Mae Prifddinas-ranbarth Caerdydd Yn Croesawu Penderfyniad Prif Weinidog Cymru Ar Brosiect Parcffordd Caerdydd

Categorïau:

CROESAWODD Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) benderfyniad Prif Weinidog Cymru i gymeradwyo cynllunio ar gyfer prosiect newydd Parcffordd Caerdydd, gan ddweud y gall yr orsaf drenau a’r parc busnes integredig arfaethedig fod yn drawsnewidiol i Dde Cymru. 

Dywed Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fod y datblygiad yn cynnig cyfle unigryw i ddarpar gwmnïau sy’n ystyried buddsoddi yn y Deyrnas Unedig, gyda’i leoliad strategol, canolog ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a’i gysylltiadau â gweddill y Deyrnas Unedig.    

Gan gael ei wasanaethu gan orsaf reilffordd newydd, bydd gan y datblygiad yn Llaneirwg gysylltiadau uniongyrchol â chanol dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â gwasanaethau trenau prif linell i Fryste, Llundain a’r tu hwnt.   

Dywed Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y gall y prosiect ddod yn gatalydd ar gyfer twf, gan gyfrannu tuag at adfywiad Dwyrain Caerdydd a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ehangach trwy ddenu buddsoddiad a busnes mewn amgylchedd naturiol. 

Bydd prosiect Parcffordd Caerdydd yn ddichonol yn elfen allweddol o Barth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Mae’r Parth Buddsoddi’n fenter a ariannir ar y cyd gan Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, gyda’r bwriad o greu twf potensial uchel, â dwyster gwybodaeth, sy’n ysgogi twf sectorau allweddol y dyfodol, gyda phecyn cyllido gwerth £160 miliwn dros ddeng mlynedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a Dirprwy Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru (SEWCJC): 

“Bydd Parcffordd Caerdydd yn gwella’n seilwaith trafnidiaeth yn sylweddol, gan arwain at dwf economaidd a chreu swyddi ledled Caerdydd a’r rhanbarth ehangach.  

“Gydag amseroedd teithio rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn cael eu gostwng i ddim ond saith munud, gall mwy nag 800,000 o deithwyr y flwyddyn elwa, unwaith y bydd y gwasanaeth hwn ar ei draed.  

“Bydd y prosiect hwn yn helpu i oresgyn tagfeydd traffig o ddwyrain Caerdydd, ac fel rhan o barth buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, daw â buddion ychwanegol megis cymhelliannau treth a chymorth uniongyrchol ar gyfer arloesi i ddenu busnesau a buddsoddwyr.” 

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Heddiw, cyhoeddodd Partneriaeth Gyfyngedig Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd fuddsoddiad yn Coaches’ Voice, y platfform addysg a hyfforddi pêl-droed digidol sy'n tyfu'n gyflym.

Subscribe for updates

Skip to content