Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ymysg tair dinas a rhanbarth yn y Deyrnas Unedig a gefnogir gan gronfa arloesi leol gwerth £500 miliwn.
Bydd partneriaethau lleol yn cyfarwyddo cyllid i ystod o flaenoriaethau, yn amrywio o wyddorau bywyd i Ddeallusrwydd Artiffisial neu i fanteisio ar gryfderau presennol y rhanbarth mewn technoleg cerbydau i gynorthwyo dyfodol gwyrddach.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ymysg tair dinas a rhanbarth yn y Deyrnas Unedig sy’n derbyn o leiaf £30 miliwn yr un gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddatgloi arloesi newydd, a arweinir yn lleol a all wella bywydau ledled y wlad, y cyhoeddodd Gweinidog Gwyddoniaeth y Deyrnas Unedig, yr Arglwydd Vallance, heddiw (dydd Mawrth, y 29ain o Orffennaf).
O fis Ebrill 2026, bydd partneriaethau rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, busnesau a sefydliadau ymchwil yn gweithio gydag Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) i fuddsoddi’r cyllid mewn ystod o flaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol mewn gwyddoniaeth a thechnoleg – yn amrywio o wyddorau bywyd i ddatrysiadau ynni gwyrdd, o Ddeallusrwydd Artiffisial i beirianneg, a’r tu hwnt.
Bydd y cyllid yn adeiladu ar gryfderau presennol Caerdydd, a’r rhanbarth yn ehangach, o’i rôl mewn datblygu cydrannau i gerbydau trydan fydd yn helpu i adeiladu byd gwyrddach i alluoedd gwyddor data, a all wella bywydau trwy well gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r cyllid yn ffurfio rhan o’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol (LIPF) o hyd at £500 miliwn, a gyhoeddwyd cyn Adolygiad Gwariant y mis diwethaf i rymuso arweinwyr lleol. Bydd y gronfa’n helpu i dargedu buddsoddiad mewn arloesi ac i fanteisio ar arbenigedd ein cymunedau i ddatgloi darganfyddiadau a ddaw â ffyniant, cydnerthedd a lles economaidd i’r rhanbarth, i Gymru ac i’r Deyrnas Unedig.
Cyhoeddwyd y cyllid fel rhan o setliad Ymchwil a Datblygu uchaf erioed o £86 biliwn tan 2030, a bydd yn helpu’r Llywodraeth i gyflawni’i Strategaeth Ddiwydiannol trwy gefnogi sectorau twf uchel a chyfnerthu partneriaethau gyda diwydiant ar gyfer twf economaidd cyfnod hir.
Dywedodd Gweinidog Gwyddoniaeth y Deyrnas Unedig, yr Arglwydd Vallance:
“O ysgogi datblygiad cydrannau cerbydau trydan fydd yn helpu i gyflawni planed wyrddach i waith gwyddor data hollol arloesol, mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd
rôl flaenllaw yn nhechnolegau’r dyfodol a all fod o fudd i bobl trwy’r Deyrnas Unedig i gyd.
“Trwy dargedu’r cyllid hwn gydag arweinwyr lleol i ystod o sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg, gallwn fanteisio ar yr arbenigedd ledled Caerdydd a Chymru’n ehangach i dyfu’r economi fel rhan o’n Cynllun dros Newid.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
“Mae’r cyllid hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hanfodol i gefnogi sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg blaenllaw Cymru. Rydym eisoes yn rhagori ar ein maint mewn meysydd lle mae yna botensial enfawr am hyd yn oed mwy o dwf.
“Mae gan Gymru’r doniau a’r arbenigedd i ddatblygu datrysiadau uwch-dechnoleg i ystod o heriau, a bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i roi hwb cychwynnol i arloesi, i greu swyddi newydd sydd â chyflogau da ac i dyfu economi Cymru.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn cynrychioli pleidlais arall o ymddiriedaeth ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae’n adeiladu ar ein gwaith o gynorthwyo’i thwf, ecosystem gref o ymchwil prifysgol, seiliau diwydiant a chlystyrau arloesi dros nifer o flynyddoedd.
“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Chyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i adeiladu ar gryfderau’r rhanbarth, i ddenu buddsoddiad preifat sylweddol, i gryfhau partneriaethau rhanbarthol ac i gyflawni buddion go iawn i bobl ledled De-ddwyrain Cymru a’u tu hwnt.”
Bwriodd Mary Ann Brocklesby, Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y sylw:
“Mae’r cyllid arloesi lleol hwn yn gam sylweddol yn ein hymrwymiad parhaus i greu rhanbarth sy’n canolbwyntio ar arloesi, cysylltedd a ffyniant i bawb. Trwy wyddoniaeth a thechnoleg, rydym yn gallu parhau i ehangu’n gorwelion, ein huchelgais ac i wneud ein rhan mewn creu pennod newydd yn hanes De-ddwyrain Cymru.”
Ychwanegodd Kellie Beirne, Prif Weithredwr dros Brifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Arloesedd yw anadl einioes ein rhanbarth, a chyda hynny y daw’r gallu i sefyll ar lwyfan y byd fel rhanbarth cystadleuol, cysylltiedig. Mae’r cyhoeddiad hwn yn garreg sarn arall mewn buddsoddi i ysgogi twf dan arweiniad arloesi a ddaw â swyddi a ffyniant i drigolion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r tu hwnt. Bydd y Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol yn golygu y gallwn barhau i dorri tir newydd, i archwilio technolegau newydd ac i weld lles economaidd ein rhanbarth yn ffynnu. Edrychaf ymlaen at weld yr hyn y gellir ei wneud yn bosibl oherwydd y cyllid hwn.”
Mae’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol yn cynrychioli symudiad sylweddol mewn polisi arloesi a seilir ar leoedd, gan roi mwy o reolaeth i ranbarthau ynglŷn â sut y caiff buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu’i gyfarwyddo i uchafu’u potensial i arloesi ac i ysgogi twf economaidd.