Mae Prosbectws Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cwmpasu rhaglen ‘Ailgodi’n Gryfach’ radical a thrawsnewidiol gwerth £4.2 biliwn ar gyfer De-ddwyrain Cymru.

Categorïau:
Buddsoddiadau

Mae Prosbectws Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd ar fin cael ei gyflwyno i Lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru, yn egluro mewn manylder eglur a chynhwysfawr raglen radical ac angenrheidiol o fuddsoddi a thrawsnewid, sy’n canolbwyntio ar gyfarparu economi a chymdeithas De-ddwyrain Cymru â’r adnoddau, yr offer a’r strwythur ar gyfer y degawdau o her a chyfle sydd o’n blaen.  Bydd y buddsoddiad dylanwadol hwn yn rhoi sylw i faterion, sy’n cynnwys gallu Ymchwil a Datblygu, y bwlch mewn gwariant ar seilwaith, y cyfle i harneisio cryfderau sectorau – a’r potensial i wneud y defnydd gorau o ‘Ailgodi’n Gryfach’, gan greu twf cynhwysol ledled economïau masnachol, sylfaenol a newydd addawol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Pwysleisiodd Anthony Hunt, Cadeirydd, Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yr adenillion economaidd ar fuddsoddiad, yn ogystal â phwysigrwydd cymdeithasol hanfodol  codi-i-wastatáu.

“Mae’r Prosbectws Buddsoddi hwn – Llewyrch i’n Lle Ni – yn gwneud yr achos dros godi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i fod yn gyfartal â rhanbarthau eraill yn y Deyrnas Unedig o ran materion allweddol megis Ymchwil a Datblygu a buddsoddi mewn seilwaith – ond nid dyna’i diwedd hi.  Mae yna waith cyfochrog i’w wneud i godi-i-wastatáu o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, o ystyried y bwlch anghydraddoldeb sy’n ehangu ac a waethygwyd gan bandemig Coronafeirws. 

“Mae ein hamcangyfrifon yn dynodi y bydd y buddsoddiad hwn ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn creu 33,500 o swyddi, yn golygu trosoliad preifat gwerth £3.75 biliwn ac yn cynyddu twf-cynhyrchiant i greu cynnydd sylweddol mewn Gwerth Ychwanegol Gros ledled y rhanbarth – gan adeiladu ar ein profiad o gyflenwi mathau newydd o fuddsoddi cyhoeddus rhanbarthol a gymeradwyir gan dair haen llywodraeth.”

Mae’r prosbectws yn adeiladu ar y gwaith catalytig a wnaed hyd yn hyn wrth ddefnyddio cronfa £1.3 biliwn y Fargen Ddinesig, gan ddefnyddio’r fframwaith cadarn ar gyfer twf sydd eisoes wedi’i roi ar waith.  Mae’r gofyniad cychwynnol o £1.05 biliwn wedi’i ffurfio o Setliad Ariannol Ymchwil a Datblygu gwerth £630 miliwn ar gyfer y rhanbarth, Buddsoddiad Cronfa ‘Codi i Wastatáu’ gwerth £320 miliwn, a £100 miliwn o fuddsoddiad drwy’r Gronfa Sgiliau Genedlaethol.  Ar ben hynny, mae £3.2 biliwn o ofyniad cyfnod hwy yn cynnwys £2 biliwn o gyfraniad gan yr Adran Drafnidiaeth, £1.2 biliwn o gyfraniad gan y Strategaeth Ddiwydiannol Ranbarthol ac ISCF (Cronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol) – ac ymrwymiad i weithio ar y cyd a chael trafodaethau ar fentrau ehangach ledled Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda chyfleoedd penodol i greu campws data, hwb hydrogen a harneisio amrediad llanw’r Hafren.

Mae Frank Holmes, Cadeirydd y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol, yn croesawu’r uchelgais i sicrhau buddsoddiad parhad fydd yn rhoi bywyd i glystyrau diwydiannol allweddol ac yn creu canolfannau sy’n economaidd arwyddocaol, gan sicrhau y gall cwmnïau wireddu’u potensial ar gyfer arloesi a chynhyrchu effeithiau lluosydd mewn cadwyni cyflenwi lleol a rhanbarthol.

“Mae peri i fuddsoddi cyhoeddus weithio’n well i bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn orchwyl enfawr, ac ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd mae arnom eisiau helpu i’w gwneud hi’n haws drwy amlinellu’r hyn y mae’n ei olygu i ni.  Mae’r grochlef am ‘fuddsoddiad ychwanegol’ a addawyd yn ddealladwy ymysg difrod parhaus pandemig Covid, ond mae’n rhaid i’n hymagwedd fod yn fwy craff a chyfnod hir na dim ond ceisio mwy o fuddsoddiad heddiw.

“Ein barn eglur yw bod yn rhaid i’r llywodraeth bennu cyfeiriad y polisi, ond bod gan y sector preifat serch hynny ran fawr mewn codi-i-wastatáu, a byddwn yn llais nerthol wrth annog busnesau a buddsoddwyr i leoli yn y rhanbarth.  Credwn fod mesurau polisi a reolir yn dda, lleihau gweithio ynysig a lleihau rhwystrau rhag buddsoddi, arweinyddiaeth ddiwydiannol gref a mentro mwy yn rhoi cyfle i gyflwyno mwy o barhad ac uchelgais i graidd dyfodol ein rhanbarth.  Dyma’n hamser ni.”

Nododd Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y ‘foment unigryw mewn amser’ y mae codi-i-wastatáu yn ei gynnig.

“Mae’n rhaid i codi-i-wastatáu fod yn fwy na dim ond cronfa codi-i-wastatáu, ac felly mae’r prosbectws hwn yn ymwneud â chymryd y cyfle i wastatáu’r maes chwarae ar gyfer rhanbarth sy’n gartref i 1.3 miliwn o bobl ac sy’n cynhyrchu 50% o allbwn economaidd Cymru.  Mae’r ardal ddaearyddol amrywiol hon wedi’i herio’n hanesyddol gan anghydraddoldebau sylfaenol a Gwerth Ychwanegol Gros sydd ond yn 75% o hynny mewn mannau eraill yn y DU.  Mae ein rhaglen o newid yn ceisio gwneud iawn am hyn, a chyn bwysiced, rhoi’r seilwaith a’r diwylliant ar waith i adeiladu cymunedau, busnesau, gweithleoedd, cadwyni cyflenwi ac economi cadarn sy’n gallu ffynnu ar ôl y pandemig, yn wyneb y llu o heriau a gyflwynir gan Brexit, newid yn yr hinsawdd, iechyd meddwl, poblogaeth oedrannus, symudedd a’r angen i ailsgilio ar gyfer y bedwaredd oes ddiwydiannol.”

Gallwch lawrlwytho’r ddogfen yma.

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Bydd Canolfan Arloesi Seiber (CAS) newydd i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Seiber-Ddiogelwch yn weithredol yn ddiweddarach eleni ar ôl denu ymrwymiadau cyd-fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PR-C) a phartneriaid yn y diwydiant.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.