Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cwblhau pryniant ar gyfer trawsnewidiad gwyrdd Gorsaf Bŵer Aberddawan

Categorïau:
Datganiad i'r Wasg – Arall

Cymerodd y weledigaeth ar gyfer parc ynni gwyrdd sydd oddeutu 489 erw ym Mro Morgannwg gam sylweddol ymlaen – drwy fod Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi cwblhau pryniant gorsaf bŵer Aberddawan sy’n rhedeg ar lo a oedd unwaith yn symboleiddio cynhyrchu ynni tanwydd ffosil yng Nghymru.

Mae cwblhau pryniant y safle hwn yn golygu y doir â chwalu ac adfer yr orsaf bŵer a ddatgomisiynwyd yn nes – gan agor y drws i nifer eang o gyfleoedd i sefydlu canolfan ragoriaeth ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd sydd â’r gallu i sbarduno twf economaidd glân, cynaliadwy ledled De-ddwyrain Cymru a’r tu hwnt.

Cymeradwyodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, daith fydd yn gwneud yr economi lleol yn anfesuradwy fwy cynaliadwy a chadarn:

“Mae’n hynod galonogol gweld y fath gam pwysig yn cael ei gymryd yn ein taith yn Aberddawan.  Gweithiodd tîm Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn fedrus ag RWE ers cyfnewid contractau’n gychwynnol i sicrhau bod yr holl drwyddedau ar waith fel y gallwn, ar ôl cwblhau’r pryniant, wneud cynnydd i’r cam chwalu ac adfer y safle sy’n gartref i gynifer o gyfleoedd.

“Ar ôl wythnos a welodd Lywodraeth Cymru yn cyhoeddi’i strategaeth arloesi newydd ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach, gan dderbyn ymagwedd gydweithredol yn seiliedig ar genhadaeth, mae’n dda gweld ein buddsoddiad fel sbardunwr Cymru newydd sy’n gallu pweru’n dyfodol, yn gynaliadwy.”

Croesawodd yn gynnes y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod o Gabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, lofnodi’r contract prynu:

“Dengys y weledigaeth ar gyfer parc ynni gwyrdd yn Aberddawan y potensial i Fro Morgannwg ddod yn gartref i glwstwr gweithgynhyrchu di-garbon a chyfleusterau cynhyrchu hydrogen gwyrdd, yn ogystal ag yn ganolfan ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy a chyfleuster storio, yn gatalydd ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol a chyfleusterau giga-waith – ac yn ganolfan swyddi gwyrdd sy’n creu ystod eang o rolau.  Mae’n mynd i newid y sefyllfa wyrdd yn llwyr ar gyfer ein hardal, y rhanbarth cyfan – a Chymru drwyddi draw.”

Nododd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bwysigrwydd y garreg filltir ddiweddaraf hon i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer holl gymunedau ac economïau’r Rhanbarth:

“Mae buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Aberddawan yn cynrychioli mwy nag ailddatblygiad safle strategol ar gyfer ynni gwyrdd.  Mae ganddo’r potensial i fod yn embryo ar gyfer ecosystem sydd â’r gallu i bweru cymunedau, meithrin cadwyni cyflenwi, creu swyddi cynaliadwy, magu cadernid i’n heconomïau masnachol a sylfaenol, fel ei gilydd – a dod yn gatalydd allweddol i symud ymlaen tuag at yr economi cylchol.

“O’r herwydd, mae prynu Aberddawan yn tynnu ynghyd yr holl elfennau sydd eu hangen i lunio Rhanbarth uchelgeisiol a chystadleuol, gan roi hwb i’r sectorau sy’n perfformio’n dda ac i’r llewyrch cynhwysol sydd wrth graidd ein Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol sydd wedi esblygu’n ddiweddar.”

Rhoddodd Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y buddsoddiad gwerth dros £38 miliwn yn Aberddawan yn ei gyd-destun ehangach:

“Daw’r garreg filltir arwyddocaol hon â lefel newydd o weithgaredd i ddatblygiad yn Aberddawan fydd yn newid wyneb De-ddwyrain Cymru, gan fynd â ni gam arall tuag at y rhanbarth cysylltiedig, cystadleuol a chadarn a hyrwyddir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

“Mae a wnelo’n buddsoddiad yn y pen draw â phobl yn ogystal â’r economi – gyda’r datblygiad yn dod yn ganolbwynt ar gyfer arloesi mewn ynni gwyrdd, twf, rhannu gwybodaeth a rhyngweithio â’r gymuned, yn cynnwys sylfaen i warchodfa ecoleg fioamrywiol, sy’n agored i bobl o bob cwr o’n rhanbarth a’r tu hwnt.  Gyda’r pryniant bellach yn gyflawn, edrychwn ymlaen at droi’r posibiliadau hyn yn reality y gall pawb elwa ohonynt.”

Bwriodd Tom Glover, Cadeirydd Gwlad y DU, RWE, y sylw:

“Rydym yn anhygoel o falch o fod wedi cwblhau’r gwerthiant gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) – gweithiodd y timau’n galed i gyrraedd y cam hwn.  Mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd weledigaeth i’r dyfodol o drawsnewidiad diwydiannol gwyrdd yn y safle, sydd i raddau pell iawn yn adlewyrchu trawsnewidiad RWE i fod yn gynhyrchydd adnewyddadwy mwyaf Cymru a’n huchelgais ar gyfer fflyd sy’n cynhyrchu sero net.  Mae arnom eisiau dymuno pob llwyddiant i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y prosiect arloesol hwn.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

- Mae IIC yn gwneud buddsoddiad cyntaf yn AMPLYFI, y busnes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a leolir yng Nghaerdydd - Disgwylir rhagor o fuddsoddiadau yn y misoedd i ddod.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.