Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld â Jellagen, sef y ganolfan a leolir yng Nghaerdydd, sy’n cymell triniaethau atgynhyrchiol chwyldroadol

Categorïau:
Datganiad i'r Wasg – Arall

Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David TC Davies, AS, ddoe â phencadlys Jellagen yn Ne Cymru – sef y cwmni biodechneg a sefydlwyd yng Nghaerdydd sy’n arwain y byd mewn meddyginiaethau atgynhyrchiol chwyldroadol, drwy’i ddull radicalaidd o weithredu tuag at harneisio buddion bioddeunyddiau colagen datblygedig a ddeilliwyd yn gynaliadwy o sglefrod môr.

Mae’r ymweliad yn dilyn buddsoddiad ecwiti Cyfres A gwerth £8.7 miliwn yn yr arloeswr technoleg feddygol drawsnewidiol hwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, Banc Datblygu Cymru, Thai Union Group PCL a chyfranddalwyr presennol – gan alluogi Jellagen i gyflymu’u rhaglen arloesol o ddatblygu cynnyrch, tuag at dreialon dynol a ffeilio rheoliadol.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies:

David-TC-Davies-MP

“Mae’r sector Technoleg Feddygol yng Nghymru, sy’n esblygu’n gyflym, yn haeddiannol yn tyfu enw da’n fyd-eang, ac roedd hi’n fendigedig cyfarfod â thîm Jellagen a gweld y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud.

“Buddsoddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig £500 miliwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda’r nod o ddatblygu economi lleol hyfyw a rhoi hwb i sgiliau a swyddi’r dyfodol.  Mae Jellagen yn esiampl wych o arloesedd ac uchelgais yng Nghymru – ac mae’n gyffrous gweld arian y llywodraeth yn cynorthwyo gwaith sy’n hollol arloesol yn ei faes.”

Croesawodd Thomas-Paul Descamps, Prif Swyddog Gweithredol Jellagen, gefnogaeth frwdfrydig Ysgrifennydd Cymru yn dwymgalon:

“Rydym wrth ein bodd o gael ein cydnabod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am y syfliad paradeim a wneir drwy lwyfan Jellagen mewn cyflymu datblygiad meddygol Colagen Math 0.  Mae ein cynnydd yn cynrychioli carreg filltir sylweddol mewn bod yn gallu defnyddio bioddeunydd colagen cynaliadwy ar gyfer ystod gyflawn o glefydau’r croen ac ailadeiladu meinwe drwy ddyfeisiadau arloesol – ac mae ein tîm yn neilltuol o falch o groesawu Ysgrifennydd Cymru, o ystyried ei ddiddordeb brwd mewn hyrwyddo arloesi yng Nghymru a hybu buddsoddiad gan fuddsoddwyr cartref a rhyngwladol, fel ei gilydd.

“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r ecosystem unigryw hon yng Nghymru – ac rydym wedi’n gwefreiddio gan y gefnogaeth a roddir i Jellagen fel arweinydd dyfeisiadau meddygol a bioddeunyddiau byd-eang y dyfodol a leolir yng Nghymru.”

Nododd Rhys Thomas, Prif Swyddog Gweithredu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), y dull cydweithredol o weithredu a nodweddir gan ymweliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru â De-ddwyrain Cymru:

“Mae buddsoddiad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Jellagen yn adlewyrchu’n cred ym mhotensial anhygoel eu llwyfan technoleg, a’r buddion a ddaw drwy hyn i’n Rhanbarth drwy helaethu gweithgynhyrchu yn y dyfodol.  Mae’n hynod galonogol gweld sut y mae menter a anwyd yng Nghaerdydd yn tyfu o nerth i nerth yma yn y Rhanbarth – ac mae’n rhagorol bod yn dyst i sut mae cydweithrediad agos Prifddinas-Ranbarth Caerdydd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, partneriaid yn y sector preifat a’r gymuned fuddsoddi ehangach yn creu cymwysiadau hynod arloesol a chynaliadwy i’w defnyddio o amgylch y byd.

“Mae canlyniadau cyn-glinigol wedi profi y gall Colagen Math 0 negyddu’r defnydd o famaliaid yn y broses ddatblygu, gan leihau’r perygl o drosglwyddo clefydau a firysau – ac rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o dorri tir newydd sylweddol sy’n gwella lles cleifion sydd angen ailadeiladu meinwe neu sydd angen triniaeth ar gyfer clefydau croen.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

- Mae IIC yn gwneud buddsoddiad cyntaf yn AMPLYFI, y busnes Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a leolir yng Nghaerdydd - Disgwylir rhagor o fuddsoddiadau yn y misoedd i ddod.

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.