Partneriaeth Twf Economaidd Ranbarthol (PTER) Prifddinas Ranbarth Caerdydd (P-RC): llunio strwythur rhanbarthol ar sail ‘C.A.E’.

Categorïau:
Buddsoddiadau

Gyda Phrosbectws Buddsoddi P-RC, “Llewyrch i’n Lle” yn barod i’w gyflwyno i Lywodraethau Cymru a’r DU, roeddem o’r farn ei bod yn amserol archwilio sut mae Partneriaeth Twf Economaidd (PTER) P-RC yn esblygu i ddiwallu anghenion strwythur rhanbarthol. Roedd Adroddiad SQW a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU yn canmol y gwaith a wnaed hyd yma gan y PTER, felly aethon ni ati i holi am farn Frank Holmes, Partner Gambit Corporate Finance a Chadeirydd y PTER a Kevin Gardiner, Strategydd Buddsoddi Byd-eang Rothschild Wealth Management a chyd-aelod o Fwrdd y PTER, i ddarganfod beth y maen nhw’n credu yw’r prif hanfodion ar gyfer y 12 mis nesaf …. 

“Fe sefydlon ni’r PTER dair blynedd yn ôl ar sail y  ‘C.A.E’ sef Cynghori, Arfarnu ac Eirioli. Wrth i ni esblygu o’r Fargen Ddinesig i ranbartholi ehangach, mae’r C.A.E bellach yn canolbwyntio ar un rheidrwydd allweddol – i sicrhau ein bod yn rhoi popeth sydd ei angen ar waith i gefnogi ein taith tuag at statws rhanbarthol, gyda fframwaith sy’n gallu rhoi camau gweithredu ac uchelgeisiau’r “Prosbectws Buddsoddi” ar waith, esbonia Frank.

“Annog canlyniadau a safbwyntiau gwybodus iawn gan adeiladu momentwm a disgwyliad

“Mae hyn i gyd yn cyd-fynd yn fawr ag adroddiad diweddaraf y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD), sy’n amlwg wrth argymell Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CBC) fel y cyfrwng cywir ar gyfer cydlyniad rhanbarthol – ac i adeiladu ar y sylfeini rydym eisoes wedi’u creu” meddai Frank. “Mae pobl o safon yr Athro Kevin Morgan yn cytuno â barn yr OECD; ac wrth gwrs, rydym hefyd wedi ein calonogi’n fawr gan Adroddiad SQW a dynnodd sylw at aeddfedrwydd a gwaith partner y PTER – a’n dull bytholwyrdd o geisio elw ar ein buddsoddiadau ac ailgylchu’r cronfeydd hyn.

“Mae’r safbwyntiau a’r lleisiau gwybodus hyn wedi creu momentwm a disgwyliad, felly rydym yn naturiol yn ceisio datblygu’r endid rhanbarthol, gan ganiatáu i ni fwrw ymlaen â’n rhaglen cymorth busnes, ein strategaeth sgiliau, ein hymgyrch i ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor, ein datblygiad o gynigion sectoraidd, ein twf sy’n ffocysu ar sectorau o gryfder gan greu clystyrau gydag enw da byd-eang, aeddfedu ein hystod o Gronfeydd Buddsoddi – a’r holl gamau eraill rydym wedi’u nodi a manylu arnynt i ddod â ffyniant cynaliadwy i’n rhanbarth.”

“Mae datgloi adnoddau a rhyddhau potensial yn rhan fawr o’r hyn yw’r cam nesaf”

“Mae’r Prosbectws Buddsoddi yn weledigaeth gynhwysfawr, drylwyr a chyraeddadwy” pwysleisia Kevin “ond fydd pobl ond yn dechrau deall beth mae’n ei olygu pan fyddwn yn dechrau torri tir newydd yn llythrennol – i ddechrau cyflawni ein prosiectau seilwaith economaidd yn amlwg. Pan fydd pobl yn gweld arwyddlun P-RC ar ben  datblygiadau gwirioneddol drawsnewidiol ar draws De-ddwyrain Cymru – gan ddarparu rhaglenni cyd-gysylltiedig ac arloesol ym maes trafnidiaeth, ynni, tai a chyflogaeth – byddant yn gallu gwerthfawrogi’n llawn y dyfodol yr ydym yn ei adeiladu ar gyfer pob cymuned ar draws y rhanbarth.

