Mae’r byd digidol yn cael ei ddiogelu a’i alluogi gan seiberddiogelwch. Felly, pan enwyd Wolfberry Cyber Limited o Gaerdydd yn Gwmni Seiberddiogelwch Mwyaf Arloesol y DU ym mis Mehefin eleni, roedd yn arwydd calonogol o hyder yng ngallu seiber P-RC – ac yn dystiolaeth addas o syniadau arloesol a chreadigol y cwmni anhygoel hwn.
Gan guro’r gystadleuaeth o du 23,180 o enwebiadau – a gorffen yn uwch na mentrau Seiber gorau o 32 o wledydd ledled y blaned – enillodd Wolfberry glod am wneud “gwahaniaeth enfawr i fyd seiberddiogelwch”. Fe wnaethom gwrdd â Phrif Swyddog Gweithredol Wolfberry, Damon Rands, i ddarganfod y gyrwyr y tu ôl i lwyddiant ei gwmni – gan archwilio sut mae eu gofal cwsmeriaid, eu cyngor dibynadwy a’u harbenigedd technegol wedi eu helpu i ddatblygu rhwydwaith o swyddfeydd sy’n ymestyn o dde-ddwyrain Cymru i Dubai – ac yn mesur sut mae galluoedd Seiber P-RC yn cymharu â gweddill y byd …
Gwneud seiberddiogelwch yn hygyrch, yn fforddiadwy – ac yn ddealladwy
“Yn ei hanfod, rydym yma i wneud seiberddiogelwch yn hygyrch, yn fforddiadwy ac yn ddealladwy,” meddai Damon. “Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae seiber wedi peidio â bod yn rhywbeth sy’n gysylltiedig â phethau drwg, wrth i bobl sylweddoli pwysigrwydd diogelwch ar gyfer eu busnesau a’u bywydau pob dydd. Ond mae rhywfaint o gamargraff o hyd ynghylch yr hyn y gallwn ei wneud mewn gwirionedd ar gyfer sefydliad. Ydyn, rydyn ni yma i ddiogelu ein cwsmeriaid rhag ymosodiadau seiber a gwella eu gosodiadau diogelwch. Ond rydym hefyd yn alluogwr. Rydym yn helpu i wneud i bethau ddigwydd trwy agor gwir botensial mentrau a sectorau. Er enghraifft, ni allai fod sector technoleg ariannol mor ffyniannus a chynyddol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd heb i seiber o safon fyd-eang fod yn rhan o’r ecosystem honno. Mae cwmnïau seiber fel Alert Logic, Awen Collective, a Thales’, ynghyd â ninnau, wedi helpu i adeiladu gallu seiber sy’n cyrraedd safon fyd-eang. Ein cylch gwaith nawr yw aros ar y blaen byth a beunydd, gan helpu sefydliadau o bob maint, wrth i ‘4.0’ effeithio ar bob sector a chyda’r risgiau diogelwch sy’n dod gyda phob oes ddiwyddiannol newydd.
Rydym yn alluogwr busnes, nid yn rhwystr busnes
“Gan fod Seiber yn treiddio i bopeth, mewn sawl ffordd ein gwaith ni yw dehongli pethau i gleientiaid,” pwysleisia Damon. “Mae’r byd yn llawn gwerthwyr, cynhyrchion a gwasanaethau gwahanol, i gyd yn dweud yr un pethau. Gall fod yn eithaf dryslyd. Felly, rydym wedi dod yn gynghorydd annibynnol dibynadwy i’n cleientiaid. Rydym yma i brofi ac archwilio, nid i werthu meddalwedd na hyrwyddo ateb technolegol. Ein rôl yw diogelu busnes y cleient a sicrhau ei fod yn barod i wneud y gorau o unrhyw gyfleoedd. Ac mae angen i ni feithrin ffyrdd newydd o weithio hefyd. Rydym yn ceisio sicrhau bod y cleientiaid, cyn gwneud unrhyw beth, yn deall eu data, eu prosesau a’u systemau eu hunain – a sut mae popeth yn rhyngweithio. Ar ryw adeg, mae’n debyg y bydd hynny’n cynnwys ‘pobl’, felly mae’n amlwg i ni y bydd angen gweithlu sy’n cael ei ddiogelu, sy’n barod i lwyddo, gyda phobl sy’n cymryd cyfrifoldeb dros yr hyn y maent yn ei wneud a sut y maent yn ei wneud. Mae angen i bawb mewn menter ‘gymryd cyfrifoldeb’ dros seiber – felly rydym yn addysgwr ac yn adeiladwr diwylliant cymaint ag yr ydym yn bartner gwasanaeth.
