Cyhoeddodd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) fuddsoddiad gwerth £9.7 miliwn gan y Gronfa Adeiladau Strategol i ariannu cwblhau Gwesty Tŷ Casnewydd a chanddo 146 o welyau, nid nepell o goridor yr M4.
Bydd y gwesty’n ffurfio rhan o ymbarél ehangach Gwesty Hamdden y Celtic Manor, y busnes a sefydlwyd gan y gŵr busnes o Gymro, Syr Terry Matthews, a sefydlodd dros 100 o fusnesau technoleg llwyddiannus, yn cynnwys Rhwydweithiau Mitel a Threcelyn.
Yn ogystal â’r 146 o welyau, bydd y gwesty’n cynnwys bwyty gwasanaeth llawn, man bar, cyfleusterau ystafelloedd cyfarfodydd busnes, a mannau gwefru cerbydau trydan. Mae yna siop goffi gyrru drwodd newydd gan Costa wedi’i hadeiladu yn y fynedfa i faes parcio’r gwesty.
Bydd gwelyau ychwanegol y gwesty’n ategu gallu Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (“ICCW”) i gynnal cynadleddau mwy o faint, a’r cyntaf o’r rhain fydd Cynhadledd y Coleg Nyrsio Brenhinol o’r 2ail i’r 6ed o Fehefin. Caiff lefel y gweithgareddau yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru effaith economaidd gadarnhaol sylweddol ar yr ardal leol drwy wariant a gynhyrchir gan y mynychwyr y mae’r digwyddiadau hyn yn eu tynnu i’r ardal.
Mae’r cynllun wedi gwella allbynnau amgylcheddol, lle mae’r holl swyddogaethau a bwerir gan nwy wedi’u disodli gan system a bwerir yn llwyr gan drydan sy’n defnyddio pympiau gwres a phaneli ffotofoltaidd ar y to, fel amod y benthyciad. Bydd gan y gwesty sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o A, sy’n eithriadol i ased o’r natur hon.
Daw’r gwesty â rhagor o fudd i’r rhanbarth trwy’i bartneriaeth a gynlluniwyd â dau sefydliad addysg drydyddol lleol, a wêl hyd at 50 o bobl ifanc y flwyddyn yn cwblhau elfen hyfforddiant ymarferol eu cyrsiau rheoli lletygarwch yng Ngwesty Tŷ Casnewydd.
Bwriodd Rob O’Dwyer, Pennaeth Seilwaith i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, y sylw bod y prosiect hwn yn hwb arall i’w groesawu i’r rhanbarth, ac y bydd yn gwella rhagor ar y ddarpariaeth o lety gwesty o ansawdd uchel i gynorthwyo’r galw cynyddol am letygarwch a chyfleusterau cynadledda.
“Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r gwesty newydd yn haf 2019, a chynlluniwyd yr agoriad yn wreiddiol ar gyfer 2020. Ataliwyd y rhaglen adeiladu oherwydd cyfyngiadau symud Covid-19 ym mis Mawrth 2020. Bydd y buddsoddiad hwn o fenthyciad gan Gronfa Adeiladau Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn galluogi cwblhau’r adeiladu ac yn helpu i gynhyrchu swyddi lleol ychwanegol ac yn helpu i wella rhagolygon twf cyfnod hir a chystadleugarwch yr economi lleol.”
Ar ôl cwblhau’r prosiect, caiff y benthyciad ei ad-dalu’n llawn ar gyfraddau masnachol a’i ail-fuddsoddi mewn rhagor o gyfleoedd datblygu cynaliadwy ledled y rhanbarth.
Bwriodd Rob Quinn, Cyfarwyddwr Cyswllt, Cynghori ar Fuddsoddi, Cynghorwyr Cyfalaf CBRE, y sylw:
“Bydd cyllid amserol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn anadlu bywyd newydd i brosiect gwesty Casnewydd y bu oedi arno yn ystod y pandemig ac a roddwyd wedyn o’r neilltu.
“Gyda chymorth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae’r cynllun uchelgeisiol hwn sydd wedi’i leoli’n strategol yn awr yn gallu mynd rhagddo, ac mae’n addo creu effaith gadarnhaol ar y rhanbarth drwy fwy o ymweliadau gan dwristiaid a phartneriaethau hyfforddi myfyrwyr a gynlluniwyd sydd gan y gwesty sydd â’r nod o uwchsgilio a chreu swyddi i fyfyrwyr y sector.”
Nododd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a Chadeirydd y Gronfa Adeiladau Strategol:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn enghraifft wych o’r hyn y bwriadwyd i’r Gronfa Adeiladau Strategol ei wneud – sef darparu buddsoddiad sy’n cynorthwyo i gyflawni Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’n huchelgais i feithrin twf da ledled y Rhanbarth. Yn ychwanegol, mae’n galonogol gweld cynaliadwyedd yn cael ei adeiladu i ased Cymreig o’r natur hon, gyda sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o A, a swyddogaethau tanwyddau ffosil yn cael eu disodli gan ddulliau eraill sy’n fwy effeithlon o ran ynni. Mae’r buddsoddiad hwn yn enghraifft batrymol o sut y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gynorthwyo busnesau yn y Rhanbarth i gyfrannu tuag at Gymru Sero Net”.