Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn croesawu cynlluniau ar gyfer gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog

Categorïau:

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn falch o gynorthwyo’r cynlluniau trawsnewidiol ar gyfer gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gyda buddsoddiad arfaethedig o hyd at £140 miliwn i ddyrchafu canolfan drafnidiaeth brysuraf Cymru.    

Mae’r cyflwyniad cynllunio sydd ar ddod yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn y gorchwyl i greu porth trafnidiaeth modern, hygyrch ac effeithlon fydd yn cysylltu’r rhanbarth yn well ac yn cynorthwyo twf economaidd y dyfodol. 

Bydd y cynllun, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru (TfW), yn gweld gwaith ailddatblygu mawr ar orsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gan sicrhau y gall fodloni’r galw cynyddol o ran teithwyr tra ei fod hefyd yn diogelu’i chymeriad hanesyddol.    

Mae’r gwelliannau a gynlluniwyd yn cynnwys cyntedd mwy, llidiart tro ychwanegol i leddfu tagfeydd, a gwell nodweddion hygyrchedd i ddarparu ar gyfer yr holl deithwyr, yn cynnwys y rheiny sydd â llai o symudedd.  

Mae rhagor o fuddion yn cynnwys mannau aros wedi’u huwchraddio, gwell mannau adwerthu, a chyfleusterau storio beiciau ehangedig, gan atgyfnerthu ymrwymiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatrysiadau trafnidiaeth cynaliadwy. 

Fel buddsoddwr allweddol yn y prosiect hwn, mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cydnabod pwysigrwydd gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog wedi’i moderneiddio i gynorthwyo datblygiad economaidd, i wella cysylltedd ac i annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus. 

Mae’r orsaf yn gwasanaethu fel y porth i rwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd, sydd ar hyn o bryd yn profi trawsnewidiad helaeth fel rhan o Fetro De Cymru, sef elfen hanfodol o weledigaeth drafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y cyfnod hir. 

Bydd Yr Adran Drafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, a Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda’i gilydd yn darparu hyd at £140 miliwn ar gyfer y gwelliannau, gan atgyfnerthu’r ymrwymiad i gyflawni seilwaith trafnidiaeth o safon orau’r byd yn Ne Cymru.  

Mae’r newidiadau arfaethedig yn gyson â gweledigaeth ehangach Metro Canolog, menter strategol sydd â’r nod o greu canolfan drafnidiaeth integredig yng nghanol Caerdydd. 

Yn dibynnu ar gymeradwyaeth gynllunio a chadarnhad o’r achos busnes llawn, disgwylir y bydd gwaith galluogi yn dechrau ddiwedd 2025.  

Rhagwelir penderfyniad terfynol ar yr achos busnes llawn yn hydref 2025, gyda’r gwelliannau i fod â rôl allweddol mewn cyflawni rhwydwaith trafnidiaeth mwy hygyrch, sydd wedi’i gysylltu’n well, ac sy’n gynaliadwy ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi lansio ei Strategaeth Lles Plant gyntaf heddiw, gan nodi ymrwymiad hirdymor i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled de-ddwyrain Cymru drwy fynd i'r afael â'r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy'n llunio eu bywydau.

Subscribe for updates

Skip to content