Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn dechrau datgloi cyfleoedd gyda rhanddeiliaid ar gyfer Cronfa Partneriaethau Arloesi Lleol gwerth £30 miliwn.

Categorïau:

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) wedi dechrau ar y broses ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol ynglŷn â’u Cronfa Partneriaethau Arloesi Lleol (LIPF) newydd a ddyfarnwyd gan sefydliad Ymchwil ac Arloesi y Deyrnas Unedig (UKRI).  Mae’r Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol yn rhaglen gwerth £500 miliwn trwy’r Deyrnas Unedig i gyd a gynlluniwyd i rymuso partneriaethau ‘helics triphlyg’ lleol sy’n cynnwys y sector cyhoeddus, busnesau, a phrifysgolion i ddatblygu ac uwchraddio clystyrau arloesi sydd â photensial uchel.

Dewiswyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel partner cyflawni ar gyfer y Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol, a esgorodd ar gronfa newydd o fan leiaf £30 miliwn gan UKRI (gyda photensial am fuddsoddiad preifat o £90 miliwn yn rhagor).  Mae hyn yn targedu twf economaidd dan arweiniad arloesi yn y rhanbarth.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd newydd gwblhau tri sesiwn ymgysylltu cychwynnol yng Nghaerdydd, Glynebwy a Chasnewydd o dan Maes a Glustnodwyd y rhaglen, yn canolbwyntio ar fagu ymwybyddiaeth, meithrin cydweithrediadau, a thywys rhanddeiliaid trwy’r prosesau gwirio parodrwydd ac ymgeisio.  Pwysleisiodd y digwyddiadau bod y Gronfa o dan arweiniad UKRI ac yn canolbwyntio ar drosi rhagoriaeth ymchwil i fod yn gymwysiadau masnachol, sy’n ysgogi twf economaidd, creu swyddi, a buddsoddiad yn Ne-ddwyrain Cymru.

Dywedodd Owen Wilce, Uwch-reolwr Arloesi, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Dangosodd tri digwyddiad y Gronfa Partneriaethau Arloesi Lleol yng Nghaerdydd, Glynebwy a Chasnewydd yn union faint o egni ac uchelgais sy’n bodoli ledled ein rhanbarth.  Gyda mwy na 200 o gyfranogwyr o awdurdodau lleol, diwydiant, y byd academaidd a’n cymunedau, mae lefel yr ymgysylltu wedi bod yn eithriadol.  Mae’r mewnwelediadau, yr heriau a’r cyfleoedd a rannwyd yn ystod y sesiynau hyn yn llunio’n uniongyrchol ddyluniad y Gronfa yn y dyfodol, gan sicrhau ei bod hi’n gwirioneddol adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Rydym yn llawn cyffro ynglŷn ag adeiladu ar y momentwm hwn wrth inni symud i gam nesaf arloesi cydweithredol.”

I gofrestru’ch diddordeb mewn trafodaethau, a fyddech cystal ag anfon e-bost atom yn: innovation@cardiffcapitalregion.gov.uk

Gellir canfod y cyflwyniad yma:

CCR has been chosen as a delivery partner for the LIPF, which has resulted in a new fund of at least £30m from UKRI (with potential for a further £90m private investment).  This targets innovation-led economic growth in the region.

CCR has just completed three initial engagement sessions in Cardiff, Ebbw Vale and Newport under the programme’s Earmarked Strand, focusing on building awareness, fostering collaborations, and guiding stakeholders through the readiness check and application processes. The events emphasised that the Fund is led by UKRI and focused on converting research excellence into commercial applications, driving economic growth, job creation, and investment in South-East Wales.

Owen Wilce, Senior Innovation Manager, Cardiff Capital Region said: “The three Local Innovation Partnerships Fund events in Cardiff, Ebbw Vale and Newport have shown just how much energy and ambition exists across our region. With more than 200 participants from local authorities, industry, academia and our communities, the level of engagement has been exceptional. The insights, challenges and opportunities shared during these sessions are directly shaping the future design of the Fund, ensuring it truly reflects the needs and priorities of the Cardiff Capital Region. We’re excited to build on this momentum as we move into the next phase of collaborative innovation.”

To register your interest in discussions please email us at: innovation@cardiffcapitalregion.gov.uk

The presentation can be found here:Local Innovation Partnerships Fund – Cardiff Capital Region

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi lansio ei Strategaeth Lles Plant gyntaf heddiw, gan nodi ymrwymiad hirdymor i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled de-ddwyrain Cymru drwy fynd i'r afael â'r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy'n llunio eu bywydau.

Subscribe for updates

Skip to content