Daeth prosiect adfywio uchelgeisiol sy’n mynd i drawsnewid hen stad ddiwydiannol Heol Ewenni ym Maesteg gyda chartrefi, siopau a chyfleusterau cymunedol newydd gam yn nes.

Darparodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyllid grant gwerth £3.5 miliwn o’i Chronfa Bwlch Hyfywedd Tai i helpu i ddatgloi’r safle ar gyfer ei ddatblygu. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrthi yn y gwaith o gael gwared â hen seilwaith diwydiannol neu seilwaith diwydiannol afraid o’r safle diffaith 16 erw fel y gellir dechrau adeiladu tai newydd.
Cyfnewidiwyd contractau rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Avant Homes ar gyfer prynu tir yn y safle diffaith a ddefnyddir i adeiladu hyd at 200 o dai newydd ar ran cymdeithas dai a leolir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef Valleys To Coast.
Gyda chymorth gan y cwmni cyfraith Hugh James, y cynllun £41.8 miliwn fydd y datblygiad mwyaf a ymgymerwyd gan y gymdeithas dai hyd yn hyn, a’i nod yw darparu cymysgedd o eiddo perchnogaeth cartref cost isel, cartrefi gwerthiant ar y farchnad agored, a chartrefi rhentu a rhentu cymdeithasol fforddiadwy.
Gyda’r disgwyliad y bydd y gwaith ar y safle cyfredol wedi’i orffen erbyn diwedd 2025 a chyda caniatâd cynllunio eisoes yn bodoli, bydd Avant yn dechrau adeiladu’r cartrefi newydd ar ran Valleys To Coast ar ddechrau 2026, gan gwblhau popeth erbyn 2030.
I’w helpu i weithredu fel cymuned newydd, bydd y Cyngor yn cyflwyno cyfleoedd adwerthu yn y safle, ynghyd â gwaith tirlunio newydd, cysylltiadau trafnidiaeth a digonedd o le agored. Fel rhan o’i ymrwymiadau gwerth cymdeithasol, addawodd Valleys to Coast hefyd £20,000 i gynorthwyo prosiectau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai: “Bu’r prosiect uchelgeisiol hwn ar y gweill ers 10 mlynedd, mae’n ffurfio rhan allweddol o’n Cynllun Datblygu Lleol, ac mae wedi’i gynllunio’n ofalus i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y gymuned leol.
“Mae’n cynrychioli buddsoddiad gwerth miliynau lawer o bunnau yng Nghwm Llynfi fydd, unwaith y bydd y gwaith ar y ddaear wedi’i gwblhau a’r gwaith adeiladu wedi’i ddechrau, yn trawsnewid yn gyfan gwbl ein safle tir llwyd mwyaf yn y cymoedd.
“Bydd y datblygiad ar ôl ei gwblhau yn darparu buddion economaidd a chymdeithasol enfawr i Gwm Llynfi ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae arnaf eisiau diolch i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, Clowes Developments, Avant Homes, Valleys To Coast a Hugh James am eu hymdrechion yn ôl eu trefn wrth gydweithio i wneud hyn yn realiti.”
Dywedodd Prif Weithredwr Valleys To Coast, Jo Oak: “Mae hon yn adeg nodedig i Valleys to Coast ac i Faesteg. Nid yn unig yw Heol Ewenni ein datblygiad mwyaf hyd yn hyn, maehefyd yn gam beiddgar i helpu teuluoedd, cyplau ac unigolion sydd angen cartref fwyaf i ymwreiddio yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
“Mae’n rhan o’n hymrwymiad parhaus i fynd i’r afael â’r anghenion tai yn ein cymunedau, gan greu cartrefi fforddiadwy, o ansawdd uchel sy’n rhoi’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd i bobl y maent yn eu haeddu.”
Bwriodd Mike Brough, Cyfarwyddwr Twf Rhanbarthol dros Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, y sylw: “Rydym wrth ein bodd o weld hen safle Revlon yn cael ei ddatgloi, ei adfer a’i ailddatblygu i fod yn gartrefi fforddiadwy gwir eu hangen ac yn ganolfan gymunedol.
“Trwy’r gronfa bwlch hyfywedd tai, rydym wedi gallu buddsoddi ym mhen gogleddol Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n hanfodol i annog busnesau i sefydlu, i dyfu ac i bobl leol deimlo bod eu hardal leol yn rhywle i ffynnu. Bydd hi’n wych gweld sut y bydd y datblygiad yn datblygu yn y misoedd i ddod.”
Ychwanegodd Marc Freeman, Cyfarwyddwr Datblygu yn Clowes: “Mae Clowes Developments yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect adfywio trawsnewidiol hwn. Mae ailddatblygu hen stad ddiwydiannol Heol Ewenni yn gam sylweddol iawn i Faesteg, gan ddatgloi potensial safle a fu’n ddiffaith am gyfnod maith i ddarparu cartrefi newydd gwir eu hangen, ochr yn ochr â chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer buddsoddi, adwerthu, a defnydd cymdeithasol.