Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhoi benthyg £15 miliwn i Fan Swyddfeydd newydd yn Stryd Ioan/John Street, Caerdydd

Categorïau:
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynorthwyo i ariannu adeilad newydd yng nghanol Caerdydd gyda Grŵp Bancio Lloyds fel tenant cyn prydles ar gyfer dros 3,000 o weithwyr yn 2025. 

Rhoes Cronfa Adeiladau Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) fenthyg £15 miliwn i floc swyddfeydd newydd 114,000 troedfedd sgwâr yn Sgwâr Callaghan yng nghanol Caerdydd a ariannir gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd trwy fenthyciad dyled i’r datblygwyr JR Smart.  Mae Grŵp Bancio Lloyds am gymryd prydles 10 mlynedd ar yr adeilad cyfan, gyda 3,000 o weithwyr sydd i fod i symud i’r adeilad swyddfeydd newydd hwn. 

Mae Stryd Ioan/John Street yn adeilad swyddfeydd o fri, a gynlluniwyd hyd at y safonau uchaf, ac mae’n targedu graddfa ardystiad adeiladau cynaliadwy BREEAM ‘Ardderchog’, sy’n ymrwymo i leihau’i effaith amgylcheddol ac yn ymgorffori datrysiadau arloesol i sicrhau cynaliadwyedd cyfnod hir.  Bydd yr adeilad 10 llawr yn elwa o’r holl wasanaethau trydanol, sgôr EPC ‘A’, achrediad ‘Arian’ WELL, a bydd yn ymgorffori teras pen to gyda golygfeydd ledled y ddinas a Bae Caerdydd.  Mae gwaith y Landlord wedi’i amserlennu i’w gwblhau ym mis Rhagfyr eleni, gyda Lloyds yn meddiannu’r adeiladau o haf 2026. 

Ar gyfer tenant a gweithwyr fel ei gilydd, bydd y lleoliad yn manteisio’n llawn ar brosiectau seilwaith y dyfodol a ddarperir yn y rhanbarth, yn cynnwys y datblygiad Crossrail newydd fydd yn bwydo i Sgwâr Callaghan ei hun, yn ogystal â’r gwelliant arfaethedig i Gaerdydd Canolog lle mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un o’r prif gefnogwyr a chyllidwyr.  Ymhellach draw, bydd canolfan drafnidiaeth Parcffordd Caerdydd sydd newydd ei chymeradwyo yn cydategu cysylltiadau trafnidiaeth ac yn cynorthwyo twf busnesau yn y rhanbarth.  

Eir â’r holl fuddsoddiadau gan Gronfa Adeiladau Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a reolir gan CBRE Lending, trwy broses gymeradwyo dau gam trylwyr.  Mae ymdrechion masnachol blaenorol a gefnogwyd gan Gronfa Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys Pulse Plastics yng Nglyn Ebwy, Stiwdios Seren Great Point yng Nghaerdydd, a Gwestai Tŷ yng Nghasnewydd.  Ail-fuddsoddir y benthyciad, ar ôl ei ad-dalu, drachefn yn y rhanbarth. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Bydd y buddsoddiad hwn mewn man swyddfeydd newydd yn Stryd Ioan/John Street yng Nghaerdydd yn cynorthwyo blaenoriaethau allweddol megis twf busnesau ac adfywio ar gyfer yr economi rhanbarthol.   

“Parhawn i archwilio cyfleoedd yn weithredol i weithio’n gydweithredol gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd er mwyn cyflawni buddion economaidd sylweddol.” 

Dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Y Fonesig Nia Griffith: “Rwyf yn falch iawn o weld buddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.  Bydd hyn yn helpu i gyflawni’n cenhadaeth o dwf economaidd, sef rhan anhepgor o’n Cynllun dros Newid. 

“Bydd y datblygiad hwn, ynghyd â gwell cysylltiadau trafnidiaeth, yn darparu cyfleusterau rhagorol i annog busnesau i leoli’u hunain yng Nghaerdydd ac i ehangu, gan helpu i greu swyddi newydd ac i roi mwy o arian ym mhocedi pobl.” 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, OBE, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac Arweinydd Portffolio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd dros y Gronfa Adeiladau Strategol: 

“Mae gan y buddsoddiad hwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ei ran mewn datblygu rhagor ar fannau swyddfeydd cyffrous ac amgylcheddol gynaliadwy y mae brandiau cenedlaethol yn dymuno’u cymryd, gan ychwanegu at y twf cynhwysol cyfnod hir yn ein rhanbarth.  Mae gweledigaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gysylltu cymunedau, gwasanaethau a busnesau yn parhau i ddatblygu, ac mae gan ein hymyriadau ym maes mannau swyddfeydd a chysylltiadau trafnidiaeth rôl drawsnewidiol allweddol.” 

Dywedodd George Richards, Uwch-gyfarwyddwr CBRE Lending, sy’n rheoli’r Gronfa Adeiladau Strategol ar ran Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: 

“Dyma fuddsoddiad tyngedfennol yn y rhanbarth, sy’n gyson ag amcanion craidd y gronfa o greu swyddi, trosoli’r sector preifat, a darparu man cyflogaeth newydd.  Mae rhagoriaethau ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywidraethiant) eithriadol yr adeilad yn bodloni amcanion cynaliadwyedd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a pharhad eu taith tuag at Sero Net.” 

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Heddiw, cyhoeddodd Partneriaeth Gyfyngedig Cyfalaf Buddsoddi mewn Arloesedd fuddsoddiad yn Coaches’ Voice, y platfform addysg a hyfforddi pêl-droed digidol sy'n tyfu'n gyflym.

Subscribe for updates

Skip to content