Mae heddiw’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (Dydd Mawrth 8 Mawrth) ac yn y rhifyn arbennig hwn rydym yn ystyried sut mae dathlu gwahaniaethau a chroesawu amrywiaeth ar draws ein holl ddemograffeg yn y pen draw yn allweddol i gynhwysiant gwirioneddol – a’r llwybr at helpu i gyflawni potensial pawb, ym mhobman …
Dros y 112 mlynedd diwethaf, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod wedi nodi cyfle allweddol i fyfyrio ar y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran dod â chyfle cyfartal i 49.58% o boblogaeth y byd.
Yn sicr, mae llawer i’w ddathlu yma yn y DU. Yr wythnos hon yn unig gwelwyd adroddiad cyntaf Adolygiad Arweinwyr Benywaidd y FTSE sy’n dangos bod bron 40% o swyddi bwrdd FTSE 100 y DU bellach gan fenywod, Openreach yn datgelu bod 600 o brentisiaid peirianneg benywaidd wedi’u recriwtio y llynedd ledled y DU, y nifer uchaf erioed; ac yma yng Nghymru, mae rhaglenni arloesol fel ein cynllun cyflymu cyntaf i fenywod yn unig – Rhaglen Rise sy’n cael ei rhedeg gan We Are Radikl ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili – a Rhaglen Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (sydd wedi denu carfan o 50% o raddedigion benywaidd) yn gyrru’r agenda cyfle cyfartal i bob rhyw.
Mewn sawl ffordd, mae’r datblygiadau gwych hyn yn dystiolaeth galonogol iawn o greu hanes cynhwysol, yn enwedig yng ngoleuni Cynllun Llywodraeth Cymru, Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhywiol yng Nghymru, a ddatgelwyd yn 2020 ac sydd wedi’i seilio ar weithredu yn hytrach na siarad. Ac eto, mae llawer i’w wneud eto. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn adrodd bod y bwlch cyflog cydraddoldeb ar gyfer gweithwyr llawn amser yn aros yn ddigyfnewid ar 7.9%. Mae Chwarae Teg yn nodi mai dim ond 28% o fenywod sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain yn ein rhanbarth ni (ar ei hôl hi o gymharu â’r cyfartaledd o 31% sy’n bodoli ar draws gweddill y DU). Ac, yn bwysig iawn, mae astudiaethau rheolaidd Cymdeithas Fawcett wedi dangos sut mae oedran, hil, ethnigrwydd, anabledd a mynediad at addysg yn parhau i lywio anghydraddoldebau rhwng y rhywiau – a’r rhan fwyaf o anghydraddoldebau eraill.
Mae hyn yn ymwneud â phawb ohonom
O edrych ar y darlun cyfan, does dim lle i laesu dwylo yma yng Nghymru a’r DU. Mae hynny ymhell o’r gwirionedd. Mae ymgyrch Prydain i godi’r gwastad yn dangos ein bod yn sylweddoli bod anghydraddoldebau wedi dod mewn llawer o leoedd yn rhy eang, yn rhy ddwfn ac wedi eu gwreiddio gormod. Felly, ni ddylid ystyried ymdrechion i ddilyn arferion gorau, mapiau ffyrdd llwyddiannus a meysydd o gynnydd parhaus a wnaed o ran cynhwysiant menywod o safbwynt ‘rhyw’ yn unig. Dylai agor ein llygaid ar sut y gallwn gysylltu ac ymgysylltu ag unrhyw un a phob un sydd wedi’i eithrio rhag cyflawni eu potensial – ac mewn rhai achosion wedi’u difreinio’n effeithiol o’r cyfleoedd y mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.
Mae llawer o bobl yn edrych tuag at y Llywodraeth i arwain y ffordd ar yr hyn a elwir mor aml yn Amrywiaeth a Chynhwysiant ond gellid ei nodweddu yn yr un modd fel sylfeini Cynaliadwyedd a Lles. A gyda Llywodraeth Cymru yn ymgorffori cynhwysiant mewn rhaglenni mawr fel creu 125,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed, mae’n amlwg bod camau pwysig yn cael eu rhoi ar waith.
