Gallai gweithio yn y sector gofal fod ymhlith y swyddi mwyaf gwerth chweil a boddhaus y byddwch yn ei wneud. Byddwch yn gweithio gyda phobl y mae angen eich holl ofal a sylw arnynt, boed yn blant ifanc, yn eu harddegau ac yn agored i niwed, neu’n hŷn ac yn eiddil.
Nid yw swyddi yn y sector gofal ymhlith y rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf nac y rhai uchaf eu bri. Ond maent mor hanfodol bwysig ag unrhyw swydd y byddwch yn dod o hyd iddi, ac mae’r boddhad a gewch chi o wneud gwahaniaeth go iawn ym mywyd rhywun, rhywun sy’n hollol ddibynnol ar eich cymorth, ynddo’i hun y fath arbennig iawn o wobr.
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf rydym wedi edrych ar rai o’r swyddi y mae pobl sy’n gweithio yn y sector gofal yn eu gwneud, o nyrsys meithrin i reolwyr cartrefi gofal preswyl i bobl ifanc cythryblus yn eu harddegau neu bobl hŷn ac eiddil. Mae’r bobl sy’n gweithio yn y swyddi hynny wedi dweud yr un peth wrthym: er bod y gwaith yn anodd ac yn aml yn heriol, mae’r boddhad maent yn ei deimlo ar ddiwedd y dydd yn enfawr.
Dywedodd Jacqui Kempa, rheolwr y feithrinfa yng Nghanolfan Gofal Dydd Prifysgol Caerdydd, ei bod hi a’i chydweithwyr yn teimlo fel rhan o ddirprwy deulu estynedig i’r plant yn eu gofal. Dywedodd hi
“… mae’n fraint fawr gwybod bod rhieni’n ymddiried ynom i ofalu am eu plant, hyd yn oed nawr gyda Covid-19 yn mynd ‘mlaen. Maen nhw’n ymddiried ynof yn llwyr, ac alla i ddim dweud faint mae hynny’n ei olygu.”
Aeth yn ei blaen i ddweud: “Ry’n ni’n treulio cryn dipyn o amser gyda’r plant ac yn dangos esiampl iddyn nhw. Ry’n ni’n dysgu llawer iddyn nhw. Mae’n fraint cael gwneud hynny a gwylio’r plant yn datblygu ac yn dysgu rhywbeth ry’ch chi wedi’i ddysgu iddyn nhw – does dim byd gwell na hynny.
“Dyma’r swydd fwyaf gwerth chweil allwch chi ei gwneud, ac mae’ch ymdrechion yn talu ar eu canfed,”
Dywedodd Claire Bevan, rheolwr cyfleoedd gofal plant yng Nghyngor Abertawe, y byddai’n annog unrhyw un i fynd i mewn i ofal plant, a bod digon o gyfleoedd ar gyfer datblygu personol a dilyniant gyrfa cyhyd â bod y rhinweddau cywir gennych.
“Ewch amdani, cyn belled â’ch bod yn angerddol, yn meddu ar empathi, ac eisiau dysgu a deall,” meddai, gan ychwanegu: “Mae pawb yn meddwl bod gofal plant yn faes cyfyngedig iawn, ond mewn gwirionedd mae’n agor y drws i fyd cyfan o gyfleoedd gyrfaol.”
Dywedodd Wynne Randles, yr arweinydd tîm mewn cartref preswyl i bobl ifanc, fod ei rôl bresennol yn rhoi mwy o amser iddo ymgysylltu â’r bobl ifanc yn ei ofal a’u helpu, o’i gymharu â’r swyddi gwaith ieuenctid eraill roedd e wedi eu gwneud.
“Mewn cartref preswyl ry’ch chi yno’n llawn-amser – gallwch roi’r cymorth a dangos yr esiampl sydd eu hangen arnynt. Mae’n swydd mor werthfawr a, thrwy’r gofal hwnnw, gallwch wneud gwahaniaethau sy’n newid bywyd,” meddai.
Tra bod llawer o bobl yn y sector gofal yn gweithio gyda phlant ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau, mae rhai eraill yn gweithio gyda phobl hŷn ac eiddil. Efallai bod yr heriau’n wahanol, ond mae’r budd o fod wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun yr un peth.
Mae Claire Mather yn rheolwr gweithredol yn S&S Care, ac mae’n gyfrifol am 3 chartref gofal ac asiantaeth gofal cartref. Mae’r rhan fwyaf o’i defnyddwyr gwasanaeth yn hŷn ac yn eiddil, rhai’n dioddef o gyfnodau datblygedig dementia.
Yn wreiddiol roedd Claire yn bwriadu bod yn fydwraig, ac mae hi’n cymharu gofal cymdeithasol â gweithio mewn ysbyty lle y gwnaeth ei hyfforddiant nyrsio.
“Does dim gofal yn yr ysbyty, yr unig fwriad yw rhyddhau’r cleifion, ac mae’n ymagwedd feddygol iawn, tra bod gofal cymdeithasol yn ymwneud â dod i adnabod pobl, rhoi cysur iddyn nhw a gwneud gwahaniaeth o ddydd i ddydd.” meddai hi.
Mae’r sector gofal yn hanfodol i economi Cymru; heb y cymorth y mae gweithwyr gofal yn ei roi i deuluoedd trwy ofalu am blant, pobl hŷn a phobl eraill sy’n agored i niwed, ni fyddai llawer o oedolion yn gallu mynd allan i weithio. Mae’r angen am weithwyr gofal yn mynd i gynyddu yn y blynyddoedd i ddod, wrth i’r boblogaeth dyfu ac yn mynd yn hŷn.
Hefyd mae’r sector gofal wedi derbyn mwy o gydnabyddiaeth proffil uchel o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Bu camau ar y gweill yn ystod y blynyddoedd diweddar i wella sgiliau yn y sector a chodi safonau datblygiad proffesiynol.
“Os ydych chi wedi chwarae rhan mewn unrhyw dîm lle roeddech chi’n dymuno grymuso a helpu eraill, os ydych chi’n credu bod pob plentyn yn waith sydd ar y gweill, os gallech eu helpu i wneud beth maen nhw eisiau ei wneud mewn bywyd, dewch i gael sgwrs gyda rhywun sy’n gweithio yn y sector,” ychwanegodd Wynne.
“Gallai eich sgiliau a’ch rhinweddau fel person greu tonnau o effaith am genedlaethau i ddod.”
Felly i gael gyrfa sy’n werth chweil gyda chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol, efallai ei bod yn bryd cael golwg ar ofal cymdeithasol.
Oes diddordeb gennych? I gael mwy o wybodaeth cliciwch yma.
Byddwch yn gweld bod llawer o bobl sy’n gweithio yn y maes hwn wedi gwneud y naid o swyddi megis lletygarwch neu fanwerthu. Mae angen mwy o weithwyr gofal cymdeithasol ar frys ar y sector, felly os ydych chi’n credu bod gennych sgiliau trosglwyddadwy, ystyriwch eu defnyddio ac edrychwch ar rolau posibl yn eich ardal yma.
Yn olaf, ydych chi heb benderfynu o hyd? Mae gwybodaeth fwy cyffredin ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/ neu efallai os ydych chi eisiau gweld sut beth yw gweithio yn y maes gofal, efallai gallech chi gymryd ein cwis rhyngweithiol “A Question of Care” y gallwch ddod o hyd iddo ar www.aquestionofcare.org.uk