymrwymiad go iawn i weithio ochr yn ochr â rhanbarthau, nid dim ond iddynt.  Trwy gysylltu arbenigedd lleol â gallu arloesi cenedlaethol, gallwn ysgogi twf dan arweiniad arloesi sy’n creu cyfleoedd ac sydd o fudd i bobl a busnesau ledled y rhanbarth.”

Cytuna Gavin Powell, Pennaeth Arloesi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Rydym yn llawn cyffro o fod yn dechrau ar y bartneriaeth strategol hon gyda Connected Places Catapult, ac o groesawu Owen i’r rôl.  Bydd cael presenoldeb wedi’i wreiddio ochr yn ochr â’n tîm a phartneriaid eraill megis UKRI yn cryfhau’r llwybr masnacheiddio yn ein rhanbarth, gan helpu mwy o fusnesau i droi syniadau gwych yn gynhyrchion ac yn wasanaethau sy’n barod ar gyfer y farchnad.”

Trwy weithio’n gydweithredol, mae gan y ddwy ochr gyfle i adeiladu ecosystem arloesi ranbarthol fwy cysylltiedig ac i gefnogi De-ddwyrain Cymru wyrddach, decach a chryfach.

 

Tags: Arloesi

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Yn dilyn araith y Prif Weinidog ar ddatganoli pellach yng Nghymru heno, croesawodd Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y De-orllewin, y Cynghorydd Rob Stewart, y cyfle i gael sgwrs newydd ynghylch sut y gellir dod â phŵer, cyfrifoldeb a chyfle economaidd yn agosach at gymunedau.

Subscribe for updates

Skip to content