Mae’r ymgynghoriad ynglŷn â’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTP) drafft yn agored tan y 19eg o Fai, ac mae ganddo’r nod o ddatgloi cyfleoedd, cysylltu pobl a busnesau, a chynorthwyo i greu swyddi yn y Rhanbarth.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), y corff rhanbarthol a ffurfiwyd o’r deg Awdurdod Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru, yn ymgynghori â’r rhanddeiliaid cyhoeddus ac ehangach ynglŷn â’i Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTP) drafft. O Sir Fynwy i Ben-y-bont ar Ogwr, ac o’r Cymoedd i’r arfordir, gwahoddir preswylwyr ac ymwelwyr ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i adolygu’r Cynllun, a’i weledigaeth, ei amcanion a’i bolisïau.
Nod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw adeiladu Rhanbarth Cystadleuol, Cysylltiedig a Chadarn: y weledigaeth ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yw sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithlon, fforddiadwy a charbon isel sy’n gwella ansawdd bywyd, sy’n meithrin ffyniant cyffredin, ac sy’n cefnogi Rhanbarth carbon niwtral lle’r ffefrir cerdded a beicio ar gyfer teithiau byrrach, ac mae’n cynnwys datgarboneiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth.
Yn awr, gwahoddir y cyhoedd i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad trwy fynd i: https://regionaltransportplanccr.wales/feedback/. Bydd atebion gan y cyhoedd yn helpu i lunio dyfodol trafnidiaeth yn y Rhanbarth.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn i breswylwyr, busnesau a rhanddeiliaid rannu’u barn trwy arolwg ar-lein, gweminar a chyfres o ddigwyddiadau ‘naid’ ledled y Rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, OBE, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
“Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eisoes wedi buddsoddi miliynau o bunnau mewn gwelliannau i’r Metro ac mae wedi arwain y ffordd gyda thrafnidiaeth allyriadau isel.
“Ond mae a wnelo trafnidiaeth â mwy na dim ond mynd o A i B, mae’n ymwneud â datgloi cyfleoedd, cysylltu busnesau, creu swyddi a gwneud ein cymunedau’n gryfach ac yn decach.
“Bydd ein Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ein helpu i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth gwyrddach, doethach a mwy cynhwysol sy’n cynorthwyo twf economaidd ac sy’n mynd i’r afael â her hinsawdd. Mae arnom angen clywed gan y rheiny sy’n defnyddio, neu sydd eisiau defnyddio, trafnidiaeth ranbarthol, ac felly anogwn bobl i ymuno â’r sgwrs”.
