Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Penodi Aelodau Bwrdd ar gyfer Cyngor Busnes

Categorïau:
Datganiad i'r Wasg – Arall

Cyhoeddodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) enwau aelodau bwrdd ei Gyngor Busnes.

Mae’r Cyngor Busnes, sydd o dan gadeiryddiaeth Neil Brierley, yn gyfrifol am ymgysylltu â phob busnes a lleisio’u hanghenion, gan ddarparu llais cryf i fusnesau dywys y gwaith o gynllunio a darparu datblygiad economaidd a gweithgareddau adfywio sylweddol ledled rhanbarth De-ddwyrain Cymru.

Yr Aelodau, naill ai a etholwyd i wasanaethu’r cyrff y maent yn eu cynrychioli, neu a benodwyd yn erbyn cyfres allweddol o sgiliau, yw:

  • Cadeirydd – Neil Brierley – Cyfarwyddwr Gweithrediadau dros Gymru a’r De-orllewin, Faithful+Gould;
  • Ann Beynon – Uwch-gynghorydd ar Faterion Cymreig, Dŵr Hafren Trent; sy’n cynrychioli Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI);
  • Katy Chamberlain – Prif Weithredwr, Business in Focus;
  • Huw Lewis, Cyfarwyddwr Cyllid ac Ysgrifennydd y Cwmni, Maes Awyr Caerdydd;
  • Heather Myers – Cyfarwyddwr, Siambr Fasnach De Cymru;
  • Jo Rees – Cyfreithiwr a Phartner, Blake Morgan;
  • Grant Santos – Prif Swyddog Gweithredol, Grŵp Educ8; sy’n cynrychioli’r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB);
  • Richard Selby – Cyd-sylfaenydd, Pro Steel Engineering;
  • Paul Webber – Cyfarwyddwr, Arup;
  • Karen Wenborn – Pennaeth Cadw a Gwerthiant Caerdydd, SSE Ccc;
  • Huw Williams – Dirprwy Is-ganghellor Adnoddau Strategol, Prifysgol De Cymru.

Rôl aelodau bwrdd y Cyngor Busnes yw cymell busnes y Cyngor, nodi meysydd allweddol i ymyrryd, cefnogi Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wrth gyflawni’i chynllun strategol, darparu cyngor cynhwysfawr, herio a chraffu, a sicrhau bod gan fusnesau lais cryf.
Gall bwrdd y Cyngor Busnes hefyd ddirprwyo gweithgareddau i grwpiau gorchwyl a gorffen, fel sy’n briodol.  Byddai’r grwpiau hyn yn gweithio mewn ffordd golegol, gan wneud defnydd o bobl â’r sgiliau priodol i fynd i’r afael â materion fel maent yn codi.

Fel Cadeirydd y bwrdd, fe fydd Neil Brierley yn arwain y Cyngor, yn cadeirio cyfarfodydd y bwrdd, yn casglu barn rhanddeiliaid, ac yn cyfathrebu ac yn cynrychioli’u hargymhellion gerbron Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd arweinwyr y 10 awdurdod lleol yn y rhanbarth.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd o fod yn cadeirio Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Bydd gan y Cyngor Busnes rôl ganolog wrth lunio datblygiad a pharhad llewyrch y rhanbarth, gan helpu i sicrhau bod gan y gymuned fusnes lais cryf a glywir gan yr Arweinwyr Rhanbarthol a chan Gabinet y Brifddinas-Ranbarth.”

“Daw Aelodau bwrdd y Cyngor Busnes o bob cwr o’r rhanbarth cyfan, ac maent yn cwmpasu ystod eang o gefndiroedd a sectorau busnes, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a Siambr Fasnach De Cymru.  Bydd yr ehangder gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd hyn yn darparu llais busnes cryf i dywys y gorchwyl o gynllunio a chyflawni gweithgareddau datblygu ac adfywio economaidd sylweddol ledled y rhanbarth.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Arweinydd Portffolio’r Fargen Ddinesig ar Arloesi, Digidol a Busnes: “Rydym yn falch iawn o fod wedi penodi aelodau’r bwrdd ar gyfer y Cyngor Busnes.  Mae’u harweiniad yn allweddol i lwyddiant prosiect Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac felly roedd hi’n hanfodol dewis aelodau oedd wedi hen ennill eu plwyf o’n cymuned fusnes y mae’u gweithgareddau dyddiol yn agor eu llygaid i faterion masnachol go iawn ac i dueddiadau yn y farchnad.

“Rydym yn hyderus y bydd aelodau bwrdd y Cyngor Busnes yn ffynnu yn eu rôl newydd, diolch i’w harbenigedd cyfunol mewn amrywiol sectorau, a’u dealltwriaeth gadarn o’r economi a pholisi yn y ddinas-ranbarth a thu hwnt.”

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd am ddatgloi twf economaidd sylweddol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnwys y deg awdurdod lleol sef Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy, a Thorfaen.

Amcanion Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw creu swyddi a hybu llewyrch economaidd drwy wella cynhyrchiant, mynd i’r afael â diweithdra, adeiladu ar sylfeini arloesedd, buddsoddi mewn seilwaith ffisegol a digidol, darparu cymorth i fusnesau, a sicrhau y caiff unrhyw fuddion economaidd a gynhyrchir o ganlyniad eu teimlo ledled y rhanbarth.

Mae Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eisoes wedi cytuno i fuddsoddi  £37.9 miliwn i gynorthwyo i ddatblygu clwstwr diwydiant lled-ddargludydd cyfansawdd yn ne-ddwyrain Cymru.

Cynhyrchir y cyllid oddi wrth Gronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – a dyma oedd y buddsoddiad cyntaf o’i fath ers i’r rhaglen £1.2 biliwn gael ei llofnodi’n ffurfiol gan arweinwyr y deg awdurdod lleol yn y rhanbarth ar y 1af o Fawrth ‘llynedd.

Disgwylir i’r prosiect drosoli hyd at £375 miliwn o fuddsoddiad yn y sector preifat dros y pum mlynedd nesaf, a chreu hyd at 2,000 o swyddi gwerth uchel, uwch-dechnoleg, gyda’r potensial am gannoedd yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi ehangach a datblygiad y clwstwr.

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Yng Nghaerdydd heddiw lansiwyd yn ffurfiol Hyb Arloesedd Seiber (CIH) sy'n ceisio trawsnewid De Cymru i fod yn glwstwr blaenllaw.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.