Lansiodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) heddiw (y 24ain o Fawrth) borth newydd cynhwysfawr o addysgiadol a hynod atyniadol sy’n rhoi bywyd go iawn i weledigaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ail-lunio De-ddwyrain Cymru – ac, yn hanfodol, sy’n rhoi darlun parhaus o’r prosiectau a’r buddsoddiadau sy’n ailfywiocáu pob un o’r 10 bwrdeistref unedol mewn rhanbarth sy’n gartref i 1.5 miliwn o bobl ac sy’n gyfrifol am 50% o gynnyrch economaidd Cymru.
Mae’r ganolfan wybodaeth newydd hon yn cynnwys diweddariadau cipolwg ar brosiectau’r Fargen Ddinesig fesul sector a fesul sir, canolfan fuddsoddiadau sy’n arddangos cyfleoedd buddsoddi sydd ar gael ledled y rhanbarth, yn ogystal â’r arian sydd ar gael ar gyfer prosiectau newydd, gyda gwybodaeth gam wrth gam am sut i gael atynt. Mae nodweddion eraill yn cynnwys y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf, archif hawdd ei gyrraedd o holl bapurau a chyhoeddiadau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ynghyd â gwybodaeth am bob un o sectorau blaenoriaethol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, meysydd ffocws allweddol, a rolau, cyfrifoldebau a chylch gwaith ein cyrff llywodraethu a chynghori.
Dywedodd Suzanne Chesterton, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“
Mae’r porth newydd yn llawer mwy cynhwysfawr na’n gwefan flaenorol, yn ogystal â bod yn fwy gweledol ac o natur ffeithlun, yn cynnwys map lleoedd â chodau lliw o’r holl weithgareddau ym mhob bwrdeistref. Rydym yn ymwybodol bod gennym lawer o randdeiliaid, ac mae ar bob un ohonynt angen gwahanol fathau o wybodaeth wedi’i chyflenwi yn y ffordd fwyaf atyniadol – ac felly mae ein porth newydd wedi’i ddylunio i ddarparu hynny’n union, gyda rhywbeth i bawb sydd â diddordeb yn yr hyn y mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ei wneud, y prosiectau rydym yn eu cwblhau, y cyfleoedd cyllido a gynigiwn – ac, yn hanfodol, y deilliannau rydym yn eu cyflawni o ran buddsoddiadau a wneir, trosoliad o’r sector preifat a ddisgwylir a swyddi ychwanegol a grëir, ar bob prosiect ym mhob bwrdeistref.
“Wrth greu’r ganolfan wybodaeth hon, cydweithiasom yn agos iawn â Karolo Design a wnaeth waith ardderchog yn creu porth sy’n chwyldroadol inni o ran hygyrchedd, tryloywder ac apêl weledol yr wybodaeth a arddangosir.”
Mae’r porth newydd – www.cardiffcapitalregion.wales – ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe’i diweddarir yn fynych i ddarparu adnodd eang ei gyrhaeddiad a manwl ar gyfer holl anghenion gwybodaeth.