Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn estyn allan at fusnesau yn Ne Cymru wrth iddi ddechrau ar gam newydd cyffrous yn ei rhaglen ymgysylltu â busnesau.
Ar ôl gwrando ar farn busnesau yn y rhanbarth, mae P-RC yn mabwysiadu model newydd o ymgysylltu yn y cam nesaf yn natblygiad ei Gyngor Busnes Rhanbarthol.
Bydd y cyngor newydd yn mabwysiadu model prif ganolfan a lloerennau, a fydd yn rhoi mwy o gyfle i fusnesau mewn gwahanol sectorau leisio eu barn.
Datgelodd arolwg gan academyddion Prifysgol Caerdydd Robert Huggins a Kevin Morgan awydd gan lawer yn y gymuned fusnes am gynyddu rôl busnesau wrth wneud penderfyniadau P-CR, a ffordd fwy syml ac effeithiol i fusnesau mynegi eu barn.
Argymhellodd yr adroddiad y dylai’r cyngor fabwysiadu model prif ganolfan a lloerennau. Dan y drefn hon, byddai’r cyngor yn cynnwys craidd o aelodau blaenllaw (y ‘ganolfan’), a fyddai’n goruchwylio is-bwyllgorau sy’n cynrychioli gwahanol sectorau diwydiant (y ‘lloerennau’).
Pe bai is-bwyllgor ar gyfer technoleg ariannol, er enghraifft, byddai aelodau’n dod o’r sector hwnnw a byddai disgwyl iddynt ganolbwyntio eu gweithgareddau ar faterion yn ymwneud â’r sector. Byddai’r model hwn yn sicrhau bod pob un o’r sectorau allweddol yn cael eu cynrychioli gan bwyllgor pwrpasol ar gyfer y sector hwnnw, gydag aelodau’n dod o’r sector hwnnw ac yn gallu cynrychioli’r materion sy’n effeithio arno wrth wraidd penderfyniadau P-CR.
Byddai’r Cyngor Busnes Rhanbarthol newydd hwn hefyd yn golygu ail-gydbwyso cyfrifoldebau rhyngddo a’r Bartneriaeth Twf Economaidd, gyda’r CBRh yn ymgymryd â mwy o’r rôl o gynrychioli llais busnes o fewn y P-RC.
Mae P-RC yn awyddus i’r CBRh ymgymryd â rôl fwy canolog mewn trafodaethau a phenderfyniadau P-RC o dan ei strwythur newydd. Mae P-RC wedi teimlo ers peth amser yr angen am ymgysylltiad dyfnach ac ehangach â chymuned fusnes y rhanbarth, a gobeithir y bydd y cam newydd hwn o ddatblygu’r Cyngor Busnes yn hwyluso hyn.
Bydd P-RC yn penodi cadeirydd newydd i’r CBRh a all roi iddo’r ffocws a’r ymdeimlad o ddiben sydd ei angen arno a rhoi arweiniad i’r gymuned fusnes wrth ddelio â P-RC.
Gobeithir y bydd y CBRh newydd yn agor pennod newydd yn y berthynas rhwng P-RC a’r gymuned fusnes ranbarthol, perthynas sy’n hollbwysig i amcanion P-RC o greu rhanbarth cystadleuol, cysylltiedig a gwydn, gan sicrhau ffyniant i’w holl ddinasyddion.