Ond ni fydd Llywodraeth ar ei phen ei hun yn sbarduno cynnydd parhaus o ran agor cyfle i bawb. Dim ond fesul dipyn ac o ddydd i ddydd y caiff ei gyflawni, yn ein hysgolion a’n colegau, drwy ein darpariaeth hyfforddiant, modelu rôl a diwylliannau yn y gweithle. Er enghraifft, mae Openreach yn priodoli eu llwyddiant wrth logi 600 o brentisiaid peirianneg benywaidd (gan gynnwys 50 yma yng Nghymru) i’r iaith gynhwysol y maent yn ei defnyddio yn eu hysbysebion swydd a’u disgrifiadau swydd. Y math hwnnw o ymdrech ymwybodol gan gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant i ymgysylltu ar bob cam, gan ddeall bod ganddynt gyfrifoldeb i ysbrydoli a chysylltu, sy’n gwneud gwahaniaeth yn y pen draw i rywun sy’n estyn allan am gyfle – neu beidio.
Mae CIPD Cymru yn cydnabod bod gan gyflogwyr (ac yn benodol adrannau AD a D&D rôl enfawr i’w chwarae o ran agor sefydliadau i dalent pob cymuned: creu cadwyn ddwyffordd o werth lle gall cyflogwyr gael mynediad at gyfalaf dynol nas defnyddiwyd o’r blaen – a gall unigolion ddilyn eu cyfleoedd bywyd fel gweithwyr.
Mae’r ymagwedd honno wrth wraidd digwyddiad CIPD Cymru. “Yn gudd, ond ar gael – cronfa dalent amgen Cymru”, a fydd yn canolbwyntio ar helpu pobl sydd wedi’u ‘datgysylltu’ i gael gwaith. Efallai y bydd angen cymorth ar y bobl hynny i symud i’r gweithle am y tro cyntaf. Efallai y byddant yn ei chael hi’n anodd sylweddoli’r sgiliau sydd ganddynt yn naturiol. Efallai eu bod wedi colli hyder yn eu galluoedd – neu gallant hyd yn oed gael eu llethu gan y gwahanol opsiynau sydd ar gael iddynt. Beth bynnag fo’r rhwystrau, mae’n galonogol bod y ‘proffesiwn pobl’ yn ceisio llunio atebion i helpu darpar weithwyr i ddod yn gydweithwyr go iawn, gyda llwybr i ddilyn eu gobeithion, eu breuddwydion a’u huchelgeisiau, waeth beth fo’u cefndir neu eu cyfeiriadedd.
Diwrnod sy’n golygu llawer iawn, i lawer iawn o bobl …
Buom yn siarad â menywod mewn swyddi uwch wrth galon busnes a bywyd cymunedol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, i gael gwybod beth mae’r diwrnod pwysig hwn a’r agenda cynhwysiant ehangach yn ei olygu iddynt:
Mae cynhwysiant wedi bod yn bwysig erioed ym mywyd Y Cynghorydd Lisa Mytton, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac aelod o Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddathliad mor bwysig o gynhwysiant rhywiol, yn annog menywod i ddilyn y llwybr y maent yn ei haeddu, waeth beth fo’r rhwystrau y gallant eu hwynebu oherwydd eu rhyw. Gadewais yr ysgol yn 16 oed ac un o’r pethau gorau a wnes i erioed oedd ymuno â Chynllun Prentisiaeth Ieuenctid YTS i weithio mewn asiantaeth deithio. Des i’n un o’i rheolwyr ieuengaf a rhoddodd yr ymrymuso hwn yr hyder i fi fynd i’r brifysgol, lle gwnes i gymhwyso’n ddarlithydd.
“Yna ymunais â ALS Training lle des i’n Bennaeth Ansawdd, yn gweithio ar bolisïau a gweithdrefnau gan gynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth – cyn cael fy ethol i Gyngor Merthyr ar ôl arwain brwydr i achub cae iar gyfer y gymuned ac rwyf wedi bod yn Faer ac, ers 2021, yn ail Arweinydd benywaidd y cyngor. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rwy’n annog pob menyw i ddilyn eu breuddwydion – peidiwch â gadael i unrhyw beth eich dal yn ôl, mae ynoch chi’r potensial i gyflawni’r gorau a fedrwch.“
Yn ôl Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Dirprwy Gadeirydd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd modelu rôl:
“Mae angen i ferched a menywod ifanc weld enghreifftiau o fenywod yn llwyddo mewn rolau proffesiynol amrywiol ac mewn busnes yn gyffredinol, gan eu hysbrydoli i ymuno â’r proffesiynau hynny sydd wedi bod yn llawn dynion yn draddodiadol – a thaflu goleuni ar lwybrau gyrfa ym mhob sector, gan gynnwys llywodraeth leol a meysydd eraill o fywyd cyhoeddus. Mae angen i hyn ddigwydd yn yr ysgol gynradd i’w gosod ar y llwybr cywir ar gyfer llwyddiant – ac mae angen ymgorffori hyn ym mhob cyngor gyrfa mewn ysgolion.”
