Ychydig o sectorau a newidiodd gymaint â’r diwydiant lletygarwch yn ystod y pandemig Ac roedd cwmni Fintech yn Nghaerdydd o’r enw yoello ar flaen y gad o ran galluogi’r trawsnewid rhyfeddol hwn.
Creadigaeth y Prif Swyddog Gweithredol a’r Sylfaenydd Sina Yamani yw Yoello, mae’r platfform archebu a thaliadau ar-lein wedi dod â chwsmeriaid a masnachwyr yn agosach at ei gilydd o lawer, gan wneud trafodion yn rhatach a chynyddu refeniw busnesau gan 30% – gan darfu ar y farchnad taliadau drwy ddefnyddio technoleg bancio agored, i’r fath raddau y cyhoeddwyd mai Yoello yw’r cwmni fintech sy’n tyfu orau yn y DU ym mis Chwefror: enillon nhw Wobr Sector Fintech 3.0 Rising Star Tech Nation (ac ymuno â rhestr fawreddog o alumni sy’n cynnwys Monzo, Revolut. Just Eat a Deliveroo)…
“Mae’n amlwg bod cyfleoedd yno i ni dyfu”
“Roeddwn i wrth fy modd ein bod wedi cael ein cydnabod fel seren wib o gwmni Fintech y DU gan Tech Nation ac ein bod ni wedi ennill lle ar raglen dwf enwog Fintech” meddai Sina. “Mae’n anrhydedd ein bod wedi cael ein cydnabod gan y fath raglen fawreddog, ac mae’n adlewyrchu pa mor bell rydym wedi dod mewn byr o dro ers i ni lansio ein cynnyrch archebu symudol ym mis Gorffennaf y llynedd. Mae’n amlwg bod y cyfleoedd i ni dyfu, ond mae’n rhaid i mi a’r tîm gadw ein traed ar y ddaear. Rwy’n ffodus bod uwch dîm rheoli eithriadol a phrofiadol o’m cwmpas, gyda chyfoeth o brofiad er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyrraedd ein potensial. Nid ydym eisiau bod yn ddim ond un cwmni Fintech arall, rydyn ni eisiau sicrhau y cawn ein cydnabod ledled y byd yn y 1% uchaf.
“O rywbeth sy’n ‘braf ei gael’ i rywbeth hollol hanfodol”
“Mae ein platfform archebu a thaliadau symudol wedi mynd yn gyflym o fod yn dechnoleg lletygarwch sy’n braf ei chael i fod yn rhywbeth hollol hanfodol. Roeddem yn gwybod bod hyn yn siŵr o ddigwydd rywbryd – trwy ein cyfrifiadau, byddai torri’r dyn canol allan yn arbed £8 biliwn i’r diwydiant y flwyddyn – ond wrth gwrs cyflymodd y daith honno i fod yn sefyllfa ‘addasu neu farw’ oherwydd yr angen i gynnal busnes lletygarwch yn ddiogel gydag ymbellhau cymdeithasol a chyda chapasiti llai.”
“Roedd yn glir bod angen i fanwerthu a lletygarwch foderneiddio. Dyna beth rydym wedi bod yn ei gefnogi.”
A hithau wedi graddio o Brifysgol Caerdydd, beth anogodd Sina i ddilyn ei weledigaeth ar gyfer archebu digyffwrdd a thalu heb arian parod?
“Erbyn i mi ddod i ddiwedd fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, rô’n i wedi dysgu gwybodaeth fanwl am daliadau a thechnoleg, daeth yn glir i mi fel cwsmer bod angen i’r diwydiant lletygarwch foderneiddio a chymryd mantais o dechnoleg. Yn amlwg mae COVID wedi gwthio’r angen hwn yn y ffordd fwyaf ddramatig. Erbyn hyn, mae dwy ran o dair o ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn agored i ddulliau heb arian parod ac mae 75% yn dweud y byddant nawr yn gwneud dewisiadau y tu allan i’r cartref yn seiliedig ar ba mor ddiogel maent yn teimlo. Mae gweithredwyr doeth wedi bod yn ailfeddwl rôl technoleg ac maent wedi creu normal newydd sy’n gwella profiad y cwsmer ac yn agor mwy o botensial i wneud elw ar gyfer eu busnes. Dyma beth a lle rydym wedi bod yn cefnogi
“Mae mentoriaid yn bwysig, a chael cymorth mwy ymarferol hefyd.”
Fel aelod o fwrdd Fintech Cymru ac eiriolwr cryf dros gydweithio ar draws cymuned fintech P-RC, pa gymorth mae Sina wedi ei gael yn ystod taith Yoello o fod yn fusnes newydd i ddod yn gwmni sydd erbyn hyn yn cyflogi mwy na 40 o bobl?
“Mae Gareth Lewis yn Delio wedi bod yn fentor gwych, yn fy annog a rhannu â mi bob amser. Mae e’n ddi-flewyn ar dafod a dyna beth mae arnoch chi angen. Gall fod yn Brif Swyddog Gweithredol ar unrhyw gwmni newydd fod yn brofiad llethol, yn enwedig wrth ddechrau, felly mae’n bwysig teimlo bod pobl o’r un anian wrth law er mwyn cyfnewid syniadau a chael rhywfaint o feirniadaeth gignoeth, adeiladol ganddynt.
“Nid oedd hi’n rhwydd bod yn 23 oed heb unrhyw hanes, yn chwilio am fuddsoddiad hanner miliwn o bunnoedd. Bu’n rhaid i mi wneud llawer iawn o ryngweithio, rhoi o’m amser ac adnoddau er mwyn cyrraedd y lansiad. Mae angen cydnabod Busnes Cymru a Fintech Cymru yn fawr am eu holl gymorth – ac felly hefyd Cyngor Caerdydd, a gydweithiodd gyda ni i greu Caffi Cwr y Castell, a gododd fwy na chwarter miliwn o bunnoedd i’r economi leol yn y 10 diwrnod cyntaf ar ôl agor.
Mae’n debyg bod y ‘Diolch’ mwyaf yn mynd i raglen ‘Accelerator’ Barclays am roi mynediad i ni i’w rhwydwaith a chefnogaeth wrth ehangu Yoello. A oes digon o gefnogaeth i Fintech yma yng Nghymru? Gellir dadlau nad oes y ffasiwn beth â digon, ond mae angen i ni ganolbwyntio ar roi i’n busnesau fintech beth y mae arnyn nhw ei angen er mwyn tyfu a chystadlu mewn marchnad fyd-eang.”
“Mae hyn yn dangos beth sy’n bosibl o ran fintech ar draws y rhanbarth”
Mae Sarah Williams-Gardener, Prif Swyddog Gweithredol Fintech Cymru, “wrth ei bodd” gan y lwyddiant y farchnad a chydnabyddiaeth y diwydiant a gafodd Sina a’r tîm yn Yoello. “Mae bod wrth wraidd trawsnewid lletygarwch ac ennill gwobr uchaf fintech yn y DU, i gyd o fewn blwyddynar ôl dechrau’r busnes, yn gwbl syfrdanol”, meddai Sarah. “Pan fydd pobl y gofyn i mi beth sy’n bosibl ar draws fintech yma yng Nghymru, bydda’ i’n cyfeirio at Yoello a rhai o’n busnesau newydd sy’n ffynnu ac yn dweud ‘dyna beth sy’n bosibl’. Nawr gadewch i ni ddyblu ein hymdrechion i greu mwy o Yoellos a mwy o gwmnïau fintech rhagorol ar draws y rhanbarth.”