Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn helpu i ariannu’r genhedlaeth nesaf o bobl broffesiynol ym maes lletygarwch yng Nghasnewydd

Categorïau:

Mae Tŷ Gwesty Casnewydd, a agorodd yn 2024, yn defnyddio rhan o’i gyllid gwerth £9.7 miliwn oddi wrth Gronfa Adeiladau Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ariannu hyfforddiant ymarferol ar y safle i fyfyrwyr lletygarwch, wrth iddi baratoi’r genhedlaeth nesaf ar gyfer gyrfaoedd yn y sector.  

Cydweithredodd y Celtic Collection, sy’n rheoli’r gwesty, â Phrifysgol De Cymru i greu rhaglen leoli â thâl naw mis sy’n darparu profiad ymarferol i fyfyrwyr wrth iddynt gwblhau elfennau hyfforddiant ymarferol eu lletygarwch a chyrsiau rheoli busnesau.  

Dechreuodd y ddau ymgeisydd llwyddiannus, Deepu Chandran a Dilakshan Classen, ar eu lleoliad yng Ngwesty Coldra Court cyn symud draw i Tŷ Gwesty Casnewydd ar gyfer lansiad y gwesty a’r cyfnod prysur a ddilyna’r agoriad. 

Agorodd y gwesty 146 gwely ar yr 2ail o Fehefin, ar ôl buddsoddiad gwerth £9.7 miliwn gan Gronfa Adeiladau Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ariannu’r cwblhau.  

Canolbwyntiodd y buddsoddiad yn neilltuol ar wella’r allbynnau amgylcheddol yn y gwesty, gyda’r holl swyddogaethau a bwerir gan nwy yn cael eu newid o blaid system ‘trydan cyfan’ sy’n defnyddio pympiau gwres a phaneli ffotofoltaidd ar y to.   

Mae’r gwesty mewn sefyllfa dda i gynorthwyo’r lefel gynyddol o weithgareddau yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICCW), ac roedd ei hagoriad yn cyd-daro â chynhadledd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.  

Darparodd profiad Deepu a Dilakshan gyfleoedd i’r ddau weithio mewn cynadleddau a digwyddiadau, bwyd a diodydd a swyddfa ffrynt, i ymgysylltu â’r uwch-dîm yn rhanbarth Casnewydd y Celtic Collection a dilyn cyflogaeth yn y gwesty ar ôl cwblhau’r lleoliad.   

Dywedodd Tracy Israel, Cyfarwyddwr Dawn a Datblygu yn y Celtic Collection: “Roeddem wrth ein bodd o ffurfio partneriaeth â Phrifysgol De Cymru i greu’r ddau gyfle hyn ar gyfer lleoliad yng ngwestai’n clwstwr yng Nghasnewydd.  Roedd yn gyfle godidog i fyfyrwyr fod yn rhan o lansiad cyffrous yn Tŷ Gwesty Casnewydd ac i gael profiad ymarferol mewn lleoliad newydd sbon sy’n pennu safonau cynaliadwyedd newydd fel y gwesty ‘trydan cyfan’ mwyaf yng Nghymru.   

“Trwythodd Dilakshan a Deepu eu hunain mewn amrywiaeth eang o rolau gwestai a lletygarwch gyda brwdfrydedd a dangosasant ddawn wych ar gyfer y gwaith.  Gobeithiwn y byddant yn gallu parhau â’u gyrfaoedd gyda’r Celtic Collection pan fônt yn cwblhau’u lleoliadau a’u hastudiaethau MBA.” 

Dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, Arweinydd Cyngor Casnewydd ac aelod o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd: “Yn unol â nod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd o wneud De-ddwyrain Cymru’n lle dymunol i fyw, gweithio a buddsoddi ynddo, mae Tŷ Gwesty Casnewydd yn darparu’r cefndir perffaith i’r amrywiol ddigwyddiadau corfforaethol a hamdden a gynhelir yn yr ICCW, a daw ag effaith economaidd gadarnhaol sylweddol i’r ardal leol trwy dynnu gwesteion i’r rhanbarth.  

“Mae’r gwesty’n amlygu’r hyn y gall Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei wneud gyda’r Gronfa Adeiladau Strategol, a’r llwyddiant y gall ei gyflawni i brosiectau lleol.  Rwyf wrth fy modd o weld y gwesty’n dod â rhagor o fuddion i’r gymuned trwy’r cydweithredu hyn â Phrifysgol De Cymru i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ddoniau lletygarwch.” 

Dywedodd y Dr Andrew Thompson, Pennaeth Pwnc ar gyfer Busnes Byd-eang ym Mhrifysgol De Cymru: “Roeddem wrth ein bodd o ffurfio partneriaeth gyda’n myfyrwyr Byd-eang mewn MBA ym Mhrifysgol De Cymru, Deepu Chandran a Dilakshan Classen, gyda’r Celtic Collection yn arwain lansiad Tŷ Gwesty Casnewydd.  Mae gan y Celtic Manor enw da ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru, ac i fyfyrwyr geisio dilyn gyrfaoedd mewn rheoli lletygarwch, ni allem fod wedi dymuno cydweithrediad mwy cyffrous. 

“Enillodd Deepu a Dilakshan ill dau brofiad fydd yn eu rhoi mewn sefyllfa gref ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol, gan, gobeithio, aros yma yng Nghymru am ychydig yn hwy.  Hoffwn ddiolch i Tracy Israel, Cyfarwyddwr Dawn a Datblygu yn y Celtic Collection, am hyrwyddo buddiannau’n myfyrwyr.” 

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Heddiw, cyhoeddodd Partneriaeth Gyfyngedig Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd fuddsoddiad yn Coaches’ Voice, y platfform addysg a hyfforddi pêl-droed digidol sy'n tyfu'n gyflym.

Subscribe for updates

Skip to content