Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn recriwtio ar gyfer Aelodau Annibynnol o’r Is-bwyllgor Safonau

Categorïau:

Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru am benodi tri Aelod Annibynnol i’w Is-bwyllgor Safonau.   

Os ydych chi’n gwerthfawrogi democratiaeth, ag ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac yn meddu ar y gallu i fod yn annibynnol, yn wrthrychol ac â meddwl cryf, yna efallai mai chi yw’r person cywir ar gyfer y rôl hon. 

Mae’r Is-bwyllgor Safonau yn cyflawni rôl bwysig o ran hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad aelodau Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru.Mae’r Is-bwyllgor Safonau yn cynnwys tri aelod annibynnol a dau gynghorydd.Gwneir penodiadau am gyfnod rhwng 4 a 6 blynedd a gellir eu hymestyn am gyfnod pellach o 4 blynedd. 

Ar gyfer y rôl hon, bydd angen i chi: 

  • bod â diddordeb cyffredinol mewn materion moesegol, 
  • bod o gymeriad da, 
  • dangos ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (egwyddorion Nolan; anhunanoldeb; uniondeb; gwrthrychedd; atebolrwydd; bod yn agored; gonestrwydd; arweinyddiaeth), 
  • meddu ar ddealltwriaeth o lywodraethu mewn corff corfforaethol, 
  • meddu ar y gallu i fod yn annibynnol, yn wrthrychol ac â meddwl cryf, 
  • heb unrhyw gysylltiad busnes â Chyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru, 
  • gallu dadansoddi tystiolaeth, materion a phroblemau, 
  • gallu cyfathrebu a chyfrannu’n effeithiol mewn amgylchedd pwyllgor 
  • bod yn wleidyddol annibynnol, a 
  • gallu ymrwymo ar gyfartaledd 2 i 3 awr y mis i waith yr Is-bwyllgor.

Mae’r Is-bwyllgor Safonau fel arfer yn cyfarfod bob chwarter a gofynnir i aelodau annibynnol fynychu cyfarfodydd Pwyllgorau eraill i arsylwi’r trafodion ac ymgyfarwyddo â gwaith Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru. Darperir hyfforddiant priodol i aelodau ddatblygu’r ddealltwriaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni eu rôl yn effeithiol.Telir y penodiad yn unol â Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy’n rhagnodi taliadau o £238 y dydd am weithgareddau dros 4 awr a £119 y dydd am weithgareddau hyd at 4 awr (gyda darpariaeth ar gyfer taliad fesul awr o £29.75 yr awr yn ôl disgresiwn y Cydbwyllgor Corfforaethol). Gellir hawlio taliadau am bresenoldeb mewn cyfarfod, teithio, amser paratoi a mynychu hyfforddiant.  

I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Jayne La Grua, Swyddog Monitro, yn MonitoringOfficer@cardiffcapitalregion.gov.uk.  

Os ydych yn credu eich bod yn bodloni’r gofynion uchod a bod gennych ddiddordeb yn y rôl hon, anfonwch e-bost MonitoringOfficer@cardiffcapitalregion.gov.uk am becyn cais.  

Mae aelodau o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl ar hyn o bryd wedi’u tangynrychioli ar Gydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru, felly croesewir ceisiadau gan aelodau o’r grwpiau hyn yn arbennig, er y bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail teilyngdod. 

Gwybodaeth Cais 

Gellir lawrlwytho gwybodaeth i ymgeiswyr yma. 

Gellir lawrlwytho manyleb person yma. 

Gellir lawrlwytho disgrifiad rôl yma.

Gellir lawrlwytho ffurflen gais aelod annibynnol yma. 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn pob cais yw 21 Ebrill 2025. 

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) wedi lansio ei Strategaeth Lles Plant gyntaf heddiw, gan nodi ymrwymiad hirdymor i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd ledled de-ddwyrain Cymru drwy fynd i'r afael â'r ffactorau economaidd a chymdeithasol sy'n llunio eu bywydau.

Subscribe for updates

Skip to content