Mae Karen Thomas, Pennaeth Corfforaethol De Cymru yn Barclays ac Aelod o Fwrdd Partneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn pwysleisio’r cynnydd cadarnhaol sy’n cael ei wneud o ran cynhwysiant:
“O fewn y mis diwethaf yn unig, mae Barclays wedi croesawu ei Prif Swyddog Ariannol benywaidd cyntaf mewn dros 300 mlynedd, gyda phenodiad Anna Cross. Erbyn hyn mae gan hanner pedwar banc mwyaf y DU gyfarwyddwyr cyllid benywaidd ac mae’r 18 mis diwethaf wedi herio pob rhagdybiaeth a #TorrirRhagfarn – felly mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle gwych i gydnabod y cynnydd rydym wedi’i wneud o ran hyrwyddo modelau rôl a hyrwyddo amrywiaeth.”
Mae Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg ac Aelod o Fwrdd Panel Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn pwysleisio bod angen gwneud llawer o waith o hyd:
“Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw #TorrirRhagfarn a dyna’n union y mae angen i ni ei wneud i greu cenedl wirioneddol gynhwysol a chyfartal. Ers sefydlu Chwarae Teg 30 mlynedd yn ôl mae llawer o gynnydd wedi’i wneud, ond mae ein hadroddiad blynyddol ar Gyflwr y Genedl a gyhoeddwyd fis diwethaf yn amlygu eto sut y gall nodweddion fel rhyw, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oedran a ffydd ryngweithio a chreu profiadau lluosog o anfantais yn aml.
“Er mwyn creu Cymru fwy cyfartal, mae angen i ni ganolbwyntio ar y rhai mwyaf ymylol yn gyntaf; y bobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf. Dyna pam ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod a phob diwrnod arall mae angen i’r llywodraeth, busnes a chymdeithas sifil weithredu i sicrhau bod pawb yn ein cymdeithas yn gallu cyflawni a ffynnu yng Nghymru.”
Ac mae’r geiriau olaf yn mynd i Victoria Mann, Prif Swyddog Gweithredol Near Me Now ac Aelod o Fwrdd Cyngor Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a nododd y canlynol:
“Mae’r stereoteip hen ffasiwn o George Banks yn y ffilm Mary Poppins, yn gadael y tŷ bob bore ac yn dychwelyd adref gyda’r nos, heb ystyried unrhyw gyfrifoldebau y tu allan i’r gwaith, yn dal i fod yn realiti’r diwylliant mewn llawer o weithleoedd heddiw. Mae honno’n sefyllfa hynod freintiedig i fod ynddi; un sy’n dod â mantais gystadleuol anweledig dros y rhai na allant adael eu cyfrifoldebau a’u gofal dros eraill ar garreg y drws. Mae’n bwysig ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod i dreulio ychydig amser yn prosesu’r syniad hwnnw, a’r ffaith bod Mrs Banks yn gallu treulio ei dyddiau’n hyrwyddo ei hachos a gadael y plant gyda nani yn y ffilm tra bo hyn yn gwbl amhosibl i’r mwyafrif wrth gwrs.
“Gall bywyd newid mewn chwinciad i bob un ohonom ac er bod sgyrsiau am anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn fan cychwyn amlwg i’r drafodaeth ynghylch yr angen am weithle mwy cynhwysol, empathig a thosturiol, byddai’r newid hwnnw hefyd o fudd i’r nifer fawr o weithwyr sydd o dan y radar, y mae eu heriau bywyd a’u cyfrifoldebau gofal, boed dros blant neu berthnasau oedrannus, yn aml yn cael eu hanwybyddu.”