Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn lansio Bwrdd Twf Rhanbarthol i gryfhau llunio polisi a phenderfyniadau

Categorïau:

Cynhaliodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ei Fwrdd Twf Rhanbarthol (RGB) agoriadol, sef Bwrdd Cynghori allweddol o Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru (CJC) newydd.  Bydd y Bwrdd newydd yn darparu dirnadaeth strategol ac arweinyddiaeth meddwl i hysbysu strategaeth economaidd ranbarthol, ac mae’n tynnu ynghyd unigolion blaenllaw o bob cwr o’r sector preifat, y byd academaidd a sefydliadau ymchwil, ochr yn ochr ag Arweinwyr awdurdodau lleol rhanbarthol. 

Gan weithio ochr yn ochr â Bwrdd Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd gan eu profiad cyfunol rôl hanfodol mewn ysgogi’r agenda twf rhanbarthol.  Cadeirir y Bwrdd Twf Rhanbarthol gan Kevin Gardiner (Strategydd Buddsoddi Byd-eang, Rothschild & Co) oedd cynt wedi cynghori Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel Aelod o’i Banel Buddsoddi.  Mae aelodau lleyg y Bwrdd yn cynnwys: 

  • Is-gadeirydd, yr Athro Wendy Larner, Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd; 
  • Nick Bennett, Cyfarwyddwr, Cynghori Strategol, Savills; 
  • Y Dr Louise Bright, Dirprwy Is-ganghellor Menter, Ymgysylltu a Phartneriaethau, Prifysgol De Cymru; 
  • Mark John, Cyd-sylfaenydd, Tramshed Tech; 
  • Yr Athro Robert Huggins, Cadeirydd Daearyddiaeth Economaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr ei Chanolfan Daearyddiaeth Economaidd. 

Ymunir â nhw ar y Bwrdd gan Arweinwyr o bob cwr o’r rhanbarth, yn cynnwys y Cynghorydd Huw Thomas (Cyngor Caerdydd), y Cynghorydd Anthony Hunt (Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen), y Cynghorydd Stephen Thomas (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent) a’r Cynghorydd Brent Carter (Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful).  Mae cynrychiolwyr o Is-bwyllgorau Datblygu Strategol a Thrafnidiaeth Ranbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Chadeirydd Bwrdd Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd,  Frank Holmes (Partner Sefydlu, Gambit Corporate Finance), yn cwblhau’r Bwrdd. 

Bwriodd Kevin Gardiner sylw ar ôl sesiwn gyntaf y Bwrdd Twf Rhanbarthol:

“Rwyf yn bles ac yn falch o rannu yng ngham nesaf taith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda chyfarfod cyntaf y Bwrdd Twf Rhanbarthol newydd.  Ein gwaith ni yw cynnig cynghorion ymarferol i lunwyr penderfyniadau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ynglŷn â’r ffordd orau o gyflawni economi rhanbarthol mwy, tecach a gwyrddach.” 

Dywedodd y Cynghorydd  Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a Dirprwy Gadeirydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

“Mae cyfarfod cyntaf y Bwrdd Twf Rhanbarthol yn garreg filltir arall i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ei thaith i fod yn rym dros dwf cynhwysol yn ein Rhanbarth.  Roedd y bartneriaeth rhwng busnesau, prifysgolion a Chynghorau lleol yn rhan allweddol o lwyddiant cychwynnol ein Bargen Ddinesig, ac mae sefydlu’r Bwrdd Twf Rhanbarthol yn awr yn gosod y llwyfan ar gyfer rhagor o dwf.” 

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi lansio ei Strategaeth Lles Plant gyntaf heddiw, gan nodi ymrwymiad hirdymor i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled de-ddwyrain Cymru drwy fynd i'r afael â'r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy'n llunio eu bywydau.

Subscribe for updates

Skip to content