Paratoi i gyflymu economi arloesi de-ddwyrain Cymru o safon fyd-eang gyda’r Parth Buddsoddi gwerth £160m

Categorïau:

Heddiw, cyhoeddodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (PRC) fod ei rhaglen Parth Buddsoddi arloesol gwerth £160 miliwn dros gyfnod o 10 mlynedd yn symud i’r cam cyflawni; mae hyn yn gam mawr ymlaen yn uchelgais y rhanbarth i ddod yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu uwch a thechnolegau digidol.

Gyda’r nod o gyflymu arloesedd, denu buddsoddiad a chreu miloedd o swyddi â gwerth uchel, bydd y rhaglen – sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru – yn adeiladu ar glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd y rhanbarth sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, gan greu cyfleoedd newydd i fusnesau, cymunedau a thalent ar hyd a lled de-ddwyrain Cymru.

Disgwylir i’r rhaglen ddenu mwy na £500 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat dros y degawd nesaf, creu hyd at 4,000 o swyddi medrus iawn a darparu gofod newydd sylweddol ar gyfer ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu uwch.

Cafodd y rhaglen ei datblygu mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd, yn ogystal â Phrifysgol Caerdydd, ac mae’n sefydlu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer twf rhanbarthol, gan helpu i sefydlu de-ddwyrain Cymru fel un o leoliadau mwyaf cystadleuol Ewrop ar gyfer busnesau sy’n cael eu gyrru gan arloesedd.

Dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: “Mae Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfle pwysig i gyflymu twf, arloesedd a ffyniant ledled de-ddwyrain Cymru.

“Er ei fod yn canolbwyntio ar ardal teithio i’r gwaith Casnewydd a Chaerdydd, bydd ei fanteision i’w teimlo ar draws pob un o’r deg awdurdod lleol drwy fuddsoddiad newydd, cadwyni cyflenwi cryfach, gwell darpariaeth sgiliau a chyfleoedd am swyddi â gwerth uchel.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Chris Weaver, Arweinydd Cyngor Caerdydd: “Mae Caerdydd, Casnewydd a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ehangach eisoes yn gyrru arloesedd mewn sectorau a fydd yn llunio economi’r dyfodol, o led-ddargludyddion a gweithgynhyrchu uwch i seiberddiogelwch, diwydiannau creadigol a thechnolegau digidol.

“Mae’r rhaglen £160 miliwn y Parth Buddsoddi yn rhoi cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i ni adeiladu ar y cryfderau hynny a denu cannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad gan y sector preifat: gan gefnogi busnesau i dyfu ac arloesi, denu buddsoddiad, a chystadlu ar lwyfan byd-eang. Yn hollbwysig, gall hyn helpu i greu miloedd o swyddi, gwneud ein rhanbarth yn fwy llewyrchus a gwydn, a helpu i yrru twf am ddegawdau i ddod.”

Mae gweithgarwch y Parth Buddsoddi eisoes yn cael effaith. Mae PRC wedi cefnogi amrywiaeth o fentrau cynnar i gryfhau ecosystem technoleg y rhanbarth, gan gynnwys buddsoddi mewn seilwaith, ymyriadau sgiliau wedi’u targedu a rhaglenni a gynlluniwyd i ddyfnhau cadwyni cyflenwi lleol a chynyddu cystadleugarwch busnesau.

Eleni, arwyddwyd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arwyddocaol rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Stephen Kinnock AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Bydd y Parth Buddsoddi hwn gan Lywodraeth y DU yn ysgogiad ar gyfer diwydiant uwch-dechnoleg ac arloesedd – gan greu swyddi a chyfleoedd newydd ar gyfer cymunedau ledled de-ddwyrain Cymru.

“Bydd yn adeiladu ar y dalent a’r arbenigedd sydd eisoes i’w gweld yn y rhanbarth, gan gefnogi datblygiad gweithlu medrus iawn sy’n gallu cwrdd ag anghenion y diwydiant ymhell i’r dyfodol.”

Wrth edrych ymlaen at effaith hirdymor y rhaglen, dywedodd Adam Price AS, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni: “Mae lansio Parth Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn eiliad dyngedfennol i dde-ddwyrain Cymru. Drwy ddod â busnes, y byd academaidd a’r llywodraeth ynghyd o amgylch ein clwstwr lled-ddargludyddion blaengar, rydym ni’n troi cyfle yn gamau gweithredu ac yn creu swyddi medrus iawn, yn sbarduno buddsoddiad sylweddol, ac yn adeiladu economi gynaliadwy ac arloesol ar gyfer dyfodol y rhanbarth.

“Mae’r Parth Buddsoddi yn ganlyniad gwaith partneriaeth parhaus a bydd yn allweddol i’n helpu i hybu twf, gwella cynhyrchiant, cryfhau gwydnwch y gadwyn gyflenwi, a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn helpu i sbarduno hyder y sector preifat.”

Mae rhaglen sgiliau gwerth £4 miliwn bellach ar agor i bartneriaid cyflawni ddod yn eu blaenau, a bydd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi datblygiad y gweithlu, gan helpu pobl leol i gael mynediad at yrfaoedd â gwerth uchel.

Myfyriodd yr Athro Wendy Larner, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, ar y mater:

“Mae’r rhaglen Parth Buddsoddi gwerth £160 miliwn yn rhoi cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth i ni adeiladu ar y cryfderau hynny a denu buddsoddiad o’r sector preifat gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd:

“Rwy’n hynod falch o rôl Prifysgol Caerdydd fel cyd-lofnodwr a sefydliad angori ym Mharth Buddsoddi De-ddwyrain Cymru. Mae de-ddwyrain Cymru ar drobwynt strategol, ac rydym ni’n cyflawni ymchwil gweithredol, deinamig ac effeithiol iawn a fydd yn arwain at adfywiad economaidd a chymdeithasol diriaethol, cynaliadwy a chynhwysol ar draws y rhanbarth.

“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a’n partneriaid i alluogi trawsnewidiad teg ac i gefnogi ein cenedl fach ond nerthol i ffynnu.”

Dywedodd Caroline O’Brien, Prif Swyddog Gweithredol, CSA Catapult, “Mae CSA Catapult yn canolbwyntio’n glir ar farchnadoedd cynyddol AI ac amddiffyn. O’n canolfan yn y Parth Buddsoddi, rydym ni’n helpu i ehangu cwmnïau lled-ddargludyddion y DU, gan ddarparu budd economaidd hirdymor. Ar hyn o bryd mae gennym ni sawl partner rhyngwladol wedi’u cydleoli yn y Catapult ac rydym ni’n awyddus i ddenu mwy. Rydym ni’n cefnogi uchelgeisiau Parth Buddsoddi PRC yn llawn i ddod yn ganolfan fyd-eang, a chreu cysylltiad â gweddill y DU.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Parth Buddsoddi a’i flaenoriaethau, ewch i

www.cardiffcapitalregion.wales/cy/

Rhannu:




Newyddion Cysylltiedig

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) newydd groesawu a chynnal tîm Twf Rhanbarthol Connected Places Catapult yn ei swyddfeydd Sbarc yng Nghaerdydd, gan gryfhau’i phartneriaeth strategol gyda sbardunwr arloesi’r Deyrnas Unedig ar gyfer trafnidiaeth, yr amgylchedd adeiledig, dinasoedd a thwf lleol.  

Subscribe for updates

Skip to content