Cyhoeddodd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) fuddsoddiad gwerth £12 miliwn gan y Gronfa Adeiladau Strategol i ariannu datblygiad Stiwdios Great Point yng Nghaerdydd yn y dyfodol, a rhagwelir y daw hyn yn un o brif ganolfannau Ewrop ar gyfer cynhyrchu ar gyfer ffilmiau a theledu.
Cefnogir buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mewn partneriaeth ag asiantaeth Cymru Greadigol gan Lywodraeth Cymru sy’n cyflenwi grant gwerth £6 miliwn, gan £21 miliwn yn rhagor o gyllid gan Stiwdios Great Point a brynodd yn ddiweddar adeiladau Stiwdios Seren oddi wrth Lywodraeth Cymru, ar ôl eu prydlesu er 2020.
Gwêl y buddsoddiad Stiwdios Great Point yn uwchraddio rhagor ar y stiwdio i greu cyfleuster hunangynhaliol, o safon byd fydd nid yn unig yn cynorthwyo gyda mwy o alw cynhyrchu ond a fydd hefyd yn darparu dros 500 o swyddi, a thwf ar gyfer cadwyn gyflenwi a rhanbarth ehangach. Bydd yr ychwanegiad o gyfleuster hyfforddi cydweithredol hefyd yn helpu i ddatblygu’r cyflenwad o sgiliau a doniau lleol ac yn gwreiddio’r stiwdio fel canolfan arloesol ar gyfer cynhyrchu rhithiol.
Bydd y prosiect yn cyflenwi 257,000 troedfedd sgwâr o fan cynhyrchu o safon byd, gyda phedair stiwdio hollol arloesol a seilwaith cymorth cynhwysfawr yn cael eu hadeiladu dros ddau gam. Yn ychwanegol, bydd y prosiect hefyd yn cynnal hyd at 750 o griw ar eu liwt eu hunain y flwyddyn, sef cynnydd o’r 250 cyfredol, a’r stiwdio yng Nghymru fydd y pencadlys ar gyfer Stiwdios Great Point.
Rheolir Cronfa Adeiladau Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gan dîm Cynghori ar Fuddsoddi CBRE o fewn Capital Advisors.
Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r sector creadigol yng Nghymru – ac mae gweld Great Point Studios yn prynu’r stiwdio a’u buddsoddiad arfaethedig yn dangos enghraifft arall o hyder yng Nghymru fel lleoliad gwych a sefydledig ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn creu rhagor o swyddi ac yn helpu i gadarnhau dyfodol cryf i’r sector – gan atgyfnerthu’r galw a’r parch mawr i’n gweithlu creadigol medrus yma yng Nghymru.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, AS:
“Mae yna sector diwydiannau creadigol anhygoel o gryf ac sy’n tyfu yng Nghaerdydd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn falch o gyllido ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n eu galluogi i weithio â phartneriaid eraill ac i wneud y buddsoddiad cyffrous hwn.
“Mae arnom eisiau denu doniau mewn Cynhyrchu ar gyfer Teledu a Ffilmiau i Gymru, gan adeiladu ar yr enw da bendigedig sydd gennym eisoes. Bydd y cyfleuster hwn yn darparu’r cwmpas ar gyfer mwy o gynyrchiadau i leoli’u hunain yng Nghaerdydd, gan helpu i ddal gafael ar ein cronfa o bobl greadigol a fagwyd gennym ni’n hunain, i hyfforddi cenedlaethau’r dyfodol ac i greu swyddi, cyfle a thwf.”
Canmolodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, raddfa a chynaliadwyedd y datblygiad a gynllunnir.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn nodweddiadol o’r hyn yw holl hanfod ein Cronfa Adeiladau Strategol – sef darparu 257,000 ft² troedfedd sgwâr o fan cynhyrchu o safon byd, gyda phedair stiwdio hollol arloesol a seilwaith cymorth cynhwysfawr yn cael eu hadeiladu dros ddau gam.
“Rwyf wrth fy modd bod yr holl waith caled a wnaed gan gynifer o bobl wedi darparu canlyniad anferth o’r fath – i ddatblygiad sy’n crynhoi’n berffaith nodau ac amcanion Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a’n huchelgais i feithrin ‘Twf Da’ ledled y Rhanbarth.”
Bwriodd Rob Quinn, Cyfarwyddwr Cyswllt, Cynghori ar Fuddsoddi, CBRE Capital Advisors y sylw:
“Bydd benthyciad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn annatod i lwyddiant parhaus Stiwdios Seren Great Point, gan atgyfnerthu’r cysylltiad gwreiddiau dwfn rhwng De Cymru a’r diwydiant ffilmiau.
“Cynlluniwyd y stiwdio ffilmiau newydd â phwyslais cryf ar gynaliadwyedd yn ei adeiladwaith a’i weithrediadau dyddiol gan dargedu sgôr Rhagoriaeth BREEAM, sy’n dangos ymrwymiad Stiwdio Great Point tuag at gyfrifoldeb amgylcheddol.
“Y tu hwnt i’w ymrwymiadau amgylcheddol, mae dyluniad y stiwdio sy’n addas ar gyfer y dyfodol nid yn unig wedi ennill gwerth defnydd cyfredol cadarn ond caiff hefyd ei danategu gan werth defnydd amgen cryf a rhagor o botensial datblygu. Mae’r amlbwrpasedd hwn yn gosod y stiwdio mewn safle fel ased gwerthfawr ar gyfer is-denantiaid gwneuthurwyr ffilmiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a bydd yn denu ystod amrywiol o brosiectau a doniau i Gymru, gan atgyfnerthu rhagor ar safle De Cymru fel canolfan ffilmiau digyffelyb.”