Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r ymgyrch ‘Menywod mewn Arloesedd‘ wedi tynnu sylw at yr entrepreneuriaid benywaidd arloesol sydd wedi mynd i’r afael â rhai o’r heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf a wynebwn – o newid yn yr hinsawdd i drafnidiaeth lanach a gwell gofal iechyd – gan greu cymuned gydweithredol o fenywod sy’n dangos esiampl, gan rannu gwybodaeth ac annog twf entrepreneuraidd i fenywod ledled y DU.
Fe’i lansiwyd ym mis Mehefin 2016 i fynd i’r afael â’r diffyg ymgysylltiad entrepreneuraidd benywaidd ag Innovate UK ar y pryd, mae’r fenter hynod lwyddiannus hon wedi gweld cynnydd o 70% yn nifer y ceisiadau gan fenywod am gyllid Innovate UK – ac mae’r dyfeiswyr a’r entrepreneuriaid sy’n llwyddiannus yn y Gwobrau Menywod mewn Arloesedd blynyddol (Menywod mewn Arloesedd – KTN (ktn-uk.org) yn ennill gwobr ariannol o £50,000, yn ogystal â chael yr hyfforddiant a’r mentora gorau yn y diwydiant i ddatblygu eu syniadau a’u datblygiadau arloesol yn llawn.
Rydym yn darparu cyllid ar gyfer unrhyw brosiect arloesi a arweinir gan fenywod, unrhyw le ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, fydd yn ennill gwobr Innovation UK
Croesawodd Jon Wood, Pennaeth Arloesedd a Datblygu Clwstwr yn P-RC y bartneriaeth:
“Mae’n ardystio cred Innovate UK bod syniadau gwych ym mhobman – a gall dyfeisiwr ysbrydoledig fod yn ‘unrhyw un’ – eu bod wedi gwobrwyo 40 o Fenywod mewn Arloesedd yn 2020, a Menyw Arloesol yng Nghymru a gafodd un o’r gwobrau.
“O ystyried creadigrwydd, mentergarwch ac ysbryd entrepreneuraidd a ddangosir gan fenywod o bob oedran ac ym mhob cymuned ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, credwn fod potensial enfawr i dyfu cynrychiolaeth menywod De-ddwyrain Cymru yn y gwobrau eleni – a dyna pam mae P-RC yn buddsoddi fel partner rhanbarthol Innovation UK: yn ceisio arddangos syniadau ac ariannu gweledigaethau entrepreneuriaid benywaidd sydd â phrosiect arloesi rhagorol ac sydd angen cymorth i’w wireddu.
“Rydym yn falch o fuddsoddi yng Ngwobrau Menywod mewn Arloesedd – yn ogystal â buddsoddi yn y Gwobrau Arloeswyr Ifanc sy’n cynnig cyllid i entrepreneuriaid ifanc o gefndiroedd amrywiol” dywedodd Jon “a byddwn yn annog unrhyw un yn ein rhanbarth i gefnogi eu syniadau gwych drwy gymryd rhan yn y cystadlaethau hyn.”
Mae’r gystadleuaeth yn mynd yn fyw ar 23 Awst ac yn cau ar 13 Hydref, gyda gwobrau ariannu gwerthfawr yno i’w hennill
Mae Gwobrau Menywod mewn Arloesedd 2021/22 ar agor ar gyfer ceisiadau o 23 Awst i 13 Hydref – ac rydym am i’r ceisiadau eleni rymuso’r arloesi gorau a arweinir gan fenywod o bob rhan o’n rhanbarth.
Felly, os oes gennych syniad arloesol ysbrydoledig a all newid ein byd er gwell, camwch tuag at eich dyfodol nawr, yn: Trosolwg ar y gystadleuaeth – Gwobrau Menywod mewn Arloesedd 2021/22 – Gwasanaeth Ariannu Arloesedd (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)