Rydym yn helpu sefydliadau i ddeall yr hyn sydd ganddyn nhw
a’r hyn y gallant ei wneud
“Mae ein cyngor a’n gwasanaeth yn galluogi cwmnïau i addasu maint a graddfa eu gweithrediadau yn y ffordd orau bosibl, oherwydd dyw yw un maint ddim yn addas i bawb, yn sicr. Gall sefydliad fynd allan i brynu’r wal dân fwyaf, ddisgleiriaf a drutaf ar y farchnad, ond dim ond defnyddio 5% o’i gapasiti, gan adael y 95% arall heb ei ddefnyddio, heb ei wylio – ac yn agored i niwed. Gallwn arwain cleient ar eu penderfyniadau prynu ar draws eu saernïaeth systemau cyfan, gan arbed arian a chynyddu effeithlonrwydd. Yn aml iawn, nid oes angen i gleientiaid wneud pryniannau newydd hyd yn oed, dim ond defnyddio yr hyn sydd ganddynt yn barod mewn ffordd wahanol. Mae gallu rhoi’r farn wrthrychol ben i ben hon yn agwedd bwysig ar sut beth yw ‘darpariaeth seiber dda’. Felly, er ein bod yn faes cymharol fach a chymharol gul, gallwn ddylanwadu a gwella’n bell ac yn eang, o fewn cwmnïau ac ar draws ardaloedd.
Mae gennym ofod arbrofi seiber anhygoel – ac unigryw – yma ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd
“Mae gennym ofod arbrofi seiber anhygoel yma ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd Mae’n unigryw – rhywbeth nad oes ar gael yn Llundain, Efrog Newydd na San Francisco. Mae gennym nifer o brifysgolion sy’n rhagori mewn seiber – ac yn fwy na hynny, maent yn rhagori mewn gwahanol agweddau ar seiber, sy’n rhoi mantais wirioneddol i ni. Mae gennym yr Academi Seiber ym Mlaenau-Gwent a’r Academi Meddalwedd yng Nghaerdydd sy’n datblygu to newydd o dalent. Yn hollbwysig, mae gennym Lywodraeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yr Heddluoedd a sefydliadau eraill i gyd yn cydweithio – gan roi’r dirwedd berffaith i ni ddatblygu ein harbenigedd ar gyfer dyfodol a fydd yn wynebu hyd yn oed mwy o fygythiadau seiber, trwy ddatblygiadau fel dinasoedd cysylltiedig. Rydym yn dda wrth gydweithio a rhannu. Y cyfan mae angen i ni ei wneud yw meithrin mwy o’r ysbryd entrepreneuraidd trwy ddeoryddion fel y Tramshed – a gwau’r cyfan ynghyd.”
Gan gofio risgiau a gwendidau posibl, gorffennodd Damon mewn modd hynod gadarnhaol, wedi’i dymheru gan dinc o optimistiaeth ofalus:
“Mae gennym bosibiliadau diddiwedd bron ar gyfer ein diwydiannau digidol a’r seiberddiogelwch sy’n sail iddo yma yn ein rhanbarth. Rhaid i ni fanteisio ar bob un cyfle oherwydd na allwch byth ymlacio mewn byd cydgysylltiedig sy’n gweithredu 24/7. Bydd dod â llif cyson o dalent seiber yn hanfodol i ni wneud yn fawr o’r hyn rydyn ni’n ei wneud yma ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae dewis rhyfeddol o eang ac amrywiol o rolau ym maes Seiber – mae’n lle i bobl sy’n rhoi sylw i fanylion, sy’n gallu adnabod patrymau, sy’n gallu datrys problemau ac sy’n gallu gweithio gyda chwsmeriaid a chydweithwyr. Nid cynefin y geek digidol ystrydebol yn unig yw e. Bydd cyfleu’r neges honno ac ymgysylltu â’r dalent honno mewn cymunedau ar draws ein rhanbarth yn ffactor pwysig yn ein llwyddiant yn y dyfodol.”