“Mae’n amlwg i mi nad yw’r dyfodol yn llwm”  pwysleisia Kevin. “Mae’r tymor canolig i’r tymor hir yn cynnig cyfleoedd gwych i ni dyfu, gyda chanlyniadau rhai o’n cwmnïau yr uchaf erioed yn nau chwarter y chwe mis diwethaf.  Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi hyn – drwy arloesi gyda chronfeydd her, agor cyfleoedd caffael yn y sector cyhoeddus wrth wraidd cadwyni cyflenwi lleol, ac economi gynhwysol wedi’i datgarboneiddio.

“Mae’r ffordd rydym wedi tyfu llif o brosiectau cymdeithasol a masnachol pwysig wedi creu argraff fawr arnaf” meddai Kevin “felly rwy’n edrych ymlaen at gyflawni mwy o bethau – a gyda’r ffocws ymarferol hwnnw daw mwy o gyfle i ddylanwadu’n llawn ar yr hyn y gallwn ei wneud. Er enghraifft, amcangyfrifwyd bod £20 miliwn yn gadael ein rhanbarth bob blwyddyn mewn ffioedd a delir i reolwyr pensiwn allanol awdurdodau lleol.  Dychmygwch yr hyn y gallem ei wneud gyda’r cronfeydd ychwanegol hynny pe byddem yn rheoli’r gwasanaeth. Mae hynny’n cyfateb i bedwar Zip World neu wyth buddsoddiad fel Creo Medical yn ein rhanbarth, bob blwyddyn. Mae datgloi’r adnoddau hynny a rhyddhau potensial yr hyn y gellir ei wneud yn lleol yn rhan fawr o’r hyn yw’r cam nesaf.”

“Eiliad unigryw mewn amser i P-RC a Chymru gyfan”

“Mae ein hysbryd o gydweithio yn golygu ein bod yn gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yng Nghyngor Busnes P-RC” meddai Frank yn frwdfrydig “ac mae’r cyfoeth o arbenigedd sector sydd gennym nawr yn ein tîm ehangach ar draws meysydd fel Seiber, Deallusrwydd Artiffisial, Technoleg Feddygol, Technoleg Ariannol a Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn dangos bod gennym y llwybrau arweinyddiaeth ac olyniaeth ar waith i dyfu gyda pharhad a hyder. Mae hynny’n golygu y gallwn estyn allan yn gredadwy i’r byd mawr ac i strwythurau rhanbarthol fel y rhai yng ngwlad y Basg, i rannu gwybodaeth a datblygu ein cynlluniau yn barhaus ar gyfer cynhwysiant economaidd a seilwaith digidol sy’n arwain y byd.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at archwilio sut y gallwn weithio gyda’r endidau rhanbarthol eraill sydd newydd ddechrau eu teithiau eu hunain – gan fod y pedair blynedd diwethaf wedi rhoi cipolwg gwych i ni y gallwn ei rannu” meddai Frank. “Ar hyn o bryd, rydyn ni’n dychmygu yn union sut rydyn ni’n mynd i edrych, sut rydyn ni’n mynd i ymgymryd â chyfrifoldebau ehangach a dyfnach a manylu ar yr amserlen ar gyfer symud i statws CBC – felly mae hefyd yn amser perffaith i feddwl sut y gallwn ryngweithio â’r tri endid rhanbarthol arall yng Nghymru. Mae’r cyfan yn ychwanegu at foment unigryw mewn amser sy’n rhoi cyfle i’r P-RC a Chymru gyfan fachu cyfleoedd sy’n digwydd ond unwaith mewn cenhedlaeth a sicrhau dyfodol mwy llewyrchus a chynaliadwy. Gadewch i ni achub ar y cyfle a symud ymlaen.”

Rhannu:

Newyddion Cysylltiedig

Pan ddadlennodd Gwyddor Data Dynol, a gefnogir gan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, eu llwyfan www.PrevalenceUK.com ddiwedd mis Gorffennaf, gwnaeth fwy na gwneud hanes. Fe gymerodd gam aruthrol fawr dros ddadansoddi iechyd byd-eang, drwy’r byd …

Tanysgrifiad i'r cylchlythyr

Os hoffech dderbyn copïau o'n cylchlythyrau, cwblhewch y ffurflen gyda'ch manylion isod.