Mae buddsoddiad yn helpu i atgyfnerthu safle’r Rhanbarth mewn darlledu o bell byw ar raddfa fyd-eang.
Buddsoddodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) £1.5 miliwn yn yr asiantaeth cynhyrchu darlledu, Whisper, gan alluogi prynu cyfarpar darlledu o bell arbenigol i ddarparu rhaglenni byw ar raddfa fawr o fewn cyfleuster ei Chanolfan Ddarlledu Cymru newydd yng Nghaerdydd, a’r gyntaf oedd Gemau Paralympaidd 2024 ym Mharis.
Mae uchelgais y prosiect hwn yn mynd yn ddyfnach na’r Gemau Paralympaidd, gyda chynyrchiadau rhyngwladol eraill eisoes wedi’u cynllunio; ymrwymiad i hybu sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth ar gyfer grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol a wêl y buddsoddiad hwn yn dod â buddion pendant i’r gymuned ehangach a gwaddol parhaol.


Gyda’r cyfarpar stiwdio newydd hwn ar waith, mae Whisper wedi gallu creu un o’r cyfleusterau cynhyrchu mwyaf hygyrch yn Ewrop. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys toiled â man newid dillad, rhodfeydd llydan, rampiau, drysau sy’n gweithio â chymorth pŵer ac arwyddion hygyrch. Rhoddwyd sylw hefyd i gynlluniau ac arwyddion lliwiau’r Ganolfan drwy gydol yr adeg i sicrhau y gall Canolfan Ddarlledu Cymru gael ei defnyddio gan ystod mor eang â phosibl o bobl. Yn ychwanegol, gwnaetrh Media Cymru a Sianel 4 gyd-gyllido ymchwil a datblygu gan ganolbwyntio ar hygyrchedd mewn cynhyrchu byw ar y cyd â’r Ability People – gyda’r gobaith o weithredu fel astudiaeth achos ar gyfer cyfleusterau technegol eraill i’w defnyddio fel ymarfer gorau ac i rannu dysg.
Fel un o sectorau blaenoriaeth allweddol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd y Diwydiannau Creadigol yn elwa o’r buddsoddiad hwn, gan ddarparu Gwersylloedd Hyfforddiant Dwys ar gyfer hyd at 100 o bobl dros bum mlynedd, yn cwmpasu sgiliau digidol a darlledu. Yn ychwanegol, bydd Whisper yn darparu dau ddigwyddiad allgymorth ledled y Rhanbarth bob blwyddyn – y nod yw cyflwyno unigolion ifainc i’r cyfleoedd o yrfaoedd amrywiol yn y diwydiant, a meithrin cynhwysiant ac amrywiaeth.

Dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Nia Griffith:
“Mae’n rhagorol gweld Canolfan Darlledu Cymru yn agored, a Whisper Cymru yn darparu sylw byw o’r Gemau Paralympaidd ar gyfer Sianel 4. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod gwerth y diwydiannau creadigol i Gymru, a dyna pam rydym yn falch o fuddsoddi ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a gweld y cyllid hwnnw’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r sector.
“Rydym ni, ynghyd â’n partneriaid, yn helpu i fagu enw da o safon byd am Ffilmiau a Theledu yn rhanbarth Caerdydd.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd Pwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Dengys Canolfan Ddarlledu Cymru’r gwobrwyon anferthol o fod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cydweithio â’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru a Whisper Cymru. Mae’r buddion economaidd ehangach o greu swyddi, o gadw gafael ar ddoniau cartref ac o ddenu unigolion medrus i Gymru, yn ogystal ag adeilad hynod hygyrch y cyfleuster, yn agor cyfleoedd gwaith i bawb, gan feithrin amrywiaeth a chynhwysiant yn ein Rhanbarth.
“Rwyf yn llawn cyffro ynglŷn â’r sector diwydiannau creadigol sy’n tyfu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn parhau i dyfu a ffynnu.”
