Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn croesawu argymhellion ynni cynaliadwy Aber Afon Hafren

Categorïau:

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn croesawu adroddiad sy’n datgan y dylai hi fod yn bosibl harneisio ynni adnewyddadwy o Aber Afon Hafren. 

Cyhoeddodd Comisiwn Aber Afon Hafren Porth y Gorllewin eu hargymhellion terfynol heddiw.  Mae’r rhain yn nodi ei bod hi nid yn unig yn bosibl harneisio ynni adnewyddadwy o un o amrediadau llanw uchaf y byd, ond hefyd bod yna angen pendant am weithredu cyfunol i fwrw ymlaen â hyn.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Comisiwn wedi ymgysylltu â mwy na 500 o unigolion a mwy na 200 o wahanol sefydliadau i ddeall yr ystyriaethau amgylcheddol, economaidd-gymdeithasol, ariannol a pheirianyddol y byddid eu hangen i hysbysu’r cyfryw brosiect. 

Dengys yr adroddiad fod gan yr Aber botensial cryf i ddarparu ynni cynaliadwy, ac amcangyfrifir fod gan y cyfanswm pŵer o’i amrediad llanw y potensial i ddarparu hyd at 7% o gyfanswm trydan y Deyrnas Unedig er gwaethaf cynnydd mewn galw.  Yng nghyd-destun uchelgais sero net cenedlaethol a rhanbarthol, a heriau cynyddol o ran diogeledd ynni, mae hwn yn gyfle am dwf gwyrdd, am arloesi, ac am gydnerthedd ynni dros y cyfnod hir. 

Mae Cynllun Economaidd a Rhanbarthol Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cydnabod yr angen am gyfleusterau cynhyrchu ynni sero net yn y rhanbarth i roi mwy o ddiogeledd ynni.  Mae hyn yn cynnwys caffael a datblygu’r hen orsaf bŵer oedd yn rhedeg ar lo yn Aberddawan ar arfordir De Cymru fel cyrchfan carbon isel, gyda chynlluniau i fod yn flaenllaw o ran datblygu tyrbinau amrediad llanw. 

Dywedodd Cadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: 

“Fel Rhanbarth, rydym wrth ein bodd o weld yr adroddiad yn cael ei lansio gyda chyfres o argymhellion pendant, yn bennaf ei bod hi’n ddichonadwy harneisio ynni adnewyddadwy naturiol un o amrediadau llanw mwyaf y byd.  Er bod yna lawer eto i’w wneud, mae hon yn garreg filltir bwysig.  Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid ledled Porth y Gorllewin, ynghyd â Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, i gymell y prosiect ymlaen.” 

Ewch i www.severncommission.co.uk am fwy o wybodaeth. 

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi lansio ei Strategaeth Lles Plant gyntaf heddiw, gan nodi ymrwymiad hirdymor i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled de-ddwyrain Cymru drwy fynd i'r afael â'r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy'n llunio eu bywydau.

Subscribe for updates

Skip to content