Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn mynychu UKREiiF yn Leeds o 20-22 Mai i arddangos De-ddwyrain Cymru fel un o’r rhanbarthau mwyaf deniadol ar gyfer twf cynaliadwy.
Mae UKREiiF, Fforwm Buddsoddi a Seilwaith Eiddo Tirol y DU, yn gynhadledd tri diwrnod sy’n anelu at gysylltu pobl, lleoedd a busnesau i sbarduno buddsoddiad ac adfywio trawsnewidiol.
Bydd CCR yn ymuno ag Awdurdod Cyfunol Maerol Gorllewin Lloegr fel cydnoddwyr yr arddangoswr Porth Gorllewinol, y bartneriaeth drawsranbarthol ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr.
Ewch i CCR ym Mhafiliwn 16 ym Mharth y Pafiliwn ar gyfer cyfarfodydd, rhwydweithio a chyflwyniadau drwy gydol y gynhadledd.

Diwrnod 1 - Dydd Mawrth 20 Mai
09:00 – 10:00: Cyflawni twf cynaliadwy yn ardal â photensial uchaf y DU – Brecwast gyda’r Porth Gorllewinol
Gan ragweld y bydd gan ardal De Cymru a Gorllewin Lloegr y twf economaidd cyflymaf y tu allan i Lundain dros y pum mlynedd nesaf, mae’n dod yn gyflym y lle gorau i wneud busnes yn y DU. Gyda newidiadau mawr ar y gorwel trwy agenda ddatganoli’r llywodraeth ac yng Nghymru, dysgwch beth mae hyn yn ei olygu i fuddsoddi a datblygu seilwaith yn yr ardal greadigol, amrywiol hon sy’n meddwl ymlaen.Â
Siaradwyr: Â
- Sophie Cambourne, ArupÂ
- Stephen Peacock, Prif Weithredwr Awdurdod Cyfun Gorllewin LloegrÂ
- Ben Watts, Rheolwr Economi a Chynllunio Gofodol yng Nghngor Sir Gaerloyw Â
- Y Cynghorydd Dimitri Batrouni, Arweinydd Cyngor Casnewydd Â
11:45 – 12:30: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: rhanbarth blaenllaw yn y DU ar gyfer cyflawni buddsoddiad cynaliadwy  Â
Mae calon economaidd Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), yn cynrychioli 50% o economi Cymru ac yn cyfrannu £38-40bn i economi’r DU. Deall sut mae pwerau statudol datganoledig y rhanbarth dros gynllunio gofodol a thrafnidiaeth yn datgloi twf trwy Gledrau Croesi Caerdydd, y Metro, a Thrafnidiaeth Ranbarthol. Fframweithiau buddsoddi newydd ar gyfer prosiectau ESG pwysig, gan gynnwys parc carbon isel 500 erw Aberddawan a’r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf yn y byd yng Nghasnewydd.Â
Siaradwyr:Â
- Clare Wildfire, Mott MacDonald
- Y Cynghorydd Dimitri Batrouni, Arweinydd Cyngor Casnewydd Â
- Ken Poole MBE, Pennaeth Datblygu Economaidd, Cyngor CaerdyddÂ
Diwrnod 2 - Dydd Mercher 21 Mai 2025
13:15 – 14:15: Ysgogi twf drwy gydfuddsoddi gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Yn y sesiwn banel Cwestiynau ac Atebion hon deall sut y gellir cael mynediad at bwerau datganoledig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mynediad gwleidyddol a’i chronfeydd buddsoddi ei hun, gan gynnwys y Gronfa Safleoedd Strategol gwerth £50m, Menter y Cymoedd Gogleddol gwerth £50m a Chyfalaf Buddsoddi Arloesi gwerth £50m i gefnogi arloesi, tai, twf busnes ac adfywio yn y rhanbarth. Clywch fwy am hanes profedig CCR o gyflawni cynlluniau parod i’w defnyddio gyda buddsoddwyr preifat a sefydliadol fel y Sgwâr Canolog a ariennir gan L&G.
SIaradwyr:Â
- Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngot Sir Fynwy, a Chadeirydd, Prifddinas-Ranbarth CaerdyddÂ
- Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a Dirprwy Gadeirydd, Prifddinas-Ranbarth CaeryddÂ
- George Richards, Cyfarwyddwr CBRE Â
14:45 – 15:45: Rôl Cerbydau Buddsoddi Ar y Cyd mewn cyflawni Cynlluniau Twf Lleol
Trafodaeth banel ar weithredu Cerbydau Buddsoddi Ar y Cyd yn ymarferol i ysgogi cyfalaf preifat i gynorthwyo cyflawni Cynlluniau Twf Lleol ar draws amrediad o ddosbarthiadau asedau:  gan gynnwys Eiddo, trafnidiaeth, adfywio, datgarboneiddio diwydiannol a sero net.
Cadeirydd y Panel: Justin OlosundeÂ
Aelodau’r panel Â
- Joanne Patrick, Pennaeth Ynni Cynaliadwy, Seilwaith Amber Â
- Ed Rowberry Prif Swyddog Gweithredol, BBRCÂ Â
- Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngot Sir Fynwy, a Chadeirydd, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
- George Richards, Uwch Gyfarwyddwr, CBREÂ
16:30 – 18:00 Derbyniad Noswaith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn trawsnewid yr economi, y dirwedd fusnes a’r potensial ar gyfer ffyniant cynhwysol ar draws De-ddwyrain Cymru, ardal fwyaf poblog Cymru. Wedi’i gychwyn fel partneriaeth o 10 awdurdod lleol â chyfrifoldebau newydd ychwanegol dros drafnidiaeth ranbarthol a chynllunio strategol, dewch i gwrdd â’r Arweinwyr y tu ôl i’r tîm grŵp hwn sy’n edrych i ddatgloi twf ar gyfer yr ardal amrywiol hon.
Diwrnod 3 - Dydd Iau 22 Mai
09:00 – 10:30: Harneisio ynni llanw’r DU – Y camau nesaf ar gyfer Aber HafrenÂ
Fel cenedl ynys, mae’r DU mewn sefyllfa unigryw i fanteisio ar bŵer y cefnforoedd i greu ynni dibynadwy, glân a chost isel.Mae gan Aber Hafren un o’r amrediadau llanw uchaf yn y byd.Yn dilyn canlyniadau comisiwn annibynnol, darganfyddwch beth sydd nesaf ar gyfer yr adnodd hanfodol bwysig hwn.Â
SiaradwyrÂ
- Stephen Bashford neu Roger Hoare, Awdurdod Cyfun Gorllewin LloegrÂ
- Richard McGuckin, Dirprwy Brif Weithredwr Awdurdod Cyfun Rhanbarth Dinas LerpwlÂ
- Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a Dirprwy Gadeirydd Prifddinas-Ranbarth CaerdyddÂ