Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi buddsoddi £2 filiwn yn Nhechnolegau Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen Apex, gan ddatgloi’r potensial anferth i greu canolfan ragoriaeth i weithgynhyrchu digidol yng Nghymoedd gogleddol De-ddwyrain Cymru.
(Credit – Apex Additive Technologies)
Daw arbenigedd mewn Gweithgynhyrchu Digidol y Diwydiant 4.0 sydd gan Apex, y cwmni o Lynebwy, â’r cyfle i wneud argraff wirioneddol darfol ledled yr holl sectorau mewn gweithgynhyrchu yng Nghymru – gyda’r cwmni hefyd yn gweithredu fel piblinell o ddoniau cynaliadwy o weithwyr lleol sydd â sgiliau cywrain, sy’n gallu cyflenwi datrysiadau gweithgynhyrchu gwyrdd, effeithiol o ran costau a hynod arloesol ar gyfer marchnadoedd cenedlaethol a byd-eang.
Eglurodd Youssef Beshay, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Technolegau Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen Apex, pam mae Glynebwy yn cynrychioli’r lleoliad delfrydol ar gyfer y busnes:
“Mae gweithgynhyrchu yn rhan o wneuthuriad Cymoedd gogleddol De Cymru, ac mae Apex yn grymuso mentrau Lleol a Byd-eang fel ei gilydd i fabwysiadu’r dechnoleg uwch-weithgynhyrchu cydrannau metelig sydd ar gael – gan ddatgloi rhyddid dylunio dihafal, rhan berfformio a mynediad at ddetholiad eang o ddeunyddiau hollol newydd.
“Mae ein sylfaen o gwsmeriaid naturiol yn ymestyn ledled y Gwyddorau Bywyd, Offer, Awyrofod, y Sector Modurol, Gwneud Dur, Olew a Nwy, a mwy – a daw’r amrywiaeth a’r amlbwrpasedd hyn â’r potensial i greu ecosystem gyfoethog fydd yn galluogi busnesau lleol i gael gwared â llawer o rwystrau.
“Rydym hefyd yn falch iawn o fod yn datblygu gweithlu sgiliau cywrain yma yn y rhanbarth – ac rydym yn gweithio’n agos â Choleg Gwent a rhaglen Venture/Mentera Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, fel ei gilydd, i feithrin gweithlu Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen heb ei ail a ddaw â budd i Gymru ac i’r Deyrnas Unedig drwyddi draw.”
Mae’r Cynghorydd Stephen Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, wrth ei fodd o fod wedi denu’r fath fusnes arloesol, ac a gaiff y cyfryw effaith yn fyd-eang, i Lynebwy:
“Daw Apex â rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Digidol profedig i’r rhanbarth, gyda’r gallu i wella cynhyrchiant ledled llawer o wahanol sectorau, yn cynnwys ein heconomi sylfaenol.
“Mewn ardal oedd unwaith ar frig y byd o ran cynhyrchu dur, mae gan Apex y potensial i greu diwydiant hollol newydd sy’n gallu llunio’r byd rydym yn byw ynddo – gan ddod â mantais gystadleuol newydd i fusnesau Cymru; a thyfu cyfran o’r farchnad gartref a byd-eang sydd o werth uchel ac sy’n gynhenid gynaliadwy.
“Rydym wrth ein bodd bod Youssef a’i dîm wedi dewis Glynebwy fel y cartref i Apex; ac yn falch o fod wedi gweithio â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i wneud i hyn ddigwydd.”
Nododd Kellie Beirne, Prif Swyddog Gweithredol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ddimensiynau gwerthfawr niferus y buddsoddiad gan Apex:
“Rydym wrth ein bodd o fod yn gwneud buddsoddiad ecwiti yn y cwmni a all fod yn gatalydd ar gyfer cynifer o ddatblygiadau sy’n torri tir newydd mewn gweithgynhyrchu yn ei rhanbarth – gyda’r potensial i ddod yn ganolfan ragoriaeth sy’n datblygu gweithlu ac ecosystem weithgynhyrchu sydd ymysg y gorau yn y byd.
“Mae hefyd yn gam cadarnhaol enfawr i ddod â chynhyrchydd ‘twf da’ i’n Rhanbarth – drwy gwmni sy’n batrwm enghreifftiol a sefydlwyd ar brosesau gweithgynhyrchu gwyrdd sy’n lleihau gwastraff a’r defnydd o ynni, ac sy’n helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer economi cylchol.
“O ystyried y rhinweddau hynny a’r potensial hwnnw, mae Apex yn cynrychioli addasrwydd naturiol ar gyfer ein gweledigaeth ein hunain o ran ail-lunio De-ddwyrain Cymru a adeiladir ar arloesedd, cynaliadwyedd a’r uchelgais uchaf.”