Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dadlennu Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol 2023-2028, i greu De-ddwyrain Cymru sy’n fwy Cystadleuol, Cysylltiedig a Chadarn

Categorïau:
Datganiad i'r Wasg – Arall

Dadlennodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ei Chynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol (REIP) ar gyfer 2023-2028, gan adeiladu ar y cynllun agoriadol sydd eisoes wedi gweld Bargen Ddinesig gwerth £1.23 biliwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyflenwi buddsoddiad sylweddol ac yn cyflawni cerrig milltir arwyddocaol mewn ymyriadau – yn cynnwys cwblhau’n llwyddiannus Adolygiad Porth cyntaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig – yn ei hesblygiad tuag at gwblhau cylch gwaith economaidd a chymdeithasol ehangach ar gyfer De-ddwyrain Caerdydd.

Mae’r Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol newydd yn mapio cynlluniau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i feithrin economi mwy, tecach a gwyrddach – gan gynhyrchu twf da a chreu cyflyrau ar gyfer ffyniant cyffredin, gan wireddu’r cyfleoedd a’r deilliannau gorau posibl i bob cymuned ledled y deg awdurdod lleol sy’n ffurfio’r Rhanbarth.

Mae’r Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol yn cynrychioli llusern dywys ynglŷn â sut mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn anelu at greu Rhanbarth sy’n:

Mwy Cystadleuol – Galluogi busnesau yn ein sectorau blaenoriaethol a’r gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni lefelau uwch o gynhyrchiant drwy dwf dan arweiniad arloesi.

Mwy Cysylltiedig – Buddsoddi mewn seilwaith digidol a ffisegol arloesol a thyfu’n heconomi gwyrdd i gynorthwyo gyda datgarboneiddio De-ddwyrain Cymru erbyn 2050.

Cadarnach – Manteisio hyd yr eithaf ar ‘dwf da’ drwy gymryd camau uniongyrchol i leihau anghydraddoldeb, gan sicrhau y caiff llewyrch ei rannu a’i ledaenu ledled ein rhanbarth.

Amlinellodd Frank Holmes, Cadeirydd Partneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sut mae ymagwedd micro-economaidd ‘o’r gwaelod i fyny’ yn canolbwyntio ar gyflenwi canlyniadau pellgyrhaeddol:

“Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynrychioli oddeutu hanner poblogaeth, busnesau ac economi Cymru – ac felly mae’n galonogol bod ein gwaith hyd yn hyn wedi gweld prosiectau’n cael eu cymeradwyo sy’n werth £320 miliwn, y mae 50% ohono mewn prosiectau a dargedwyd a chronfeydd a reolir fydd yn cynhyrchu adenillion ar gyfer ail-fuddsoddi yn y dyfodol.  Mewn llawer o ffyrdd, mae’r iteriad diweddaraf hwn o’r Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol yn creu ymateb hynod gadarnhaol i’r heriau a’r cyfleoedd unigryw sydd wedi codi ers iddo gael ei gyhoeddi gyntaf yn 2019.  Mae’n gyfredol ar gyfer pob cymuned a sector busnes yn Ne-ddwyrain Cymru – ac fel mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn esblygu o Fargen Ddinesig i Ddinas-Ranbarth, gydag endidau Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cael pwerau llunio polisi llawer ehangach, mae gan y pum mlynedd nesaf y potensial i greu twf cynaliadwy sydd hyd yn oed yn fwy ac a gaiff fwy o effaith.”

Nododd y Cynghorydd Anthony Hunt, Cadeirydd Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sut mae’r Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol yn sbardunwr allweddol i wneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn fan lle y gall pawb gysylltu â chyfleoedd gwaith a bywyd:

“Yn ei graidd, mae a wnelo’r Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol â gwneud ein rhanbarth yn fwy cystadleuol, yn fwy cysylltiedig ac yn gadarnach.  Ein gwaith ni dros y pum mlynedd nesaf yw grymuso busnesau yn ein sectorau blaenoriaethol a helpu gwasanaethau cyhoeddus i fod y gorau y gallant fod – drwy fentrau dan arweiniad arloesi a phrosiectau seilwaith arloesol.  Ym mhopeth a wnawn, mae’n rhaid inni gael yr hyder i wneud y gorau o’r twf cynaliadwy a da a ddaw â ffyniant cyffredin ledled y rhanbarth.  Y cynllun wedi’i ddiweddaru hwn yw’n llusern dywys – sy’n manylu’r camau yn dryloyw y mae arnom angen eu llwyr gofleidio fel rhanbarth er mwyn cyflawni’r deilliannau hynny.”

Eglurodd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sut y bydd y cynllun yn galluogi’r Rhanbarth i lywio drwy amseroedd eithriadol drwy ganolbwyntio ar uchelgais cyfnod hir:

“Mae’r Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol newydd yn amlinellu’n hymagwedd tuag at ddod yn Rhanbarth balch, cysylltiedig a chadarn, gan atgyfnerthu’n hymrwymiad a’n ffocws cyfnod hir ar  ‘ffyniant bro’ – ac, yn hanfodol, godi’n huchelgeisiau i lefel newydd.  Cyhoeddir y Cynllun yng nghyd-destun chwyddiant sydd ar ei uchaf ers 40 mlynedd, prisiau ynni nas gwelwyd o’r blaen, bygythiadau pendant i’n sicrwydd bwyd a seiber, a nifer o dyndrau geowleidyddol yn Ewrop ac ymhellach i ffwrdd – cefndir sy’n gwneud cyflawni nodau ac amcanion Cynllun Economaidd a Diwydiannol Rhanbarthol hyd yn oed yn bwysicach ac yn fwy perthnasol i fywydau pawb yn ein Rhanbarth.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Yng Nghaerdydd heddiw lansiwyd yn ffurfiol Hyb Arloesedd Seiber (CIH) sy'n ceisio trawsnewid De Cymru i fod yn glwstwr blaenllaw.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.