Mae’r prosiect Metro+ ar gyfer Cyfnewidfa Rheilffordd Merthyr Tudful yn rhan o’r datblygiad safle strategol ehangach o fewn Uwchgynllun Canol y Dref y Cyngor. Mae adeiladu gorsaf reilffordd newydd ar gyfer Merthyr Tudful yn ddyhead strategol allweddol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac mae gwaith wedi dechrau i ddarparu’r seilwaith newydd hanfodol hwn. Bydd y prosiect yn cynyddu cysylltedd a hygyrchedd Merthyr, ac yn cysylltu â rhwydwaith Llinell Calon y Cymoedd, gan ehangu dulliau trafnidiaeth gynaliadwy yn helaeth.
I gael gwybod mwy am y weledigaeth a’r cynlluniau, buom yn siarad ag Alun Evans, Rheolwr y Rhaglen Seilwaith Strategol.
“Fel rhan o Brosiect Metro De Cymru, mae Prosiect Cyfnewidfa Merthyr Tudful yn ceisio creu gorsaf borth fodern o ansawdd uchel, addas at y diben a modern i’r dref a’r Fwrdeistref ehangach. Mae’n un o ddyheadau allweddol yr uwchgynllun newydd ar gyfer canol y dref sy’n datblygu, a bydd yn cynnig cyfle adfywio sylweddol o fewn y Fwrdeistref, gan gynyddu cysylltedd a hygyrchedd i’r rhanbarth ehangach.”