Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn buddsoddi mewn doniau seiber benywaidd

Categorïau:

Darparodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) leoliadau a ariannir yn llawn i ferched ar gwrs MSc Seiberddiogelwch a Thechnoleg Prifysgol Caerdydd, gydag uchelgais i amrywiaethu’r gweithlu seiber ac i ehangu mynediad i’r diwydiant ar gyfer grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol. 

Datblygwyd y rhaglen gan ymchwilwyr seiberddiogelwch sydd ymysg goreuon y byd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg mewn partneriaeth â thîm Hacio Moesegol a Seiberddiogelwch PwC.  Ariannwyd y pum lleoliad ar garfan 2024/2025 ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 

Trwy ddarparu lleoliadau a ariannwyd, galluogodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ferched ifainc i ddechrau yn y sector seiberddiogelwch, diwydiant lle mae 82.5% o’r gweithlu yn wrywod, yn ôl Adroddiad Seiber y DU Socura (2024).  Enillodd graddedigion y rhaglen MSc rolau medrau uchel mewn cwmnïau, yn cynnwys Airbus a PwC, gan gynorthwyo busnesau i ddenu doniau seiber benywod i’r sector.  

Dywedodd y Dr Nia Evans, Uwch-reolwr gyda PwC, Uwch-ddarlithydd Anrhydeddus dros Brifysgol Caerdydd: 

“Bu’n fraint bod yn rhan o greu a gweithredu’r cyfryw raglen effeithiol.  Helpodd i arddangos yn union mor gadarnhaol y gall partneriaethau effaith fod rhwng y byd academaidd, y sector cyhoeddus a diwydiant.  Esgorodd y llwyddiant ar weld mwy o raglenni o brifysgolion eraill yn codi.  Dengys fod ganddi effaith wirioneddol ar ddoniau lleol pan fo pawb yn ymrwymo i wneud newid buddiol.  Nid yn unig y gwnaeth y rhaglen fagu doniau lleol ond gwnaeth hefyd ddenu doniau o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.     

“Fel rhywun sy’n gysylltiedig â’r rhaglen, a rhywun sy’n gweithio i un o’r cyflogwyr a recriwtiodd yn weithredol o’r rhaglen, rwyf yn llawn cyffro o weld pa ddawn wych fydd yn parhau i ddod o’r rhaglen yn y cyfnod hir, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol y gwn y cânt ar y gweithlu seiber o fewn Cymru.” 

Mae Yasmine Portella, person â gradd MSc 2024 ac Uwch-swyddog cyswllt mewn Hacio Moesegol yn PwC, yn rhannu: 

“Darparodd y cwrs MSc mewn Seiberddiogelwch a Thechnoleg ystod eang o wybodaeth a’m helpodd i adeiladu sylfaen dda ar gyfer gyrfa yn y diwydiant seiber.  

“Credaf nad yw’r diwydiant seiberddiogelwch, yn ogystal â’r amrywiaeth o rolau sy’n bodoli oddi mewn iddo, wedi’u hysbysebu’n dda y tu allan i gylchoedd seiberddiogelwch – mae yna gynifer o rolau seiber diddorol rwyf ond wedi’u darganfod ers imi ddechrau gweithio yn y diwydiant.  Credaf y byddai gan lawer mwy o bobl ddiddordeb mewn seiber ac y byddent yn awyddus i ymuno â’r diwydiant petai’n fwy hygyrch.” 

Dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, Arweinydd Cyngor Casnewydd ac Arweinydd Portffolio dros Ddata a Sgiliau: 

“Mae’r rhaglen yn enghreifftio effaith gadarnhaol partneriaethau rhwng y byd academaidd, y sector cyhoeddus a diwydiant, sy’n unedig yn yr uchelgais ar y cyd i gynorthwyo merched a grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol yn y diwydiannau seiber a thechnoleg. 

“Gyda 50 o fyfyrwyr yn elwa o leoliadau wedi’u hariannu er 2021, dengys y cydweithrediad hwn yr hyn y gallwn ei gyflawni wrth gydweithio – sef ehangu’r gronfa doniau seiberddiogelwch a darparu ffrwd o ddoniau i fusnesau’n rhanbarth, gan ddiogelu dyfodol cyfnod hir y gweithlu seiber.” 

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Heddiw, cyhoeddodd Partneriaeth Gyfyngedig Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd fuddsoddiad yn Coaches’ Voice, y platfform addysg a hyfforddi pêl-droed digidol sy'n tyfu'n gyflym.

Subscribe for updates

Skip to content